Iau 20 Gorffennaf 2007
Diwrnod crasboeth arall heddiw.
Dosbarth heno wedi ei ganslo - cefais alwad ffôn o rÿw le yn y ‘país veí’ (y wlad ddrws nesa, sef Castîl Fawr, neu yn ôl y Castiliaid, Sbaen) - byddai’r awyren yn cyrraedd yn rhy hir iddo allu gyrraedd adref mewn pryd.
Ac er bod digon o waith y mae rhaid imi ei wneud, halais i bum awr yn llunio map lled anghelfydd o Eisteddfodau Cymru er 1861.
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_cymru/07_cymru_eisteddfodau_ers_1861_2515k.htm
Mercher 19 Gorffennaf 2006
Diwrnod prysur. Dwy awr o ddysgu Saesneg mewn cwmni heb fod ymhell o Plaça de Catalunya. Dim ond dau o grw^p o ddeg - y lleill yn rhy frysur i ddod heddiw.
I'r pwll nofio ar ôl y wers - cerdded i lan ar hyd Passeig de Gràcia. Fel aelod o Plataforma de la Llengua y mae tipyn o waith imi ei wneud wrth rodio'r rhodfa, a mynd heibio'r i'r arwyddion lu uniaith Gastileg.
http://www.plataforma-llengua.cat/nova/img/material_grafic/adhesius/43.gif
(Plataforma de la Llengua = Cymdeithas yr Iaith Gatalaneg, neu un ohonynt, ysywaeth - mae'r Catalaniaid yn tueddu i wastraffu eu hegni a'u hamser trwy beidio a chyd-weithio, a chodi cynnen gyda’i gilydd am bethau dibwys)
Am bump i adeilad Titanicaidd yr undeb llafur, Comissions Obreres de Catalunya. Problemau am gytundeb gwaith gen i - neu yn hytrach diffyg cytundeb gwaith - mae gormod o gwmnïau yma yn cymryd mantais o weithwyr o wledydd eraill gan feddwl na fyddant yn cwyno am sefyllfa anghyfreithlon, neu yn gwybod eu bod yn anodd iddynt gwyno os nad yw pob darn bach o bapur y mae ei eisiau i fod yn "fewnfudwr cyfreithlon" wedi eu hel at ei gilydd ganddynt, neu unwaith y mae'r casgliad yn gyflawn, eu bod yn dal yn ddilys ganddynt. Mae'r mater hwn wedi bod yn nwylo cyfreithwyr ers pum mis - fe ddaeth yr achos ger bron y barnwr yr wythnos diwethaf. Rhaid iddo benderfynnu a yw gweithiwr sydd yn gweithio i ryw gwmni yn "gyflogedig" neu yn "hunangyflogedig". Yn ôl y sibrydion mae'r barnwr wedi derbyn safbwynt cyfreithiwr yr undeb llafur - ni all cwmni fynnu bod eu gweithwyr yn "hunangyflogedig". Felly gallwn ddisgwyl cytundeb gwaith gan y cwmni cyn hir - os nad ydynt yn fy rhoi ar y clwt am fynd â'r achos i'r llys.
http://www.ccoo.cat/index2.htm
Dosbarth Cymraeg yn y nos - tua blwyddyn yn ôl, ar ôl ysgrifennu rhy sylw ar fforwm Catalaneg,
http://www.racocatala.cat/
cefais neges gan Gatalaniad yn gofyn a wyddwn i am rywun oedd yn rhoi gwersi Cymraeg. Yn y diwedd daeth tri at ei gilydd i wneud dosbarth gen i - tri myfyriwr yn eu hugeiniau cynnar, dau o Gatalonia, ac un o Galisia yn wreiddiol. Wedyn daeth P i'r grw^p, Catalaniad tua 45 oed oedd yn gwybod ambell air Cymraeg. Cafodd wybod am y dosbarth ar ôl siarad â ni yn y stondin Gymraeg a osodwyd gennym yng Ngw^yl y Llyfrau a gynhelir ar Ddiwrnod Nawddsant Catalonia, Sant Siôr. Ond diflanood ar ôl dwy wers, a rw i heb glywed ganddo ers deufis. A myfyriwr arall yn symud i ffwrdd i weithio mewn pentref lan yr arfordir dros yr haf.
