Y bwriad gennyf oedd adrodd ticyn bach bob dydd o’r hyn sydd
yn digwydd yma yn y rhan hon o Gatalonia, sef yn y brifddinas, Catalonia y mis hwn.
Ond trwy’r dydd mae X (ffug briflythyren enw’r wraig – pwyll
pia hi yma ar hyn o bryd!) a minnau wedi bod yma a thraw yn y ddinas yn y
protestiadau lu gyda’r miloedd o bobol yn y rhan hon o Gatalonia sydd yn mynnu
amddiffyn hawliau sifil yn y parthau hyn, bod y refferendwm yn cael ei
gynnal, a bod dewis y ‘Sí’ (ie dros annibyniaeth) yn ennill.
Y CYFARFOD NEITHIWR
Neithiwr bu cyfarfod mawr gan gefnogwyr annibyniaeth yn y rhan
hon o’r ddinas i baratoi ar gyfer refferendwm dydd Sul.
Cyfarfod ‘anghyfreithlon’ yn ôl y stad-o-argyfwng-heb-ei-datgan
– hynny yw, yn gwbl gyfreithlon yn ôl y
gyfraith tan ryw bythefnos yn ôl, ac yn gwbl gyfreithlon yn awr mewn egwyddor.
Ond mae llywodraeth Sbaen yn mynnu gweithredu fel pe buasai stad
o argyfwng mewn bod – er nad oes y fath stad mewn gwirionedd am nad oes
dadl wedi bod yn senedd Sbaen fel y mynn y gyfraith.
Nid oedd hysbysebu agored am y cyfarfod – hanner gair i gall
yw’r drefn, neu glywed gan y frân wen pryd ac ym mha le.
HEDDLU YM MHOB TWLL A CHORNEL
Trwy lwc ni ddaeth yr un heddwas neu heddferch ar gyfyl y
lle – neb o’r pedwar heddlu sydd yn frith ar heolydd
y wlad yma y dyddiau hyn – y mae’r ddau heddlu Sbaenaidd sydd wedi dod yn llu - yn eu miloedd - i
Gatalonia yn ddiweddar (1) heddlu’r wladwriaeth - Policia Nacional - (2) a’r corff paramilitaraidd, y Guardia Civil, a’r
ddau heddlu Catalanaidd – (3) els Mossos d’Esquadra (‘Gweision y Garfan’) a (4)
heddlu’r ddinas.
Mae Twrnai Cyffredinol Sbaen wedi gorchymyn i bob heddlu
atafaelu deunydd ar gyfer y refferendwm, ac i chwalu pob cyfarfod sydd yn
cefnogi’r refferendwm.
ATAFAELU
Daeth y newyddion y bore 'ma bod y corff paramilitaraidd
wedi atafaelu 2.5 o filiynau o cardiau pleidleisio a phedair miliwn o amlenni yn
nhref Igualada. Mae llywodraeth Sbaen yn gosod carreg rwystr ar y llwybr tuag
at y refferendwm sawl gwaith bob dydd.
CAU GWEFANNAU
Y cam nesaf inni yw dweud wrth bobol y gymdogaeth ym mha le y mae’r
orsaf bleidleisio. Bu rhaid inni brintio arwydd y gellir llwytho i lawr o wefan sydd yn
cefnogi’r refferendwm. Ond mae’r heddlu paramilitaraidd yn brysur gau (yn
hollol anghyfreithlon) y gwefannau sydd yn cefnogi’r refferendwm ac yn yn rhoi
gwybodaeth amdano fel y geill y Catalaniaid fwrw pleidlais.
Ac felly, wrth glicio ar gyfeiriad y wefan, gwelais i hwn:
Chwarae cath a llygoden yw hi – yr heddlu yn cau gwefan, a’r
wefan yn ail-ymddangos gyda chyfeiriad arall. Bu sôn fod rhywun wedi ei chlonio
ar 'guardiacivil.sexy' ond yr oedd yr heddlu wedi cau honno hefyd.
HYSBYSU POBL Y GYMDOGAETH
Dyma gael hyd i lun o’r arwydd mewn adroddiad ar wefan newyddion;
ei chwyddo wedyn i faint teidi, rhoi manylion am yr orsaf bleidleisio (lloc =
lle, carrer = heol), a’i rhoi ar y wal ym mynedfa y bloc fflatiau yma.
(Annwyl gymdogion, dyma’r orsaf bleidleisio lle y byddwn ni’n
bwrw pleidlais y cyntaf o Fis Hydref.)
MEWNFUDO
Mewnfudwyr o Sbaen yw trwch helaeth y boblogaeth yn y rhan
hon o’r ddinas ag ychydig iawn o gydymdeimlad â’r Catalaniaid sydd gan y rhan fwyaf. Er taw’r ardal
dlotaf o’r ddinas yw hi, mae’r rhan fwyaf yn pleidleiso dros y pleidiau a fydd
yn eu cadw yn eu tlodi am genhedloedd lawer – y ddwy blaid adain-dde (Partido
Popular – rhyw 18% yn Etholiad Cyffredinol i senedd Sbaen 2016, Ciudadanos - rhyw
12%) a’r Blaid Sosialaidd (23%).
Cipiodd Podem (cangen Gatalanaidd o Podemos Sbaen) 30% o’r
bleidlais, yr unig blaid Sbaenaidd sydd am newid yr hen drefn sglerotig yn
Sbaen. Ond pleidiau ‘Sbaen Unedig’ yw’r rhai hyn i gyd, ac yn gwrthwynebu
annibyniaeth.
Y ddwy blaid sydd yn
cefnogi annibyniaeth â 14% yn unig o’r bleidlais – Y Chwith Gweriniaethol (Esquerra
Republicana de Catalunya) 9% a Chydgyfeiriad (Convergència) 5%.
TYNGED EIN POSTER BACH
Gobeithio nad oes neb yn rhwygo ein poster ‘Benvolguts veïns’
i lawr. Sbaenwyr rhonc yw llawer y ffordd hon – os nad y bobol sydd yn byw yn y
bloc fflatiau hwn, efallai dyn neu wraig y post, neu fachan neu ferch y cwmni nwy neu drydan neu
ddwr, neu’r taflenni hysbysebu.
Y posteri yn galw am ddemocratiaeth ac am bleidlais dros annibyniaeth
yr ym wedi rhoi yn y gymdogaeth yn diflannu mewn dim o beth
Dim ots. Pentwr bach o ‘Benvolguts veïns’ sy gyda ni, ac os
diflanniff un poster bach, cymeriff arall ei le.
TALCEN CALED
Talcen caled sydd yma, ond serch hynny yn y dyddiau diwethaf
yma, yn wyneb gormes Sbaen, mae sawl un (pleidleiswyr
plaid Podem, buaswn yn meddwl) yn y gymdogaeth hyn yn dweud eu bod erbyn hyn o
blaid gweriniaeth Catalonia am eu bod yn credu y bydd gwladwriaeth Gatalanaidd
yn parchu hawliau sifil ei phoblogaeth, ac nad oes modd newid Sbaen, neu o
leiaf am flynyddau lawer.
Hyd yn oed ambell un yn y bloc fflatiau hwn fuaswn i erioed
wedi meddwl y buasent yn cefnogi’r syniad o weriniaeth Gatalanaidd.