diumenge, 5 de febrer de 2006

Ymgyrch ebost yn erbyn cylchgrawn yn Saesneg

Ebost neithiwr gan Gymdeithas yr Iaith Gatalaneg (Plataforma per la Llengua) yn gofyn i bobl brotestio yn erbyn erthygl gwbl hiliol yn erbyn y Catalaniaid mewn cylchgrawn a sefydlwyd gan Saeson yma yn Barcelona, sef Barcelona Connect. Dyma fi’n ysgrifennu at fforwm Catalaneg i ofyn i bobl hala neges at y cylchgrawn i gwyno.

Mae'r Prydeinwyr sydd yn dod i fyw yma (Saeson, ac ysywaeth y rhan fwyaf o’r Cymry a’r Sgotiaid hefyd) yn hollol ddirmygus eu hagwedd tuag at y Catalaniaid. Rhaid dweud hefyd fod y ‘bobl ddwad’ o'r Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r gwledydd Llychlynaidd yr un mor elyniaethus tuag at y Catalaniaid. A'r Gwyddelod yw'r gwaethaf am ryw reswm.

Ychydig ychydig iawn sydd yn dysgu Catalaneg; mae nhw'n martsio o gwmpas fel rhyw fath o gyrchfilwyr yn siarad math o Gastileg òd ac yn meddwl eu bod yn Gastiliaid go iawn.

Beth yw’r rheswm am hyn? Yn ôl y Catalaniaid, mae'r bobl hyn wedi meddwl taw i Sbaen yr oedden nhw'n dod, lle mae ymladd teirw ar ben pob heol, lle mae'r bobl yn dawnsio fflamenco trwy'r dydd ar bob sgwâr, a'r dynion yn cael siesta trwy'r pnawn, yn eistedd ar y palmant dan bwyso yn erbyn y wal, o dan hetiau mawr Mecsicanaidd; ac yn yfed ac yn canu yn y bar hyd oriau mân y bore.

Ond
Catalonia sydd yma, nid Andalusia, neu llai fyth Mécsico. Nid felly yw’r Catalaniaid.

Ond... y mae yma bobl o Andalwsia. Anfonodd llywodraeth yr unben Franco filiwn a hanner ohonynt i Gatalonia, i wlad o dair miliwn o Gatalanaid, fel rhan o gynllun i wanhau’r iaith Gatalaneg. Yr oedd y bobl yn dal i'w siarad er iddi gael ei gwthio allan o bob ysgol, gweinyddiaeth a swyddfa.

Gan i'r mewnfudwyr gadw at ei gilydd mewn getos, ar y cyfan dy^n nhw ddim wedi dod yn Gatalanwyr. Mae'r rhan fwyaf yn deall Catalaneg- ddim mor anodd, am fod Catalaneg a Chastileg yn ieithoedd tebyg iawn. Ond maen nhw'n gwrthod siarad yr iaith, am mai yn ‘Sbaen’ y^n nhw, a dim ond un iaith sydd yn Sbaen, sef y Gastileg. Mae’r plant wedi dysgu Catalaneg yn yr ysgolion, ond gan nad Catalaniaid y^n nhw, yn eu tyb nhw, maen nhw (ar y cyfan) yn gwrthod ei siarad.

Gan i lywodraeth Franco roi gwahardd ar yr iaith Gatalaneg am ddeugain mlynedd ymron, a gorfod i bawb dysgu Castileg, mae'r Catalaniaid yn prysur cefnu ar eu hiaith am ei bod yn 'fwy naturiol' i siarad Castileg â phawb erbyn hyn.

Yn fyr, gellir dweud fod y Prydeinwyr gwrth-Gatalanaidd (a’r lleill o’r un anian o wledydd eraill) yn hunaniaethu â'r carfanau mwyaf Ffasgaidd o'r mewnfudwyr a'u disgynyddion - y rhai sydd yn hiraethu am Franco, ac yn gweld y Catalaniaid fel gelynion.

A phan maen nhw'n sefydlu cylchlythyron a chylchgronau - ow! mae temtasiwn fawr gan y Prydeinwyr hyn i ddangos eu gelyniaeth tuag at y Catalaniaid bob gafael.

A dyma Barcelona Connect y mis hwn - erthygl yn cyhuddo'r blaid ranbarthol adain-dde CiU a'r blaid genedlaethol adain-chwith ERC o fod yn bleidiau 'yr hil bur', galw ‘Cataloonies’ arnyn nhw, a rhibidires o sarhadau eraill.

