dimarts, 25 de juliol de 2006

Hanner awr wedi un y bore (hanner awr wedi dau yma) ac yr wyf yn hala neges at faes-e. Rhy dwym i gysgu - mae'r ddinas hon fel ffwrn o hyd, bum awr ar ôl machlud haul. Ymhen dau ddiwrnod - ddydd Iau - fe fydd y tywydd yn torri, a'r tymheredd yn gostwng rywfaint, yn ôl y radio heno.

Mae un o'r edefynnau ym maes-e yn hynod o ddiddorol, yn sôn am eiriau Cymraeg a ddaeth o'r Saesneg sydd wedi diflannu o'r iaith honno erbyn hyn. Dyma fy mwt o neges heno:

http://maes-e.com/viewtopic.php?p=293266#293266

Postiwyd: Maw Gor 25, 2006 1:34 am
Mae llawer o sôn am "nesh" ar dudalen tafodiaith De Swydd Efrog
http://www.bbc.co.uk/southyorkshire/content/articles/2005/08/16/voices_sywords_feature.shtml

Gair arall o'r Saesneg yn y Gymraeg nad yw'r Saeson yn ei arfer yw'r gair "clem"

GPC t. 496, yn Saesneg "clem" = feis; band haearn; amrywiad ar "clam".
Yn y De (ag yn Arfon) = "gafael, amgyffred, crap, syniad"

Stag e ddim clem shwt ma gneid dim.

Yn Saesneg yr oedd "clem" arall, amrywaid ar "clam" = newynu, dihoeni o ddiffyg bywyd
1 (Gogledd) newyn - mae hi wedi mynd yn glem ar y defaid
2 (De) cleme = ystumiau
Paid gneid hen gleme fel na

Wrth sôn am y gair "crap", daw'r gair Saesneg (= sothach; cachu) o "crappe" (1400+) = us, o air Iseldireg. Ond nid yr un gair â'r crap Cymraeg mo hwn - "cal crap ar rÿwbeth", dod i amgyffred rhywbeth. Yn ôl GPC t. 580, o'r Saesneg 'grab' mae hwn yn ôl pob tebyg.

divendres, 21 de juliol de 2006

Dyddlyfr y Bachan Main

Iau 20 Gorffennaf 2007

Diwrnod crasboeth arall heddiw.
Dosbarth heno wedi ei ganslo - cefais alwad ffôn o rÿw le yn y ‘país veí’ (y wlad ddrws nesa, sef Castîl Fawr, neu yn ôl y Castiliaid, Sbaen) - byddai’r awyren yn cyrraedd yn rhy hir iddo allu gyrraedd adref mewn pryd.

Ac er bod digon o waith y mae rhaid imi ei wneud, halais i bum awr yn llunio map lled anghelfydd o Eisteddfodau Cymru er 1861.

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_cymru/07_cymru_eisteddfodau_ers_1861_2515k.htm


Mercher 19 Gorffennaf 2006
Diwrnod prysur. Dwy awr o ddysgu Saesneg mewn cwmni heb fod ymhell o Plaça de Catalunya. Dim ond dau o grw^p o ddeg - y lleill yn rhy frysur i ddod heddiw.

I'r pwll nofio ar ôl y wers - cerdded i lan ar hyd Passeig de Gràcia. Fel aelod o Plataforma de la Llengua y mae tipyn o waith imi ei wneud wrth rodio'r rhodfa, a mynd heibio'r i'r arwyddion lu uniaith Gastileg.

http://www.plataforma-llengua.cat/nova/img/material_grafic/adhesius/43.gif

(Plataforma de la Llengua = Cymdeithas yr Iaith Gatalaneg, neu un ohonynt, ysywaeth - mae'r Catalaniaid yn tueddu i wastraffu eu hegni a'u hamser trwy beidio a chyd-weithio, a chodi cynnen gyda’i gilydd am bethau dibwys)

