divendres, 29 de setembre de 2017

PAM NA DDYLAI CATALONIA FOD YN ANNIBYNNOL

Ychydig iawn mewn nifer yw’r rhesymau dros aros yn Sbaen sydd wedi eu cynnig gan y rai sydd yn erbyn annibyniaeth i Gatalonia.

Ryn ni wedi clywed hyd syrffed ‘España es una’ (undod yw Sbaen), ‘byddai Catalonia ar ei phen ei hunan ac na fydd yr un wlad yn y byd crwn yn cydnabod gweriniaeth Gatalanaidd’, ac hefyd (efallai y rheswm lleiaf ei bwys ac heb allu darbwyllo neb o egwyddorion democrataidd) bod yr unben Franco ar ei wely angau wedi erfyn ar y brenin Juan Carlos, a oedd i gymryd lle’r unben fel pen ar wladwriaeth Sbaen, “Alteza, la única cosa que os pido es que preservéis la unidad de España...” (Eich Mawrhydi, yr unig beth yr wyf yn ymofyn i chi ei wneud yw gwarantu undod Sbaen.”

Ond yn awr dyma rywbeth arall mae rhaid ei ystyried cyn mynnu y dylai Catalonia fod yn annibynol. Fe’i cyhoeddwyd rai dyddiau yn ôl yn un o bapurau newydd adain-dde [eithafol] Sbaen, sef yr  'ABC', i daro’r hoelen yn sownd i’r pren: 

“Ni fydd Catalonia annibynnol yn gallu cymryd rhan yng nghystadleuaeth Eurovision. Byddai Sbaen yn rhoi feto ar ei chais ymaelodaeth ac ni allai’r gwledydd eraill gystadlu yn erbyn cenedl sydd heb ei chydnabod yn rhyngwladol.”

Ond y mae iachawdwriaeth ar law, am fod yr adroddiad yn mynd ymlaen fel hyn: “Yn 2004 talodd TV3 (= teledu cyhoeddus Catalonia) am i Andorra ymddangos yn yr ŵyl am y tro cyntaf, ac i lawer bu hyn yn fodd dirgel i Gatalonia gael ei chynnwys yn y gystadleuaeth enwog.”


(h.y. iaith swyddogol Andorra, gwladwriaeth annibynnol, yw’r Gatalaneg).


Y REFFERENDWM ‘ANGHYFREITHLON’ YNG NGHATALONIA – DRENNYDD, Y CYNTAF O FIS HYDREF


Y bwriad gennyf oedd adrodd ticyn bach bob dydd o’r hyn sydd yn digwydd yma yn y rhan hon o Gatalonia, sef yn y brifddinas, Catalonia y mis hwn.

Ond trwy’r dydd mae X (ffug briflythyren enw’r wraig – pwyll pia hi yma ar hyn o bryd!) a minnau wedi bod yma a thraw yn y ddinas yn y protestiadau lu gyda’r miloedd o bobol yn y rhan hon o Gatalonia sydd yn mynnu amddiffyn hawliau sifil yn y parthau hyn, bod y refferendwm yn cael ei gynnal, a bod dewis y ‘Sí’ (ie dros annibyniaeth) yn ennill. 

Y CYFARFOD NEITHIWR
Neithiwr bu cyfarfod mawr gan gefnogwyr annibyniaeth yn y rhan hon o’r ddinas i baratoi ar gyfer refferendwm dydd Sul.

Cyfarfod ‘anghyfreithlon’ yn ôl y stad-o-argyfwng-heb-ei-datgan – hynny yw,  yn gwbl gyfreithlon yn ôl y gyfraith tan ryw bythefnos yn ôl, ac yn gwbl gyfreithlon yn awr mewn egwyddor.

Ond mae llywodraeth Sbaen yn mynnu gweithredu fel pe buasai stad o argyfwng mewn bod – er nad oes y fath stad mewn gwirionedd am nad oes dadl wedi bod yn senedd Sbaen fel y mynn y gyfraith.

Nid oedd hysbysebu agored am y cyfarfod – hanner gair i gall yw’r drefn, neu glywed gan y frân wen pryd ac ym mha le.

HEDDLU YM MHOB TWLL A CHORNEL
Trwy lwc ni ddaeth yr un heddwas neu heddferch ar gyfyl y lle  –  neb o’r pedwar heddlu sydd yn frith ar heolydd y wlad yma y dyddiau hyn – y mae’r ddau heddlu Sbaenaidd sydd wedi dod yn llu - yn eu miloedd - i Gatalonia yn ddiweddar (1) heddlu’r wladwriaeth - Policia Nacional -  (2) a’r corff paramilitaraidd, y Guardia Civil, a’r ddau heddlu Catalanaidd – (3) els Mossos d’Esquadra (‘Gweision y Garfan’) a (4) heddlu’r ddinas.

