diumenge, 13 d’agost del 2017

MAGU'R BABAN YN GYMRO



Y Darian Mai 17, 1917

Colofn y Mamau a'r Merched.

[Anfoner defnyddiau i'r Golofn hon i ofal Marged Puw, Swyddfa'r Darian, ac od os gan fam neu ferch gwestiwn y carai ei ofyn, gofynned a gwna Marged ei goreu i ateb.]

MAGU'R BABAN YN GYMRO.
GAN MEGFAN.

'Rwyf yn cofio yn wastad awgrym fy nhad — hen Gymro uniaith selog. A dyma'r fel y gosodai i lawr yn ddeddf yn yr hen gartre yn Heolyfelin, "Gewch chi wilia faint a fynnoch o'r hen Sisnag na mas ar yr heol, ond rhwng y ddau ddrws 'ma dos dim i fod ond yr hen Gymraeg." Chware teg iddo! Os na adawodd ddim i'w blant ar ei ol ond 




Ei Sel Dros yr Hen Iaith,

gwnaeth yn rhagorol. 'Nawr gadewch i ddeddf fy nhad fod yn ei grym ar bob aelwyd. Gadewch i'r un bach siarad oreu y gall (ac mae plant yn medru deall eu gilydd yn rhyfedd iawn) tu allan i'r ty, ond peidiwch a chaniatau i'r gair estronol ddod i'r ty yn ystod y cyfnod hwn (2-5). Os gofyn y plentyn am "bread and butter,” fel y clywnodd Tommy Jones yn ceisio gan ei fam, gadewch iddo ofyn a gofyn nes ei fod yn gweld na châ yr un tamaid nes gofyn am “fara 'menyn.” Ac felly ym mhob dim. Rhaid i’r fam fod 



Yn Fud a Byddar 

i bob cais a stori Saesneg, ac O! mor dosturiol fydd yr un bach i anwybodaeth ei fam o'r iaith newydd. Os byddwch gadarn fe enillwch eich gwobr. Fe a'r adeg brwydro rhwng y ddwy iaith heibio yn fuan; rhyw chwe mis o ddyfal-barhâd, a ddaw a'r un bach i ddeall mai y Gymraeg yw iaith ei gartre, ac mae wrth geisio yn yr iaith hon yn unig y ca ei ddiwallu a phob danteithion sydd gan ei fam i'w rhoi. Peidiwch ag esgusodi eich hun wrth roi'r bai ar y plant ereill sydd yn chwarae ag ef — yr ydych yn dangos eich gwendid wrth hynny, ac yn profi fod y plentyn yn fwy penderfynol na'i fam. Dim ond un penderfyniad sy'n eisiau i bob mam ei wneud, ac mae hynny yn eithaf syml, sef gwneud i'r plentyn bob amser ofyn am bopeth yn Gymraeg, a siarad dim ond y Gymraeg ar yr aelwyd. Dyna ddigon i brofi mor hawdd yw y gwaith os oes cariad tuag at yr iaith gennych.

Ond mae'n rhaid gwneud rhagor na hyn yn ystod y cyfnod hefyd. Rhaid dechreu creu cariad tuag at yr iaith a phopeth Cymreig yn ei fynwes. Os ydych wedi darllen yr ysgrifau hyn o'r dechreu fe gofiwch fy mod i wedi pwysleisio y ffaith fod gan y fam ragorach gwaith na magu'r plentyn i siarad Cymraeg — cyn ei eni — yn ei grud — pan yn dechreu sylwi a siarad, rhaid creu ynddo



Gariad Mawr a Gwresog

tuag at ei wlad a'i phobl. Hyd yn hyn mae y cariad yma wedi bod yn “passive” - i gyd o du'r plentyn. 'Nawr rhaid dechreu ei wneud yn “active” — rhaid y plentyn gymeryd rhan. Mae yn dysgu'n fwy-fwy i adrodd a chanu hwian-gerddi Cymreig, fel "Hen Fenyw Fach Cydweli,” “Pego Ban,” “Pan own i mynd tua'r Ysgol,” etc. etc. Daw i ganu llawer emyn Cymraeg ac adrodd ambell adnod fach fer. Bydd yn disgwyl i’w fam adrodd iddo ystori fach bob nos, a bydd hithau yn ceisio rhoi iddo ystori fach wir Gymreig, ac nid Saesneg wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg. Efallai rhyw dro eto cawn gyfle i ymdrin a chwestiwn y stori, ond gofod a balla yn awr. Bydd y fam gâll yn dangos i’r plentyn fod meddu ar ddwy iaith yn well na meddu ar ddim ond un, yna bydd yr un bach yn ymfalchio bob amser ei fod yn Gymro. Felly y tyf nes ei fod yn barod i fynd i’r ysgol yn bum mlwydd oed. Ceir gair am y cyfnod hwnnw ar fywyd y plentyn y tro nesaf.