Am bump i adeilad Titanicaidd yr undeb llafur, Comissions Obreres de Catalunya. Problemau am gytundeb gwaith gen i - neu yn hytrach diffyg cytundeb gwaith - mae gormod o gwmnïau yma yn cymryd mantais o weithwyr o wledydd eraill gan feddwl na fyddant yn cwyno am sefyllfa anghyfreithlon, neu yn gwybod eu bod yn anodd iddynt gwyno os nad yw pob darn bach o bapur y mae ei eisiau i fod yn "fewnfudwr cyfreithlon" wedi eu hel at ei gilydd ganddynt, neu unwaith y mae'r casgliad yn gyflawn, eu bod yn dal yn ddilys ganddynt. Mae'r mater hwn wedi bod yn nwylo cyfreithwyr ers pum mis - fe ddaeth yr achos ger bron y barnwr yr wythnos diwethaf. Rhaid iddo benderfynnu a yw gweithiwr sydd yn gweithio i ryw gwmni yn "gyflogedig" neu yn "hunangyflogedig". Yn ôl y sibrydion mae'r barnwr wedi derbyn safbwynt cyfreithiwr yr undeb llafur - ni all cwmni fynnu bod eu gweithwyr yn "hunangyflogedig". Felly gallwn ddisgwyl cytundeb gwaith gan y cwmni cyn hir - os nad ydynt yn fy rhoi ar y clwt am fynd â'r achos i'r llys.

http://www.ccoo.cat/index2.htm


Dosbarth Cymraeg yn y nos - tua blwyddyn yn ôl, ar ôl ysgrifennu rhy sylw ar fforwm Catalaneg,

http://www.racocatala.cat/

cefais neges gan Gatalaniad yn gofyn a wyddwn i am rywun oedd yn rhoi gwersi Cymraeg. Yn y diwedd daeth tri at ei gilydd i wneud dosbarth gen i - tri myfyriwr yn eu hugeiniau cynnar, dau o Gatalonia, ac un o Galisia yn wreiddiol. Wedyn daeth P i'r grw^p, Catalaniad tua 45 oed oedd yn gwybod ambell air Cymraeg. Cafodd wybod am y dosbarth ar ôl siarad â ni yn y stondin Gymraeg a osodwyd gennym yng Ngw^yl y Llyfrau a gynhelir ar Ddiwrnod Nawddsant Catalonia, Sant Siôr. Ond diflanood ar ôl dwy wers, a rw i heb glywed ganddo ers deufis. A myfyriwr arall yn symud i ffwrdd i weithio mewn pentref lan yr arfordir dros yr haf.

Gêm nadroedd ac ysgolion yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r wers heno - cardiau bach â brawddeg yn Gymraeg ar un ochr a’r Gatalaneg ar y llall.


Mawrth Gorffennaf 18
Dim gwaith heddiw - efallai bod gwyliau gen i'n barod. Dosbarth gen i yn y pnawn, ond y myfyriwr ar daith. Mae'n awgrymu gwneud y dosbarth ddydd Iau. Na, mae’r gwyliau yn dal y tu draw i’r gorwel. Dal i hanner gweithio bydda i tan ddiwedd yr wythnos yma o leiaf.

Manteisio ar yr amser rhydd gan geisio rhoi trefn ar y pentyrrau o bapurau newydd a chylchgronau yn y fflat yma. Y rhan fwyaf yn mynd i'r cynhwysydd ailgylchynu papur ar Carrer Padilla heno.

Rhedeg am hanner awr yn y gwyll i Turó Rovira a Parc Güell. Ond hyd yn oed am 21.30 y mae’r gwres yn llethol, a dof i yn f’ôl yn foddfa o chwys.


Llun Gorffennaf 17 2006
Wrthi'n paratoi ymarfer tan rÿw dri y bore neithiwr, i'r ddau ddosbarth Cymraeg sydd gen i. Codi am wyth i roi'r copsi arno. Am 10.00, bant â fi i gaffi ar bwys Ysbyty Sant Paul (Hospital de Sant Pau) lle y byddaf yn cwrdd â myfyriwr Cymraeg bob bore Llun - R, hanesydd o Gatalaniad, tua 60 oed. Mae wedi bod yn astudio gen i ers pedair blynedd, ac y mae'n awyddus i fynd i eisteddfod y Felindre. Ond mae'n dweud yn awr ei fod yn ofni na fydd yn gallu fforddio mynd wedi'r cwbl.