Mae Twrnai Cyffredinol Sbaen wedi gorchymyn i bob heddlu atafaelu deunydd ar gyfer y refferendwm, ac i chwalu pob cyfarfod sydd yn cefnogi’r refferendwm.

ATAFAELU
Daeth y newyddion y bore 'ma bod y corff paramilitaraidd wedi atafaelu 2.5 o filiynau o cardiau pleidleisio a phedair miliwn o amlenni yn nhref Igualada. Mae llywodraeth Sbaen yn gosod carreg rwystr ar y llwybr tuag at y refferendwm sawl gwaith bob dydd.

CAU GWEFANNAU
Y cam nesaf inni yw dweud wrth bobol y gymdogaeth ym mha le y mae’r orsaf bleidleisio. Bu rhaid inni brintio arwydd y gellir llwytho i lawr o wefan sydd yn cefnogi’r refferendwm. Ond mae’r heddlu paramilitaraidd yn brysur gau (yn hollol anghyfreithlon) y gwefannau sydd yn cefnogi’r refferendwm ac yn yn rhoi gwybodaeth amdano fel y geill y Catalaniaid fwrw pleidlais.

Ac felly, wrth glicio ar gyfeiriad y wefan, gwelais i hwn:


Chwarae cath a llygoden yw hi – yr heddlu yn cau gwefan, a’r wefan yn ail-ymddangos gyda chyfeiriad arall. Bu sôn fod rhywun wedi ei chlonio ar 'guardiacivil.sexy' ond yr oedd yr heddlu wedi cau honno hefyd.

HYSBYSU POBL Y GYMDOGAETH
Dyma gael hyd i lun o’r arwydd mewn adroddiad ar wefan newyddion; ei chwyddo wedyn i faint teidi, rhoi manylion am yr orsaf bleidleisio (lloc = lle, carrer = heol), a’i rhoi ar y wal ym mynedfa y bloc fflatiau yma.


(Annwyl gymdogion, dyma’r orsaf bleidleisio lle y byddwn ni’n bwrw pleidlais y cyntaf o Fis Hydref.)

MEWNFUDO
Mewnfudwyr o Sbaen yw trwch helaeth y boblogaeth yn y rhan hon o’r ddinas ag ychydig iawn o gydymdeimlad â’r Catalaniaid sydd gan y rhan fwyaf. Er taw’r ardal dlotaf o’r ddinas yw hi, mae’r rhan fwyaf yn pleidleiso dros y pleidiau a fydd yn eu cadw yn eu tlodi am genhedloedd lawer – y ddwy blaid adain-dde (Partido Popular – rhyw 18% yn Etholiad Cyffredinol i senedd Sbaen 2016, Ciudadanos - rhyw 12%) a’r Blaid Sosialaidd (23%). 

Cipiodd Podem (cangen Gatalanaidd o Podemos Sbaen) 30% o’r bleidlais, yr unig blaid Sbaenaidd sydd am newid yr hen drefn sglerotig yn Sbaen. Ond pleidiau ‘Sbaen Unedig’ yw’r rhai hyn i gyd, ac yn gwrthwynebu annibyniaeth.

 Y ddwy blaid sydd yn cefnogi annibyniaeth â 14% yn unig o’r bleidlais – Y Chwith Gweriniaethol (Esquerra Republicana de Catalunya) 9% a Chydgyfeiriad (Convergència) 5%.

TYNGED EIN POSTER BACH
Gobeithio nad oes neb yn rhwygo ein poster ‘Benvolguts veïns’ i lawr. Sbaenwyr rhonc yw llawer y ffordd hon – os nad y bobol sydd yn byw yn y bloc fflatiau hwn, efallai dyn neu wraig y post, neu fachan neu ferch y cwmni nwy neu drydan neu ddwr, neu’r taflenni hysbysebu.

Y posteri yn galw am ddemocratiaeth ac am bleidlais dros annibyniaeth yr ym wedi rhoi yn y gymdogaeth yn diflannu mewn dim o beth

Dim ots. Pentwr bach o ‘Benvolguts veïns’ sy gyda ni, ac os diflanniff un poster bach, cymeriff arall ei le.

TALCEN CALED

Talcen caled sydd yma, ond serch hynny yn y dyddiau diwethaf yma, yn wyneb gormes Sbaen, mae sawl un (pleidleiswyr plaid Podem, buaswn yn meddwl) yn y gymdogaeth hyn yn dweud eu bod erbyn hyn o blaid gweriniaeth Catalonia am eu bod yn credu y bydd gwladwriaeth Gatalanaidd yn parchu hawliau sifil ei phoblogaeth, ac nad oes modd newid Sbaen, neu o leiaf am flynyddau lawer. 

Hyd yn oed ambell un yn y bloc fflatiau hwn fuaswn i erioed wedi meddwl y buasent yn cefnogi’r syniad o weriniaeth Gatalanaidd.