dissabte, 12 de juliol de 2008

Diwrnod mwll, hen gábinet a'r glaw

Haul tanbaid am ddau o'r gloch.

Dydd Iau fu diwrnod taflu allan hen ddodrefn yn y gymdogaeth hon, ac wrth redeg i lan y tyle i Barc Güell yn y cyfnos ddau ddiwrnod yn ôl dyma weld hen gelfi o ryw siop fferyllydd wedi eu gadael ar bwys y cynwysyddion ysbwriel ar ben yr heol.

Hen gábinet plastig yn dal fy sylw. Hanner awr yn ddiweddarach, wrth ddychwelyd adref, mae'r cábinet yno o hyd. I mewn i'r fflat, i maes â throli plygadwy, ac o fewn chwarter awr, ar ôl brwydr i fynydd y staer serth a chul y mae'r cábinet yng nghyntedd y fflat. Gwacáu'r droriau, llwyth o bils ac eli a thabledi a hufen o Oes y Cerrig, ac ambell bryfyn bach, ac yn ôl i maes i'w rhoi yn y cynhwysydd, ac o bosibl achub y lamp ungoes a welais i ymhlith yr hen geriach ... ond erbyn hyn nid oes golwg ar y lamp, wedi hopian i ffwrdd ar ei hungoes.

Heddiw dyma roi golchad i'r cábinet, a rhoi'r droriau i'w sychu ar y bálconi yn llygad yr haul, a'u rhoi yn ôl yn y cábinet. Dim ond deg drôr oedd wedi eu gadael yn y celficyn - mae wyth ar goll.

A ydw i mewn gwirionedd yn ymofyn hen gwpwrdd plastig fel rhyw geg agored a bron hanner y dannedd yn eisiau?

Sut mae hi'n bosibl - mae hi'n 17.50 yn barod - rhaid rhoi dosbarth am 18.30. Achubaf ar y cyfle i redeg i Barc Güell am hanner awr - mae'n well gennyf ddwy awr neu ddwy awr a hanner yn y goedwig uwchben y ddinas, ond yr oedd yr haul yn rhy gryf y pnawn yma i fentro i maes.

Yr hen fonwr o'r fflat drws nesaf ar fin cyrraedd drws yr adeilad wrth i mi groesi'r trothwy a throedio'r palmant, ac yntau'n gofyn imi yn Gastileg am beidio cau'r drws.

Ateb iddo yn Gatalaneg fel bob tro - rwy'n synnu ei fod heddiw heb eillio, a'i ddillad braidd yn aflêr, ac y tro hwn y mae ganddo ffon wen. Heb ei weld ers pythefnos.

"Bydd storom o fewn ychydig," meddai dan chwerthin, "fe fyddi di'n wlyb domen os ei di i maes yn awr."

Yn wir, mae lliw dur ar yr wybren, sydd fel petai wedi disgyn i ben toeon y ddinas. Hanner awr wedyn yr wyf yn cyrraedd y fflat yn ôl, ac yn ymolchi ac yn newid fy nillad mewn chwinciad, a dyna'r fyfyrwraig yn canu'r gloch, wedi cyrraedd yn brydlon ar gyfer y wers. 18.30.

Cwyno am y gwres y mae hi, a'r mylltra; mae hi bron â llewygu, ac yn laddar o chwys. Ond serch bod yr awyr mor drwm a thywyll, nid yw hi'n credu y daw i law heno.

Awr wedyn dyma storom o luched a thyrfau yn ffrwydro yn union uwch ein pennau, a'r wybren yn hollti, a dwr y glaw yn pistyllu oddi fry.

A nid oes pall ar y glaw tan hanner nos - yr heol o dan y bálconi yn afon fach a'r dwr yn ysgubo i lawr y llechwedd i gyfeiriad y môr. Coeden ar y palmant ar yr ochr arall i'r heol wedi ymblygu a thorri yn ei chanol, fel petai'n ymgreinio o flaen y ddwy goeden o boptu iddi.

Y glaw yn colli nerth yn ysbeidiol, ond wedyn yn llifo eto fel dwr o biser.

Erbyn hyn mae hi'n hanner awr wedi hanner nos. Mae'r glaw wedi peidio ers deugain munud, ond mae'r heol yn dal yn wlyb, ac olwynion y ceir a'r bysus a'r loriau yn tasgu'r dwr oddiwrthynt wrth lamu i lawr y rhiw.