dissabte, 20 d’octubre del 2007
Ar y clwt o hyd
Pum mis ymron ers i'r rhan fwyaf o'm heiddo gael ei chludo i storfa yn La Pau ym mhen arall y ddinas, a dim lle sefydlog gennyf i fyw, ond yn hytrach llawr y stafell fyw neu wely rebel yn nhy^ ambell ffrind.
Ond o ddechrau Tachwedd ymlaen mae'n debyg y bydd gennyf fflat bach ar bwys Parc Güell, ond dyn w^yr sut caf i ddigon o'r hen bres 'na i dalu'r rhent.
Gan fy mod yn hunangyflogedig mae'n hynod o anodd argyhoeddi perchnogion fflatiau neu ystafelloedd sydd ar rent fod gennyf incwm rheolaidd a bod modd imi dalu'r rhent bob mis yn ddi-ffael. Ac y mae pob hawl iddynt fod yn ddrwgdybus, am nad oes gennyf incwm rheolaidd...!
Ond trwy help ffrind mawr imi yr wyf wedi cael hyd i le dros dro, heb fod yn rhaid imi amlygu cyfrinachau fy llibreta (llyfr cyfrif y banc), sydd wedi bod ar ei gythlwng ers bron blwyddyn.
Hefyd, o dipyn i beth yr wyf wedi camu i mewn unwaith eto i fyd y rhyngrwyd ar o^l pum mis o fod mewn paith dirithfyd - "y neb a fyddo â'i heiddo mewn storfa a'i caiff ei hun yn ddigyfrifiadur" ys gwetws yr hen air. Diolch byth am y siopau rhyngrwyd a ffôn yn eiddo i'r De-Americanwyr a'r Pacistaniaid yn y ddinas yma, yn sgîl y mewnlifiad enfawr o weddill Ewrop ac o'r Trydydd Byd dros y ddegawd ddiwethaf. Felly ambell dro i'r siopau hyn, ond o dalu 60 sent (40 ceiniog) am bob hanner awr, mae'r llogell gryn dipyn yn ysgafnach ar ddiwedd y mis.
(Bydd rhaid imi so^n am y mewnlifiad newydd hwn rywbryd yn y blòg yma o safbwynt brodorion Catalonia - poblogaeth y wlad wedi cynyddu 25% o'r herwydd mewn cwta ddegawd , o 6 miliwn i 7.5 o filiynau - ac am yr effeithiau ieithyddol dibryd sydd yn bod yn ei sgil. Yr oedd y Gatalaneg oedd yn dechrau ymgodi eto yn y nawdegau ar ol deugain mlynedd o unbennaeth Castilia, y mewnlifiad enfawr cytaf, hefyd o ryw 1.5 miliwn o bobl, y rhain o barthau Andalwsia yn arbennig, ac ugain mlynedd o ffug-ddemocratiaeth - wedi ei thaflu i lawr unwaith yn rhagor. Pa fodd y bydd y Catalaniaid yn delio â hyn? A fydd eu hymateb yn dwyn ffrwyth? Neu a fydd gostyngiad cyson yn nefnydd yr iaith yn parháu?)
Yr wythnos yma: dydd Mercher - modem o siop Vodaphone Heol y Groeslin (La Diagonal) ar gyfer soced USB (120 ewro + 60 ewro am gerdyn 1GB); dydd Iau - hen gyfrifiadur ail law o siop yn Carrer Floridablanca (280 ewro), ac iddo ddisg caled 80 Gb, a Windows XP a rhaglen Office ynddo o hyd - felly am bris cyfan o 460 ewro (300 o bunnoedd) dyma gael y cyfle i wastraffu pnawn cyfan o flaen y sgrîn yn gwibio o wefan i wefan ac yn ysgrifennu eto yn y blòg yma.
dilluns, 11 de juny del 2007
Neges o fforwm Catalaneg
MB diumenge, 10 de juny de 2007 a les 14:44
“Avui a La Vanguardia fa un comentari sobre la crisi de Caprabo, com a causes principals una mala direcció i una politica de compres errada
Heddiw sonia (papur newydd) La Vanguardia am argyfwng (cwmni archfarchnadau) Caprabo; rheolaeth ddrwg a phólisi cyfeiliornus prynu (archfarchnadau eraill)
Però La Vanguardia gens sospitosa de catalanista tambe explica que els va afectar i molt el boicot als seus supermercats de fora de Catalunya
Ond mae La Vanguardia, (papur) na ellir byth ei gyhuddo o fod yn Gatalaniadd, yn esbonio hefyd i’r boicot oedd ar ei archfarchnadau tu allan i Gatalonia wedi cael effaith gryf iawn ar (y cwmni)
Quan collons apendràn els nostres empresaris? si es volen expandir que ho facin per Europa, pero no per la puta Espanya!!!”