Wedi penderfynnu rhoi’r profion ar y we. Efallai byddan nhw o ddiddordeb i Catalaniaid eraill sydd yn ymddiddori yn y Gymraeg.

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_cwrs/cymraeg_prawf_14_2516c.htm

Rhy dwym i wneud dim yn y pnawn, felly dilyn arfer y gwladwyr a chael migdiada , sef cyntyn pnawn.

Fel arfer rwyf yn rhoi dosbarthiadau preifat yn yr iaith fain i gadw corff ac enaid ynghyd, ond mae'r gwaith wedi bod yn brin eleni. Am bedwar, dechrau paratói y wers ar gyfer heno (yn y stafell hon sydd fel sawna y dyddiau hyn), i'w rhoi mewn bar ar bwys Plaça Sant Jaume yng nghanol y ddinas. Ond erbyn cyrraedd y bar am wyth - taith fer ar y metro o’r ardal hon o’r ddinas - dyma gael gwybod bod y myfyriwr - gwerthwr i gwmni cerbydau - yn awyddus i ymbaratoi ar gyfer taith i Andalwsia ben bore. Trefnu gwneud y dosbarth ddydd Gwener yn lle heddiw.

I'r pwll nofio ym mhentre Gràcia i f'atal rhag toddi yn y gwres myglyd ’ma.

diumenge, 16 de juliol de 2006

Dyddlyfr y Bachan Main

O flaen y cyfrifiadur y prynhawn hwn, ac er bod pethau amgenach i'w gwneud gennyf, dyma ddechrau hel achau - mynd ar ryw reswm ar hynt cyfenw fy mam - MacAoidh / Mackay - ar ôl imi ddod ar hap a damwain ar draws tudalen am y Gaeliaid ar Ynys y Tywysog Edward, a gweld bod teulu MacAoidh wedi bod yn un o'r pum prif garfan o Gaeliaid a ymsefydlodd yno.


http://www.upei.ca/islandstudies/rep_mk_1.htm

(Sefydliad Astudiaethau'r Ynys ym Mhrifysgol Ynys y Tywysog Edward)

Ac er gwybod taw o Sgrabastair / Inbhir Theorsa hanodd teulu fy mam, a bod rhyw frithgof yn y teulu am y Digartrefu dan ddwylo Dug Sutherland (1758-1833), yr oedd yn hen bryd imi edrych yn fanylach ar f'achau. (Rhwng 1811 a 1820 bwrwodd 15,000 o bobl i faes o diroedd eu hynafiaid i roi 200,000 o ddefaid yn eu lle).

Dyma ganlyniad awr o fynd o wefan i wefan y pnawn yma:

hen-hen-hen-dad-cu
John Mackay (g. tua 1802 Inbhir Theorsa, “Thurso”)

Priododd ag Isabell (Bell) Wallace (g. 1806)
____________________________________

hen-hen-dad-cu
John Mackay (g. 8 Chwefror 1837 Inbhir Theorsa, m.1909 Burnley, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr yn ?82 oed)

Priododd â Margaret Gunn, 5 Rhagfyr 1856 yn 19 oed, yn Inbhir Theorsa, a hithau’n 18 oed

Margaret Gunn (ganwyd 1 Gorffennaf 1837 Inbhir Theorsa, bu farw 2 Rhagfyr 1920 Burnley, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr yn 83 oed)
____________________________________

hen-dadcu
John William Mackay
(ganwyd 1866 Sgrabastair, bu farw Burnley, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr, blwyddyn ?)
(Cyfrifiad 1901: John Mackay, Burnley, Swydd Gaerhirfryn, 34 oed; ganwyd yn yr Alban; perchennog ty^ tafarn a gweinÿdd - “pub proprietor and waiter”)

Priododd â Clara Hoval Racher, 8 Mawrth 1887 yn ?21 oed, yn Luton, Lloegr.

