dilluns, 16 de gener del 2006


Dydd Mercher 3 Awst 2005. Y Bachan Main ei hun ar Faes y Steddfod. Corsydd peryglus ar boptu i'r sarn yn aros i draflyncu eisteddfodwyr â'u meddwl ymhell. Rhai yn taeru iddyn nhw weld aligatorod ar bwys y Pafiliwn. Posted by Picasa

Awst 3 2005. Dydd Mercher. Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg. Cymraeg yn gyntaf. Glynyn mewn ffenestr car a barciwyd ar y maes pebyll. Posted by Picasa

Dydd Mercher 3 Awst 2005. Peiriant gwerthu Côc yn cefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Croeso, gyfaill. Posted by Picasa

Dydd Mercher 3 Awst 2005. Ynghanol y llun y mae Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'. Posted by Picasa

3 Awst 2005. A dyma'r maes pebyll o'r sarn dros dro. Gyferbyn â'm hafod fach yr oedd carfan o Saeson wedi nythu. Doedden nhw ddim wedi dod i'r Steddfod - wedi clywed am le rhad i godi pabell mae'n debyg. Bu rhaid dioddef eu cleber amhersain ac anhyfryd am ddeuddydd tan oriau mân y bore cyn iddyn nhw hel eu pac. Posted by Picasa

3 Awst 2005. Dyma'r babell yn y blaendir. Roedd clwyd fach yng nghornel y cae hwn yn ymagor i gae garw. Yn y nos aeth y cae hwnnw yn lle deniadol i lawer, a chan fod y cwr hwn o'r byd mor dywyll yn y nos, baglodd aml un dros gordiau'r babell. Bu rhaid imi godi yn y nos a'i symud nes i lan. Chwympodd neb arall ar faes y gad wedyn. Posted by Picasa

Awst 3 2005. Yr olygfa o'r babell ym Mharc y Faenol, Eisteddfod Eryri. Y fynedfa i'r maes - y golchdai a'r tollborth yn y pellter draw ym mhen y cae. Y bore hwnnw fe redais i i lawr i Gaernarfon ac yn ôl gan ddymuno 'Bore Da' i bawb ar y llwybr, y rhan fwyaf yn cerdded ci. Golwg filain ges i gan lawer - Saeson yr oeddwn i wedi merwino'u clust. Tybed ai ymwelwyr oedden nhw? Fe ges i'r argraff taw rhai oedd wedi ymsefydlu yn y cylch oedden. Ambell Gymro / Gymraes yn dymuno 'Bore da' yn ôl imi. Posted by Picasa

Llysgenhadaeth y Cymry, Barcelona. Y Ddraig Goch yn chwifio uwchben Heol Palma de Sant Just, yn yr Hen Ddinas 26 Chwefror 2002 Posted by Picasa

Canol Ionawr? Lluniau'r Steddfod

Canol Ebrill 2005 wedais i? Canol Ionawr yw hi erbyn hyn - 2006. Mae'n hen bryd i mi felly roi rhai o luniau Steddfod 2005 arlein. Ond sut?

dimecres, 26 de gener del 2005

Diwrnod Oer

O'r diwedd yr wyf yn mynd i'r arfer o ysgrifennu'r blog yma! Postiais neges ar Nos Galan, ac yn awr bron tair wythnos wedyn dyma fi'n mynd ati i wneud un arall. Fe hoffwn i sôn am bopeth sydd wedi digwydd i mi dros y misoedd diwethaf - wedi'r cyfan, rhoi rhyw bwt bach yn y dyddlyfr bob dydd oedd fy mwriad ar y dechrau.

Ond nid wyf yn cofio dim am yr hyn a wneuthum yn ystod y cyfnod hwnnw, os rhywbeth. Arglwydd, yr wyf yn ffaelu â chofio yr hyn a wneuthum heddiw.

Mae hi'n lled oer yma ym Marselona heno - yn ôl y newyddion heno, dim ond un radd Sélsiws yw hi.

Rhaid cloi yn awr, a dechrau meddwl am fy neges nesaf - tua chanol Ebrill, o bosibl, os gallaf ddal ati ac ysgrifennu'r un mor aml...