divendres, 4 d’agost del 2006

Dydd Iau 3 Awst 2006


Bu raid imi dreulio rhai dyddiau yn Lloegr yr wythnos diwethaf. Ar ôl cyrraedd yn ôl o Faes Awyr John Lennon (“uwch ein pennau yr wybren yn unig” - above us only sky) dyma weld nodyn wrth y ffôn - R. wedi galw, wedi mynd i’r caffi o flaen Ysbyty Sant Pawl ddydd Iau yn y bore ond ar ôl awr wedi dychwelyd adref. Mae R. yn astudio Cymraeg, ac yr wyf yn rhoi gwers fach iddo bob wythnos yn y caffi hwnnw - ar dydd Llun. Mae’n wir i ni ei wneud ryw ddydd Iau yn ddiweddar - ond pam daeth e ddydd Iau diwethaf?

Ceisio ei ffonio sawl tro - weithiau y mae llais yn dweud yn Gastileg bod y ffôn poced ddim yn derbyn galwadau; ar adegau eraill, mae’r llais yn gorchymyn i mi adael neges ar ôl y bîp.

Bydd rhaid i mi ddweud wrtho fod neges y cwmni ffôn yn Gastileg - ni fydd yn rhyw fodlon ar hynny. Yn niffyg gorchymyn croes, y Gastileg biau hi ym myd masnach Catalonia. Ar ôl llythyru / ebostio / ffonio â gofyn / deisyf / bygwth mae modd cael i gwmni masnachol arfer iaith briodol y wlad hon - nes i chi droi cefn, a dyma’r Gastileg yn disodli’r Gatalaneg unwaith eto, a mae rhaid dechrau’r frwydr o’r newydd.

Ond er gwaethaf y negeseuon am iddo fy ffonio, nid oes yr un alwad ganddo ataf. Yr wyf yn lled gofio iddo ddweud nad yw’n gwrando ar y negeseuon yn aml, neu yn eu gwaredu heb wrando arnynt (i arbed amser, chwedl yntau).

Nos Fawrth - nodyn arall wrth y ffôn. R. wedi galw. Truca’l - rho alwad iddo.
Neges arall - beth am gwrdd yfory - dÿdd Mercher - yn y caffi hwnnw?

Wyth o’r gloch y bore - galwad gan R. Na, nid oedd wedi derbyn yr un o’m negeseuon. Sut hynny felly? “Quin número has trucat?” Yr wyf yn darllen y rhif ffôn sydd yn y llyfr nodiadau. “Wel nid dyna’r rhif bellach,” daw’r ateb.

Mewn gwirionedd mae sawl rhif ffôn poced wrth enw R. yn fy llyfr nodiadau. Y mae R. yn byw yn yr oes o’r blaen, cyn i’r ddinas hon ddod yn gyrchfan i fân-ladron o bedwar ban byd. Nid yw’n gafael yn dynn yn ei eiddo wrth grwydro’r ddinas. Ac y mae ei eiddo yn ffarwelio ag ef.

Yr wyf wedi rhoi llinell trwy bob un o’r ffonau a dducpwyd oddi arno. Ond am ryw rheswm yr wyf wedi roi llinell trwy y rhif cyfredol, gan adael rhif y ffôn diwethaf a gipwyd.

Aeth R. i siop i brynu batri i’r ffôn bwy ddydd, ac wrth ei roi ar y cownter dyma Indiad bach o Dde América yn gadael i gwpwl o ddarnau arian gwympo i lawr, a gofyn i R. a oedd yn eu gweld ar lawr, ac ar ôl dynnu sylw R. oddi ar ei ffôn, dyma’r lleidr yn mynd o’r siop a’r ffôn yn ei boced.

Yr ydym yn trefnu cwrdd yfory i sôn am - wel, am daith i Eisteddfod Abertawe. Ond nid mor hawdd â hynny yw’r mater. Nid oes gan R. yr un senten goch. Mae ychydig o dâl diswyddo gennyf ar ôl colli fy ngwaith yr wythnos diwethaf - digon i fyw arno am y tri mis nesaf, er fy mod yn gobeithio cael swydd arall cyn i’r arian ddiflannu. Cynnig rhoi benthyg pres i R. - fe all roi’r arian yn ôl ymhén blwyddyn neu ddwy.

Heno cawn gyfarfod gyda’r Capten - mae yntau hefyd yn awyddus i fynd i’r Eisteddfod.

És un època de vaques flaques per a nosaltres enguany. Mae’n lled fain arnom eleni (“mae hi’n adeg buchod tenau”). Os awn i yno eleni, bydd rhaid cadw careiau’r pwrs yn dynn. Oes modd hala wythnos yno heb wario mwy na 500 o ewroaid - taith ddwyffordd o’r Gwledydd Catalaneg, talu am le i babell am wythnos yn y maes pebyll, mynd i’r Maes bob dydd, cael tamaid o fwyd bob hyn a hyn, ac ambell i beinten i R. a’r Capten? Ac efallai rhyw lyfr neu ddau.

Deg o’r gloch y nos, yn annedd y Capten felly.