Ond dyna anwybodus yw’r ffyliaid hyn o Brydeinwyr, wrth sôn am “hil Gatalonaidd”. Mae’r Catalaniaid yn derbyn eu bod yn bobl gymysg yn hanesyddol ac yn enwedig ar ôl y mewnlifiadiau dros y can mlynedd diwethaf, a bod croeso i bawb ddod yn Gatalan - a hyn a wneir trwy ddysgu siarad Catalaneg.

Ond bu mewnlifiad Franco yn y chwedegau a saithdegau yn rhy fawr i’w gymathu. At hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf y mae mwy na miliwn o fewnfudwyr wedi dod i fyw i Iarllaeth Catalonia, sef mwy neu lai y ‘Gatalonia’ ar y mapiau, ac felly mae’r boblogaeth wedi codi ar un llam o chwech i saith o filiynau. Pobl o Dde América yw’r rhan fwyaf, yr un mor elyniaethus tuag at y Catalaniad, am eu bod nhw wedi dod i fyw i ‘Sbaen’.

Mae’r Catalaniaid yn cymathu erbyn hyn at y newydd-ddyfodiaid.

Yn fyr, cafwyd erthygl warthus gan ryw Brydeiniwr (neu o bosibl rhyw Wyddel), ag ymgyrch ebost i gwyno. Does fawr o Saesneg gan y Catalaniaid a dy^n nhw ddim yn gweld yr hyn y mae’r Prydeinwyr yn ysgrifennu amdanyn nhw. Ond y tro hwn, wrth gael gweld yr hyn a ddywedwyd amdanyn nhw, mae llawer wedi anfon ebost at y cylchgrawn. Ac y pnawn yma cefais ebost gan y cylchgrawn yn cynnig rhyw esgus taw ‘erthygl heb ei golygu’ oedd wedi ei phrintio ‘trwy gamgymeriad’, eu bod yn edifar am hyn, ac y bydd ymddiheuriad yn y rhifyn nesaf.


http://www.racocatala.com/forum/llegir.php?idf=2&fil=14994&pag=1#674797

dijous, 2 de febrer de 2006


Rwyf wedi penderfynu mynd yn gynlluniwr ystafelloedd. Dyma ystafell yr wyf yn falch iawn ohoni, cynllun o'm gwaith i - mae rhyw naws o eangder, effeithiolrwydd a threfn i'r cyfan.
 Posted by Picasa

Dyma'r ffreutur. Ar un o fyrddau'r ffreutur gwelir plât ac olion bwyd arno. Ar lawr y ffreutur y mae mwg ddaeth o'r Alban ryw dro. Posted by Picasa

Dyma asgell ddwyreiniol yr ystafell. Gwelir shilff â dau flwch sydd yn gopsi ar y cyfan. Dyma un o brif atyniadau'r rhan hon o'r fyfyrgell. Posted by Picasa

Yn sylfaen i'r ddau flwch gellir gwled yn gliriach y cynllun 'deulawr', modd i fanteisio ar y lle rhwng top y shilff a'r nenfwd. Posted by Picasa

O dan y casgliad o ffeiliau modrwy prin gwelir set o ddroriau (dreire) plastig sydd yn llawn dop o rywbeth. Posted by Picasa

Dyma fap o'r Gwledydd Catalaneg ar ochr set o shilfoedd. Oddi tano y mae calendr. Sylwch hefyd ar argraffydd sydd yn llechian ar un o'r shilffoedd. Mae'r peiriant dieflig hwn wedi meddiannu lle'r cyn-drigolion, rhes o lyfrau sydd wedi eu stwffio mewn cilfach arall, dyn wyr ym mha le. Posted by Picasa

Dyma haul tanbaid canol y dydd yn yr wybren melyngoch - neu efallai golau'r ystafell yw e. Wn i ddim. Mae'r cámera yn meddwl taw 2002 yw hi eleni. A tawDydd Calan yw'r chweched ar hugain o fis Ionawr. Posted by Picasa

Dyma'r map o'r Gwledydd Catalaneg eto. Posted by Picasa

Dyma'r asgell orllewinol. Uwchben y gorwel mae'r nenfwd, un o nodweddion mwyaf deniadol y rhan hon o'r astudfa. Posted by Picasa

Golygfa arall o'r asgell orllewinol. Mae'r cornelyn hwn yn lle delfrydol i wahodd ffrindiau i gael dishgled fach o de, neu hyd yn oed pryd o fwyd. Posted by Picasa