Pryd ar glawr daear dysgiff ein pobl fusnes? os y^n nhw am ymestyn (ffiniau tiriogaeth eu cwmnïau) eu bod yn wneud i gyfeiriad Ewrop, ac nid i gyfeiriad y Sbaen ddiawl ’na.
____________________________________________
Mae cwmni Caprabo yn perthyn i pobl fusnes sydd ynghlwm â Convergència i Unió, plaid ranbarthol Gatalanaidd, sydd yn erbyn annibyniaeth i’r genedl.
Ar y dechrau, bu gan y cwmni hwn bólisi o darparu nwyddau yn yr iaith Gatalaneg yn ei siopau yma yng Nghatalonia, ond ers blynyddoedd y mae’r Gatalaneg yn ildio i’r Gastileg. Potaid gwydr o ffa - yn Gatalaneg un wythnos, a’r wythnos wedyn heb un gair o Gatalaneg ar y label. Macynau papur, paceidiau o goffi, enwau’r ffrwythau ar y stondin ffrwythau - o un i un dros y blynyddoedd mae iaith y bobl drws nesa wedi disodli’r Gatalaneg.
Fel y grwpiau Cymraeg a gafodd sefydlu ei hun diolch i’w dilynwyr Cymraeg, ac yna’n cefnu ar y Gymraeg a mynd i ddiddanu’r Saeson.
Ond y tu allan i Gatalonia nid yw’r Catalaniaid eu huniain - heb sôn am eu hiaith - yn cael fawr o barch, a llawer o bobl yn y gwledydd Castileg yn boicotio popeth ddaw o Gatalonia. Er i Caprabo geisio guddio ei fod yn gwmni o Gatalonia, lwyddodd mo’r dacteg hon.
Mae’r papur La Vanguardia yn bapur Castileg ei iaith ac yn hoff newyddiadur y rhanbarthwyr Catalanaidd, sydd yn meddwl bod yr iaith Gatalaneg yn iawn ar y parth neu mewn bárbiciw, ond ddim yn addas at bethau seriws, fel y wasg.
Mae’r cwmni Caprabo wedi gorfod gwerthu llawer o’i ganghennau i gwmni o Wlad y Basg yn bennaf, Eroski.
A La Vanguardia, tan ffyddlon i’r genedl Gastilaidd drws nesa, yn sôn am y boicot fel un o’r rhesymau i’r cwmni losgi’i fysedd yn nhiroedd y Castiliaid..
dimarts, 22 de maig del 2007
Rhagor o rasus
29 Ebrill. Olivella-Margalló (18km). Y mawredd! Mewn gwarchodfa natur, ar hyd heolydd pridd, lan a lawr y llechweddau fel car yn cdi a disgyn ar draciau ffigar-êt.
1 awr,.33 munud (hynny yw, muned) 2 eilad.
5 munud.11 eiliad y cílomedr.
http://www.atletisme.com/classificacions/olivella/
1 Mai. El Papiol. Storm o luchede a thyrfe - ond yn wyrthiol, y glaw yn peidio ar gyfer y ras, ac ailddechrau wrth i'r rhedwyr olaf gyrraedd y terfyn.
50 munud.
5 munud 0 eiliad y cílomedr.
http://www.esportbasedelpapiol.com/castellano/cursa/index.html
6 Mai. Ras y Corte Inglés, Barcelona. 53,000 o bobl os cofiaf yn iawn (neu yn hytrach, 52,000, a mil o gw^n wedi eu cofrestru ar gyfer y ras - pob un â rhif rhedwr ar ei gefn)
https://www.elcorteingles.es/hoy/cursa2007/paginas/catalan/presentacion.htm
13 Mai. Nou Barris 10km. Dim ond dair gorsaf fetro o'r fan hyn. Handi iawn.
43 munud 50 eiliad.
4 munud 23 eiliad y cílomedr.
http://www.atletisme.com/classificacions/noubarris/
20 Mai: Collserola 13.6km. Hm. Dipyn o ddringfa. A'r esgynfa fach reit ar ddiwedd y ras - wel, dyna dric creulon.
4 munud 43 eiliad y cílomedr.
http://www.atletisme.com/classificacions/cerdanyola/

diumenge, 20 de maig del 2007
etholiadau lleol 27 Mai 2007


Y cerdyn pleidleisio wedi cyrraedd. Wythnos i heddiw y mae etholiad ar gyfer cyngor dinas Barcelona.

