Dydd Iau 4 Awst 2006. Mitshio o'r Maes a mynd ar y trên i dref deg y Fflint. Yn y cefndir gwelir bloc o fflatiau oedd wedi cerdded bob cam o Lerpwl. Dim ond Saesneg â llediaith Lerpwl arni oedd i'w chlywed yn y dref honno. Ai Saeson oedden nhw, neu Gymry sydd wedi mynd yn Sgowsers? Ar ôl cant ebost aeth Gwyneth yn benwan. Ac fe es innau'n benwan hefyd - ar ôl deng munud yn y Fflint.
1 comentari:
Tua 3 mlynedd yn ôl daliais y trên yn Y Rhyl. Daeth llais mewn acên Bangor trwm (yn Saesneg) dros yr uchelseinydd a dyma'r ferch o'm mlaen yn dweud wrth ei ffrind "I hate the Welsh accent". A'i ffrind yn gofyn "what accent have you got then?" a meddai hi, "dunno, probably scouse". Aethant ffwrdd ym Mhrestatyn. Debyg mai brodor o'r ardal oedd hi.
Publica un comentari a l'entrada