dimarts, 27 d’octubre de 2009

Ras Fárathon Glannau Môr y Canoldir 18 Hydref 2009

Ras braidd yn ddiflas - o bentref Castelldefels i Gavà, i lan ac i lawr heol y traeth ym mhentref Gavà, yn ôl i bentref Castelldefels (10km), yn ôl unwaith eto i Gavà, i lan ac i lawr heol y traeth drachefn, yn ôl i Castelldefels (21km), ac o'r fan honno i Gavà a heol y traeth, ar hyd-ddi hyd at fan 39km, a chwedyn yn ôl i Castelldefels.




Yno 2km o gwmpas y llyn mawr sydd yn warced ar ôl Gemau Olumpaidd a gynhaliwyd ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl, yn 1992,



 ac ymláen i'r llinell derfyn.



 http://www.youtube.com/watch?v=ei2_PIvDf7c



ADRAN DECHNEGOL:

Amser yn ôl cloc y llinell derfyn: 4 awr 1 funud 15 eiliad


Amser gwirioneddol yn ôl yr amseriadur: 3 awr 58 munud 24 eiliad (hynny yw, bu rhaid aros 169 eiliad ar ôl ergyd y dryyll cychwyn cyn cael croesi’r llinell gychwyn am fod cymaint o redwyr yn aros eu tro i roi eu traed yn y tir)



Amser i redeg pob km ar gyfartaledd: 5 munud 39 eiliad

Chweched Hanner Márathon ar Hugain Roda de Ter (Catalonia) 11-10-2009

Dydd Sul 11-Hydref-2009

Gyda'r trên o Barcelona yn ystod awr a phum munud ar hugain i dref Manlleu, cyrraedd am 09.35, ac wedyn rhedeg draw i bentref Roda de Ter erbyn 10.20 i gasglu bìb y ras. Cael hyd i'r bwrdd lle y dosberthid y bibiau gwpwl o funudau cyn 10.30, ond trwy lwc ni fuont yn rhyw brydlon iawn wrth danio'r dryll cychwyn..
























O gwmpas pentref Roda am 5 km, yno i lawr i ran uchaf tref Vic ar hyd y ffordd fawr, trwy'r ystâd ddiwyddiannol nes dod i'r heol fawr sydd yn arwain o Vic i lan i Manlleu, ac o Manlleu yn ôl i Roda
 
 http://www.youtube.com/watch?v=_PFAzDSzfh4


dissabte, 10 d’octubre de 2009

Elmet




Ar yr wythfed ar hugain o fis Awst 2009 bûm yn ardal Elfed - ond nid Elfed "Cynwÿl Elfed" yn Shir Gaar, ond yr hen diriogaeth erbyn hyn yng nghnanol Gwlad y Sais, yn Swydd Gogledd Efrog.

"Elmet" yw'r enw yn Saesneg , ac y mae'n fyw o hyd, am y'i defnyddir i wahaniaethu pentrefi sydd â'r un enw â phentrefi eraill mewn broydd eraill - Barwick-in-Elmet,  [BA-rik], Sherburn-in-Elmet [SHXX-bxxn], a Scholes-in-Elmet (Y llythyren x yma yn cynrychioli’r llafariad dywyll, fel yr “y” gyntaf yn y gair “mynydd”; xx yw’r llafariad hir Saesneg).

Mae’r ffurf Saesneg yn cadw’r “m” a fu yn y Frythoneg a aeth yn “v” nes ymlaen yn y Gymraeg, y Gernyweg a’r Llydaweg. Felly er bod “m” ac “f” yn seiniau gwahanol yn yr Hen Gymraeg, mae’n debyg taw i glust y Sais yr oedd yr “f” [v] hon yn debycach i “m” nag i “v”.

Y mae enghreifftiau eraill o “m” yn y Saesneg on “v” yn y Gymraeg. Un enghriafft yw Glamorgan, o “Gwlad Forgan”. Enw lled diweddar yw hwn, ond mae’n debyg bod yr “m” yn y Saesneg am yr un rheswm.