Ymhen saith awr a hanner y mae ras 13.5 km gennyf yn nhref Cerdanyola. Dyma ddigon o wastraffu amser yn ceisio llwytho delwau heb fawr o lwyddiant. Tybed a fydd y rheini yn diflannu hefyd cyn imi gael cyfle i bostio'r tudalen hwn?
dilluns, 23 d’abril del 2007
Colli'r fflat a rhedeg rasus a phethau dibwys eraill
Llwyth o bethau wedi cael ei daflu i'r ysbwriel - newyddiaduron a chylchgronau Catalaneg a Basgeg yn bennaf hyd yn hyn. Y llyfrau yn cael eu cludo o dipyn i beth dros y ddinas ar y metro i'w gadael mewn fflat ffrind. Ond dim ond rhyw ddeg blychaid yw'r terfyn eithaf ganddo, mae ganddo yntau hefyd gasgliad anferth, ac rhy ychydig o le i roi llety i ragor ohonynt.
Bydd rhai o bosibl i mynd i seler laith mewn pentre yn sir La Noguera, ac eraill mewn hen stordy metal sgrap yn sir La Maresme. A chysgu ar soffa yma a thraw bydd fy hanes dros y misoedd nesaf, mae'n debyg.
A bydd atalnod llawn ar Wefan Cymru-Catalunya am y tro - prosiect tîm bychan ohonom (sef y fi yn y pen draw).
Ym mis Ionawr fe'i caewyd (a'i diddymu yn y fan a'r lle! heb roi cyfle i mi ei harbed yn ei chrynswth) gan y cwmni yn yr Unol Daleithiau oedd yn ei chynnal yn rhad ac am ddim fel prosiect addysgol, wrth iddynt sylweddoli ei bod mewn dwy iaith 'anhysbys' (chwedl hwythau), sef y Gymraeg a'r Gatalaneg; a bod y tudalennau Saesneg ynddi yn llawn 'elitist trivia' (cyfeirio at yr adran ar enwau Cymraeg wedi eu hanelu at Americanwyr yn bennaf yr oeddynt, rw i'n meddwl).
Wedi i ni apelio yn erbyn colli'r wefan, ac yn gorfod ailanfon atynt grynodeb o amcanion a natur y wefan, dyma gael cyfrineiriau newydd ganddynt a chaniatâd i'w rhoi yn ôl ar eu gwasanaethydd.
Ond bu'n well gen i bori mewn cae diogelach, ac erbyn hyn fe'i ceir yn www.kimkat.org - gwefan glytiog ar hyn o bryd, wrth i mi geisio ei dodi at ei gilydd unwaith yn rhagor.
Yn ddiweddar rw i wedi bod yn ychwanegu at y swmp o destunau Cymraeg ynddi. Ond o achos yr oriau benbwygilydd y mae rhaid eu treulio i roi testun ar ffurf HTML (copïo'r testun air am air ar y cychwyn, cyn cael gafel mewn sganer bum mlynedd yn ôl; neu ei sganio a chywiro'r sganiad), yr wyf erbyn hyn yn dodi sganiad amrwd arlein, a delw o'r tudalennau gwreiddiol sydd wedi eu lletya yn wasanaethydd ImageShack, am ddim.
Gobeithio pan fydd gen i dipyn o amser gallaf dwtio dipyn ar y sganiadau, sydd yn frith o wallau am i'r rhaglen OCR fethu â chydnabod llawer o'r llythrennau; ar ben hynny, mae'n dryfrith o sumbolau annymunol ac annisgwyl &@#"º."+`´>/¬¡ ayyb.
Y perygl yw gall ImageShack ddiflannu dros nos. Ond dyna, mae'n rhoi oes newydd am y tro i hen lyfrau Cymraeg anghofiedig, nes marw ImageShack yn sydyn ddydd a ddaw.
Dyddiau du (di-do dros fy mhen) o'm blaen, ond gobeithio "superar aquest tràngol" (dod allan ohoni) yn fuan.
Yn y cyfamser, bydda i'n dal i redeg rasus 10km a hanner marathonau ar y penwythnos.
Ddoe, fe es i lan ben bore i Girona ar gyfer yr hanner márathon.
Hanner Márathon Girona 22 Ebrill 2007
Safle: 127
Amser: 1 awr, 31 munud, 48 eiliad.
4 munud 22 eiliad bob cilomedr.
