Llwyth o bethau wedi cael ei daflu i'r ysbwriel - newyddiaduron a chylchgronau Catalaneg a Basgeg yn bennaf hyd yn hyn. Y llyfrau yn cael eu cludo o dipyn i beth dros y ddinas ar y metro i'w gadael mewn fflat ffrind. Ond dim ond rhyw ddeg blychaid yw'r terfyn eithaf ganddo, mae ganddo yntau hefyd gasgliad anferth, ac rhy ychydig o le i roi llety i ragor ohonynt.
Bydd rhai o bosibl i mynd i seler laith mewn pentre yn sir La Noguera, ac eraill mewn hen stordy metal sgrap yn sir La Maresme. A chysgu ar soffa yma a thraw bydd fy hanes dros y misoedd nesaf, mae'n debyg.
A bydd atalnod llawn ar Wefan Cymru-Catalunya am y tro - prosiect tîm bychan ohonom (sef y fi yn y pen draw).
Ym mis Ionawr fe'i caewyd (a'i diddymu yn y fan a'r lle! heb roi cyfle i mi ei harbed yn ei chrynswth) gan y cwmni yn yr Unol Daleithiau oedd yn ei chynnal yn rhad ac am ddim fel prosiect addysgol, wrth iddynt sylweddoli ei bod mewn dwy iaith 'anhysbys' (chwedl hwythau), sef y Gymraeg a'r Gatalaneg; a bod y tudalennau Saesneg ynddi yn llawn 'elitist trivia' (cyfeirio at yr adran ar enwau Cymraeg wedi eu hanelu at Americanwyr yn bennaf yr oeddynt, rw i'n meddwl).
Wedi i ni apelio yn erbyn colli'r wefan, ac yn gorfod ailanfon atynt grynodeb o amcanion a natur y wefan, dyma gael cyfrineiriau newydd ganddynt a chaniatâd i'w rhoi yn ôl ar eu gwasanaethydd.
Ond bu'n well gen i bori mewn cae diogelach, ac erbyn hyn fe'i ceir yn www.kimkat.org - gwefan glytiog ar hyn o bryd, wrth i mi geisio ei dodi at ei gilydd unwaith yn rhagor.
Yn ddiweddar rw i wedi bod yn ychwanegu at y swmp o destunau Cymraeg ynddi. Ond o achos yr oriau benbwygilydd y mae rhaid eu treulio i roi testun ar ffurf HTML (copïo'r testun air am air ar y cychwyn, cyn cael gafel mewn sganer bum mlynedd yn ôl; neu ei sganio a chywiro'r sganiad), yr wyf erbyn hyn yn dodi sganiad amrwd arlein, a delw o'r tudalennau gwreiddiol sydd wedi eu lletya yn wasanaethydd ImageShack, am ddim.
Gobeithio pan fydd gen i dipyn o amser gallaf dwtio dipyn ar y sganiadau, sydd yn frith o wallau am i'r rhaglen OCR fethu â chydnabod llawer o'r llythrennau; ar ben hynny, mae'n dryfrith o sumbolau annymunol ac annisgwyl &@#"º."+`´>/¬¡ ayyb.
Y perygl yw gall ImageShack ddiflannu dros nos. Ond dyna, mae'n rhoi oes newydd am y tro i hen lyfrau Cymraeg anghofiedig, nes marw ImageShack yn sydyn ddydd a ddaw.
Dyddiau du (di-do dros fy mhen) o'm blaen, ond gobeithio "superar aquest tràngol" (dod allan ohoni) yn fuan.
Yn y cyfamser, bydda i'n dal i redeg rasus 10km a hanner marathonau ar y penwythnos.
Ddoe, fe es i lan ben bore i Girona ar gyfer yr hanner márathon.
Hanner Márathon Girona 22 Ebrill 2007
Safle: 127
Amser: 1 awr, 31 munud, 48 eiliad.
4 munud 22 eiliad bob cilomedr.
Hanner Márathon Igualada 15 Ebrill 2007
Safle: 198
Amser: 1 awr, 38 munud, 47 eiliad.
4 munud 41 eiliad bob cilomedr.
Saith munud yn gynt na’r wythnos flaenorol.
Y ddysglaid o de coch gefais i frecwast wedi achosi’r cyflymu hyn, yn sicr iawn.
Fe yfa i ddwy ddishgled y tro nesa.
Ambell Sais ar heolydd Girona, ac wrth fy ngweld yn fy fest â'r Ddraig Goch drosti dyma mhw'n gwaeddi nerth eu pennau 'Up the Welsh!', 'Come on Wyles!', 'You're nearly there, Wales!' (y gwaedd olaf braidd yn gamarweiniol - dim ond 3km yr oedden ni wedi eu rhedeg - dros 18km o'm blaen eto nes cyrraedd y derfynfa).
Ond yr hyn oedd ganddynt oedd mewn gwirionedd - "Come on England, let's show Johnny Foreigner!". Er diffyg gwell, "Come on Wales / Wyles."
Rhai oedd wedi dod drosodd am y penwythnos â Ryanair oedden nhw mae'n debyg, ac yn crwydro o gwmpas mewn niwl alcoholaidd, heb fod yn rhyw siwr iawn ai ym Mhrag ynteu Calais ynteu Amsterdam yr oeddynt.
Gan fod rhyw hanner poblogaeth Catalonia erbyn hyn yn fewnfudwyr o Gastilia, neu disgynyddion iddynt, a'r mwyafrif llethol yn llwyr wrthod yr iaith Gatalaneg, ac yn gwrthwynebu dymuniad y Catalaniaid (y rhan fwyaf o'r Catalaniaid o leiaf) i beidio colli eu hunaniaeth fel cenedl, penderfynais ddangos y faner, yn fetafforaidd ac yn llythrennol. Dyma ofyn i ffrind binio baner y Gatalonia Rydd ar gefn y crys, i gadw'r fflam ar gynn.
Roeddwn i'n synnu clywed cymaint o Gastileg ymhlith pobl ifanc yn Girona. Mae'r iaith Gatalaneg i fod wedi wrthsefyll y llanw Castileg yno, ond dyna - hyd yn oed yn Girona, un o geyrydd olaf yr iaith gynhenid, mae iaith y Castiliaid yn ennill parch ac yn dechrau disodli'r Gatalaneg.
Calendr rasus
6 Mai. Ras y Corte Inglés, Barcelona.
13 Mai. Dewis o dair: Cardedeu 10km, Nou Barris 10km, Solsona 10,8km
20 Mai: Dewis o dair: Tossa de Mar 10km; Collserola 13.6km, Berga - marató
27 Maig: Dewis o ddwy: Badalona 10km; Arenys de Mar 12km.
Cap comentari:
Publica un comentari a l'entrada