divendres, 27 de gener del 2006
dilluns, 16 de gener del 2006
Dydd Iau 4 Awst 2006. Mitshio o'r Maes a mynd ar y trên i dref deg y Fflint. Yn y cefndir gwelir bloc o fflatiau oedd wedi cerdded bob cam o Lerpwl. Dim ond Saesneg â llediaith Lerpwl arni oedd i'w chlywed yn y dref honno. Ai Saeson oedden nhw, neu Gymry sydd wedi mynd yn Sgowsers? Ar ôl cant ebost aeth Gwyneth yn benwan. Ac fe es innau'n benwan hefyd - ar ôl deng munud yn y Fflint.
3 Awst 2005. A dyma'r maes pebyll o'r sarn dros dro. Gyferbyn â'm hafod fach yr oedd carfan o Saeson wedi nythu. Doedden nhw ddim wedi dod i'r Steddfod - wedi clywed am le rhad i godi pabell mae'n debyg. Bu rhaid dioddef eu cleber amhersain ac anhyfryd am ddeuddydd tan oriau mân y bore cyn iddyn nhw hel eu pac.
3 Awst 2005. Dyma'r babell yn y blaendir. Roedd clwyd fach yng nghornel y cae hwn yn ymagor i gae garw. Yn y nos aeth y cae hwnnw yn lle deniadol i lawer, a chan fod y cwr hwn o'r byd mor dywyll yn y nos, baglodd aml un dros gordiau'r babell. Bu rhaid imi godi yn y nos a'i symud nes i lan. Chwympodd neb arall ar faes y gad wedyn.
Awst 3 2005. Yr olygfa o'r babell ym Mharc y Faenol, Eisteddfod Eryri. Y fynedfa i'r maes - y golchdai a'r tollborth yn y pellter draw ym mhen y cae. Y bore hwnnw fe redais i i lawr i Gaernarfon ac yn ôl gan ddymuno 'Bore Da' i bawb ar y llwybr, y rhan fwyaf yn cerdded ci. Golwg filain ges i gan lawer - Saeson yr oeddwn i wedi merwino'u clust. Tybed ai ymwelwyr oedden nhw? Fe ges i'r argraff taw rhai oedd wedi ymsefydlu yn y cylch oedden. Ambell Gymro / Gymraes yn dymuno 'Bore da' yn ôl imi.
Canol Ionawr? Lluniau'r Steddfod
Canol Ebrill 2005 wedais i? Canol Ionawr yw hi erbyn hyn - 2006. Mae'n hen bryd i mi felly roi rhai o luniau Steddfod 2005 arlein. Ond sut?
Subscriure's a:
Missatges (Atom)