Hanner Márathon Igualada 15 Ebrill 2007
Safle: 198
Amser: 1 awr, 38 munud, 47 eiliad.
4 munud 41 eiliad bob cilomedr.
Saith munud yn gynt na’r wythnos flaenorol.
Y ddysglaid o de coch gefais i frecwast wedi achosi’r cyflymu hyn, yn sicr iawn.
Fe yfa i ddwy ddishgled y tro nesa.
Ambell Sais ar heolydd Girona, ac wrth fy ngweld yn fy fest â'r Ddraig Goch drosti dyma mhw'n gwaeddi nerth eu pennau 'Up the Welsh!', 'Come on Wyles!', 'You're nearly there, Wales!' (y gwaedd olaf braidd yn gamarweiniol - dim ond 3km yr oedden ni wedi eu rhedeg - dros 18km o'm blaen eto nes cyrraedd y derfynfa).
Ond yr hyn oedd ganddynt oedd mewn gwirionedd - "Come on England, let's show Johnny Foreigner!". Er diffyg gwell, "Come on Wales / Wyles."
Rhai oedd wedi dod drosodd am y penwythnos â Ryanair oedden nhw mae'n debyg, ac yn crwydro o gwmpas mewn niwl alcoholaidd, heb fod yn rhyw siwr iawn ai ym Mhrag ynteu Calais ynteu Amsterdam yr oeddynt.
Gan fod rhyw hanner poblogaeth Catalonia erbyn hyn yn fewnfudwyr o Gastilia, neu disgynyddion iddynt, a'r mwyafrif llethol yn llwyr wrthod yr iaith Gatalaneg, ac yn gwrthwynebu dymuniad y Catalaniaid (y rhan fwyaf o'r Catalaniaid o leiaf) i beidio colli eu hunaniaeth fel cenedl, penderfynais ddangos y faner, yn fetafforaidd ac yn llythrennol. Dyma ofyn i ffrind binio baner y Gatalonia Rydd ar gefn y crys, i gadw'r fflam ar gynn.
Roeddwn i'n synnu clywed cymaint o Gastileg ymhlith pobl ifanc yn Girona. Mae'r iaith Gatalaneg i fod wedi wrthsefyll y llanw Castileg yno, ond dyna - hyd yn oed yn Girona, un o geyrydd olaf yr iaith gynhenid, mae iaith y Castiliaid yn ennill parch ac yn dechrau disodli'r Gatalaneg.
Calendr rasus
6 Mai. Ras y Corte Inglés, Barcelona.
13 Mai. Dewis o dair: Cardedeu 10km, Nou Barris 10km, Solsona 10,8km
20 Mai: Dewis o dair: Tossa de Mar 10km; Collserola 13.6km, Berga - marató
27 Maig: Dewis o ddwy: Badalona 10km; Arenys de Mar 12km.
dissabte, 20 de gener del 2007
Y FYFYRWRAIG GOLL

O’r diwedd rw i’n graddol ddod yn ysgrifennwr rheolaidd yn y blòg hwn - er bod ryw bum mis neu chwe mis o fwlch rhwng pob cyfraniad. Meddwl nad oedd neb yn ei ddarllen yr oeddwn, ond ar ôl symud y Blòg i’m cyfrif Google heno dyma weld bod ambell sylw yma a thraw - a’u hysgrifennwyd dros flwyddyn yn ôl o bosibl.
Fy sefyllfa ariannol yn dechrau fy mhoeni. Dim ond i dalu’r rhent ac i dalu’r “drwydded waith hunan-gyflogedig” mae rhaid i mi ennill 30 iwro bob dydd o Lun i Wener - a 30 arall ar ben hynny am foethusion fel bwyd, tocynnau metro, treth incwm, ac ati. A dyna leiafswm. Rhaid dechrau mynd ar hynt mwy o ddosbarthiadau yr wythnos nesa. Ond dyna wedais wrthyf fy hun yr wythnos diwethaf - a phob wythnos ers misoedd. Hm. Ond y tro hyn rw i o ddifri. Efallai. Mae'n rhy gysurus peidio chwilio am fwy o waith.