Clara Hoval Racher (ganwyd. 6 Mehefin 1865, Royston, Swÿdd Hertford, Lloegr; bu farw 6 Mehefin 1933, Burnley, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr yn 68 oed)
(Cyfrifiad 190: Clara Mackay, Burnley, Swydd Gaerhirfryn, 34 oed; ganwyd Royston, Swydd Gaer-grawnt)
____________________________________

tad-cu
William Fielding Mackay
(Cyfrifiad 1901: William F. Mackay, ganwyd Burnley, Swydd Gaerhirfryn, 2 oed)

____________________________________

mam
____________________________________

fi

Y stori yn y teulu yw i'm hen-dad-cu, a weithiai fel gwas stabl, gwrdd â'i wraig, oedd yn forwyn, wrth iddyn nhw weithio mewn plas byddigions yn ymyl Betws-y-coed.

Ac os ganwyd ef yn 1802 yn nhref Inbhir Theorsa, a bu fyw yno, ni effeithiwyd yn uniongyrchol o bosibl gan y Digartrefu.

On ni allaf fynd ar ôl y sgwarnog honno yn awr, am fod cloch cloc yr Eglwys Babyddol ar ben y lôn wedi taro naw; a hithau'n dechrau nosi, mae gennyf hanner awr i redeg yn awel yr hwyr trwy Barc Güell - os nad ydynt wedi cau'r clwydi enfawr maent wedi eu codi yr wythnos hon i wneud y parc yn fwy ddiogel trwy ei gau yn ystod oriau'r tywyllwch... ond hefyd bydd hefyd yn cadw allan y llu o redwyr fin nos. Math arall o Ddigartrefu.

dissabte, 15 de juliol de 2006

Xafogor yw'r gair Catalaneg am fylltra llaith Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Uf! Quina xafogor que fa avui! Whiw! Mae hi mor boeth ac mor llaith!

Yn ôl Diccionari Etimològic Manual / Josep Moran, Joan A. Rabella, edicions 62, 1999:
Calor sufocant caracteritzada per l'elevada humitat
(Gwres myglyd sydd yn uchel ei leithder)

Probablament del llatí / O'r Lladin yn ôl pob tebygrwydd
offocâre = ofegar / boddi
amb un prefix ex- / ag arddodiad ex-

exafogor > eixafogor
amb afèresi / â blaendoriad
'xafogor

Un ar ddeg y nos, a'r ffenestr led y pen, a dim awel eto yn dod i mewn i'r ystafell. Rhyw gi bach blin â chyfarth main i'w glywed mewn fflat yn y bloc wrth ochr y bloc hwn o fflatiau; ambell feic modur yn rhuo heibio, gan dorri pob cyfraith cyflymder a sw^n; tincian cyllyll a ffyrc a llwyau a phlatiau trwy ffenestri agored y gwesty am y lôn i ffenestr y fflat fach hon.

______________________________

Chwe blynedd yn ôl ymron gadais i neges ar Welsh-L ond ni chefais ateb iddi. Ym mha le yr oedd Gwalia Deg yn Nebraska? Dyma hi eto. Efallai caf fi ateb gan Nebrasciad Cymraeg ei iaith / Gymraeg ei hiaith.

Dyddiad:
Gwener, 15 Rhagfyr 2000 20:16:28
Pwnc: Gwalia Deg, Nebraska

Yn y llyfr "The History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime Springs, Iowa" (1895) mae sôn am y Parchedig John A. Jones a gwladychfa 'Gwalia Deg' yn nhalaith Nebraska. Ble yn union oedd Gwalia Deg? A oes pentref yno o hyd? Pa enw sydd arno erbyn heddiw?