Gêm nadroedd ac ysgolion yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r wers heno - cardiau bach â brawddeg yn Gymraeg ar un ochr a’r Gatalaneg ar y llall.
Mawrth Gorffennaf 18
Dim gwaith heddiw - efallai bod gwyliau gen i'n barod. Dosbarth gen i yn y pnawn, ond y myfyriwr ar daith. Mae'n awgrymu gwneud y dosbarth ddydd Iau. Na, mae’r gwyliau yn dal y tu draw i’r gorwel. Dal i hanner gweithio bydda i tan ddiwedd yr wythnos yma o leiaf.
Manteisio ar yr amser rhydd gan geisio rhoi trefn ar y pentyrrau o bapurau newydd a chylchgronau yn y fflat yma. Y rhan fwyaf yn mynd i'r cynhwysydd ailgylchynu papur ar Carrer Padilla heno.
Rhedeg am hanner awr yn y gwyll i Turó Rovira a Parc Güell. Ond hyd yn oed am 21.30 y mae’r gwres yn llethol, a dof i yn f’ôl yn foddfa o chwys.
Llun Gorffennaf 17 2006
Wrthi'n paratoi ymarfer tan rÿw dri y bore neithiwr, i'r ddau ddosbarth Cymraeg sydd gen i. Codi am wyth i roi'r copsi arno. Am 10.00, bant â fi i gaffi ar bwys Ysbyty Sant Paul (Hospital de Sant Pau) lle y byddaf yn cwrdd â myfyriwr Cymraeg bob bore Llun - R, hanesydd o Gatalaniad, tua 60 oed. Mae wedi bod yn astudio gen i ers pedair blynedd, ac y mae'n awyddus i fynd i eisteddfod y Felindre. Ond mae'n dweud yn awr ei fod yn ofni na fydd yn gallu fforddio mynd wedi'r cwbl.
Wedi penderfynnu rhoi’r profion ar y we. Efallai byddan nhw o ddiddordeb i Catalaniaid eraill sydd yn ymddiddori yn y Gymraeg.
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_cwrs/cymraeg_prawf_14_2516c.htm
Rhy dwym i wneud dim yn y pnawn, felly dilyn arfer y gwladwyr a chael migdiada , sef cyntyn pnawn.
Fel arfer rwyf yn rhoi dosbarthiadau preifat yn yr iaith fain i gadw corff ac enaid ynghyd, ond mae'r gwaith wedi bod yn brin eleni. Am bedwar, dechrau paratói y wers ar gyfer heno (yn y stafell hon sydd fel sawna y dyddiau hyn), i'w rhoi mewn bar ar bwys Plaça Sant Jaume yng nghanol y ddinas. Ond erbyn cyrraedd y bar am wyth - taith fer ar y metro o’r ardal hon o’r ddinas - dyma gael gwybod bod y myfyriwr - gwerthwr i gwmni cerbydau - yn awyddus i ymbaratoi ar gyfer taith i Andalwsia ben bore. Trefnu gwneud y dosbarth ddydd Gwener yn lle heddiw.
I'r pwll nofio ym mhentre Gràcia i f'atal rhag toddi yn y gwres myglyd ’ma.
2 comentaris:
Falch dy fod ti wedi ail-gydio yn y blog. Dwi'n licio cadw golwg ar beth sy'n digwydd yn Catalunia a Gwlag y Basg.
Dyma flogiau efallai byddet â diddordeb ynddynt:
Catalanaidd - thebadrash.com, Nicholas Mead a Catalonia, Politics and Supply Chain
Basgaidd - Euskal Blog : Ingeleraz a The English Cemetery
Hoffwn gwneud cywiriad bach. Ym 1995 cafodd yr Eisteddfod ei gynnal yn Abergele a nid Bae Colwyn.
Publica un comentari a l'entrada