Dosbarth gennyf y pnawn yma am ddwyawr - wel, dyna ambell iwro yn yr hosan-dan-fatres. Rhyw awr o baratoad - dosbarth Saesneg i feddyg, ac wrth edrych ar bapurau newydd Gwlad y
Wrth imi rhoi’r copsi ar y cwbl, dyma alwad ffôn gan y myfyriwr - bydd yn ymadael â’i swyddfa’n hwyrach na’r disgwyl, a chyrraedd hanner awr ar ôl yr amser arferol. Hanner awr. A’r haul yn disgleirio’n braf, a’r wybren yn las las, a naws wanwynol i’r pnawn (canol mis Ionawr? ie, dinas
I lawr i Fwlch Carmel (geto Castileg, llawn llanciau a llancesau o dras Andalwsaidd a’i sumbolau Castilaidd - baneri Castilia (“España”), crysau-T tîm pêl-droed Castilia (“España”), llun tarw ar eu beiciau modur a’u ceir), ar draws y groesfan zebra fwyaf peryglus yng Nghatalonia o bosibl, ar hyd y llwybr i glwyd gefn Parc Güell. Dyma hanner ffordd.
Disgyn trwy’r parc, sleifio rhwng carfanau o dwristiaid - y rhai mwy anturus, sydd wedi penderfynu cerdded y llwybr igamogam i ben ucha’r parc - ac ymhen hanner awr dyma fi yn ôl yn y fflat. Dim golwg ar y myfyriwr eto, shwt.
Efallai na ddylwn i alw ‘y myfyriwr’
Y dosbarth yn sw^n driliau niwmatig wrth i’r cwmni trydan torri twll o dan ffenest y fflat - gerllaw y mae hen ddísgotec a geuwyd ryw flwyddyn yn ôl, rhyw fath o isorsaf sydd uwchen eu twll. Gallwn ofyn iddynt i beth y maent yn ei wneud, ond rw i’n ameu na fyddant hwythau’n gwybod hefyd.
Ar ganol y wers dyma alwad ffôn gan ryw ferch ifanc sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg. Yr oedd wedi gadael neges yn llyfr ymwelwyr ein gwefan dros y penwythnos. Atebais bod gennym ddosbarth bob nos Wener mewn bar am 21.30, am ddim. Galw yr oedd i ofyn sut mae cyrraedd y bar hwnnw - nid oedd wedi sylweddoli imi anfon cyfeiriadau mewn ebost ati tua hanner dydd.
Ar ôl tipyn dyma’r drilwyr yn diflannu i rywle i gael sbel; ninnau wedyn yn fynd i gaffi heb fod ymhell i sgwrsio yn iaith Hengist.
I lawr i’r dre am chwech - mae dosbarth arall i fod gennyf, ond yr oedd y myfyriwr yn teithio i bob rhan o wladwriaeth Castilia, weithiau dwy daith yr wythnos, ar ddiwedd mis Medi meddai - ffonia i di ymhen pythefnos i drefnu’r dosbarth nesaf.
Bedwar mis wedyn, cefais i’r alwad - ond neges wedi’i recordio, dim rhif ei ffôn boced. Mae’r rhif ffôn gennyf mewn llyfr cyfeiriadau mewn rycsac a gollwyd gan gwmni Easyjet wrth imi deithio o Farselon i Lerpwl ym mis Hydref.
I lawr i far eu rhieni yng nghanol y dref - un o’r ychydig farau yn y ddinas lle y mae’r perchnogion yn medru siarad Catalaneg - ond yr oedd ar gau. I fflat T i ladd dwy frân â’r un garreg, ond dim ateb. Siwrnai saethug - ond cyfle i roi glynnynau o blaid y Gatalaneg yma a thraw - jobyn bach y dylai’r Catalaniaid ei wneud, ond gan nad oes bron neb o’r llwyth Gatalanaidd yn ymgyrchu’n ymarferol dros yr iaith, rw i’n sefyll yn y bwlch iddynt.
Paratoi’r wers Gymraeg - ac i lawr i’r bar am hanner wedi naw. Mae’r ferch wedi dweud y bydd ffolder y brifysgol yn ei llaw ganddi. Wrth i mi gyrraedd tu faes y bar, rw i’n sylwi ar ferch wrth fwrdd ar ei phen ei hun; ond cyn cael mynd i mewn dyma weld y myfyriwr ‘C’ yn dod i lan yr hewl â cherddediad penderfynnol. Gofyn y mae ydi ei wejen ‘G’wedi cyrraedd - a’r foment honno dyma hi’n rowndio’r cornel ac yn esgyn yr hewl hefyd o’r un cyfeiriad. Ond wrth droi i fynd i mewn i’r bar, mae’r ferch wedi diflannu - ai hi oedd y fyfyrwraig newydd?
Mae’r twywdd mor fwyn fel yr ydym yn eistedd y tu faes i’r bar, wrth un o’r bordydd palmant - ond tua hanner awr wedyn dyma’r tymheredd yn gostwng, ac felly dyma ni’n llochesu yn y bar.