Dyma fideo bach o f'ymweliad bach â phentref Sherburn.

http://www.youtube.com/watch?v=2Je_HqpR6gw



Y Ddwy Elfed. Cwmwd yn y Cantref Gwarthaf oedd un, a gwlad ar bwys Leeds oedd yr Elfed arall ("Elmet" yn Saesneg, sydd yn cadw'r "m" a fu yn yr enw Brythoneg. Ceredig ap Gwallog oedd brenin olaf yr Elfed hon, a gwympodd i ddwylo Germainiaid Northumbria yn y flwyddyn 616.

divendres, 9 d’octubre de 2009

Taith Gerdded Pentref Arenys De Munt (Maresme), Catalonia

04 Hydref 2009
Ddydd Sul diwethaf bu'r daith gerdded flynyddol ym mhentref Arenys de Munt a gynhelir ar y Sul cyntaf ym mis Hydref. Cychwynwyd am 07.30 yn y tywyllwch fel arfer, fel y bu modd i'r cerddwyr a'r rhedwyr weld yr haul yn codi ryw hanner awr wedyn, ar ôl iddynt ddechrau dringo uwchben y pentref.

Cerdded terfynau'r plwyf y mae'r pentrefwyr - rhyw 20 km yn gyfangwbl, ond hefyd bu rhyw daith lai o faint - tua 12 km - ar hyd llwybr tarw yn ôl i'r pentref, ar gyfer yr oedrannus, y rhai gwan eu calon a'r rhai pwdr o ran anian.

Dyma fideo o luniau llonydd a wneuthum o'r daith lawn.

http://www.youtube.com/watch?v=BmOYHtZgmcw

Er mai purydd yr wyf fel rhedwr - byth yn peidio â rhedeg o'r cychwyn i'r diwedd (ond am yr achlysurau hynny pan fydd carrai'r esgid yn datod - am ryw reswm tu hwnt i ddealltwriaeth), y tro hyn bu rhaid aros yn f'unfan ar ddechrau'r ras i dynnu'r lluniau, am fod cynlleied o olau, a bu rhaid dal y cámera mor ddisymud ac y gallwn. Serch hynny y mae llawer yn lled aneglur.

Rhyfedd sut y mae tynnu llun yn y tywyllwch, ac â chymorth rhaglen trin lluniau digidol ddatgelu yr hyn yr oed y tywyllwch yn ei guddio - er bod y lliwiau yn hynod o lachar ac afreal.







Rhedeg o Bridgwater i Ilminster (Gwlad yr Haf)

Wedi bod yn ymwéld â theulu sydd yn byw yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar (hen diriogaeth y Cymry gynt wrth gwrs - Minehead, Mendips "mynydd", Creech St.Michael "crug", Dowlish Ford "Dowlais", ayyb.)

Dyma ambell fideo o luniau llonydd a wnaed gennyf, a chan nad oes fawr neb yn edrych arnynt ar youtube, efallai o roi'r cyfeiriadau ar y blog hwn cânt ragor o wylwyr. Er ei bod yn lled annhebyg, am nad oes bron neb yn taro heibio i'r blog hwn chwaith. Am fy mod yn rhy bwdr i ysgrifennu ynddo, debyg iawn.

----------------------------------------------

7 Medi 2009 - Rhedeg o Bridgwater i Ilminster

Rhan 1 (10 munud)
http://www.youtube.com/user/iantoglantawe#p/a/u/1/_PUqkZXWAQA

Rhan 2 (1 munud 55 eiliad)
http://www.youtube.com/user/iantoglantawe#p/a/u/0/q0a0OFalGJ0



----------------------------------------------

8 Awst 2009 - Afon Parret yn Bridgwater yn llifo o chwith (2 funud 18 eiliad)
http://www.youtube.com/watch?v=47URBPbOXW8






----------------------------------------------

10 Medi 2009 - Tro bach o Gei'r Gorllewin (West Quay), Bridgwater i'r orsaf drenau am saith o'r gloch y bore (1 funud 10 eiliad)
http://www.youtube.com/user/iantoglantawe#p/u/12/VTpwhDHEodA






----------------------------------------------