Dyma'r cyd-destun: "Rev. John A. Jones Born at Rheidiol (sic), near Aberystwyth, Cardiganshire, Wales, in the spring of 1828. His parents, John and Catherine Jones, removed when he was a child, to a farm called Nantyrhydd near Nanteos. This was also the home of Rev. Thomas Edwards, Dr. Lewis Edwards and the eminent Welsh musician Ieuan Gwyllt..."

Ar ôl iddo fynd i America i fyw, dywedir amdano:

"He preached in English to the Foreston church every Sunday morning and in Welsh to the few Welsh families at Bristol Minnesota, in the afternoons. The only Welsh families then in that now populous Welsh settlement were: David J. Davies, William Davies, J. Jones, John R. Williams, Owen Jones, and Richard W. Jones. His next move was to Floranceville, nine miles south of Foreston, where he organized a church of nine members. Before he left the membership increased to fifty and a church edifice was built at a cost of $4,000. He was sent in 1871 by the Home Missionary Society to Nebraska and there organized an English church and helped to found the Welsh settlement of "Gwalia Deg". In 1874 he removed to Salem, Neb., where he labored with great success for six years. In 1880 the Home Missionary Society sent him to California and he ministered two years in Calaveras county, then at South Vallejo and Crockett.

________________________

Heddiw bûm yn siarad â X.M., sydd yn aelod o gorff gwirfoddol sydd yn cynnal ffair ddiwylliannol â gwleidyddol, sef dwy res o stondinau wrth Borth Gorfoledd Barcelona ar Passeig Lluís Companys ar ddiwrnod cenedlaethol Catalonia, yr unfed ar ddeg o Fedi. Rhyw fath o Faes Steddfod heb y Steddfod.

Yfory mae cyfarfod gan y corff i sôn am y stondinau ar gyfer gw^yl eleni. A hoffwn i gael "stondin Cymru"? Dyna drydedd flwyddyn y ffair fach hon, ac yn y ddwy flynedd a aeth heibio nid oedd gennyf ddim i'w gynnig ar y stondin - dim llyfrau Cymraeg, dim crynoddisgiau Cymraeg, dim taflenni yn Gatalaneg - diffyg amser, diffyg arian, a diffyg cefnogaeth.

Ond er bod llai o amser hyd yn oed gennyf eleni, ac eleni yr wyf wedi mynd i ddyled ar ôl colli fy ngwaith, a llai o gefnogaeth na'r llynedd, dywedais wrtho am gadw stondin ar gyfer 'Clwb Cymraeg Catalonia' (er nad ydym yn bodoli'n swyddogol, yr ydym yn cynnal ambell barti ac yn gwneud dosbarthiadau Cymraeg yma bob blwyddyn).

Gobeithio bydd yn fwy o lwyddiant na'r w^yl lyfrau ar ddiwrnod nawddsant Catalona, Diwrnod Sant Siôr, Ebrill 23. Dair wythnos cyn yr w^yl archebais ambell lyfr gan Gwyn yn siop Awel Meirion, a dyma Gwyn yn eu rhoi yn y post bum munud ar ôl derbyn f'archeb. Ond buont dros fis ar eu taith. Wythnos ar ôl sefyll am ddeudeg awr tu ôl i stondin bron yn wag ar y sgwâr tu allan i siop lyfrau CAT yn Guinardó, dyma nodyn yn y blwch post eu bod wedi cyrraedd y swyddfa bost leol.

Er i mi ameu eu bod wedi cyrraedd bron mis cyn hynny.

Mae'r parseli yn mynd i swyddfa bost arall yn y cylch wrth i'r un leol gael ei hadnewyddu. Mae llawer y ffordd hon yn cwyno am eu bod yn cael eu post yn hwyr y dyddiau yma. Efallai i'r gweithwyr anfodloni ar ddosbarthu llythyrau a pharseli nad oeddynt yn 'perthyn' iddynt, ac eu rhoi o'r neilltu am y tro.

Ond o leiaf mae gennyf stoc bach o atlasau, posteri a phapurau bro i werthu oddi ar stondin mis Medi. Os caf i hyd iddynt yng nghanol annibendod y stafell fach hon...