dilluns, 7 de març de 2011

Hiteman, Iowa

GWIBDAITH I HITEMAN A GEORGETOWN, IOWA. 
Rhan 1 - Hiteman

.. 
Y mae gennyf lif o luniau o'r ymweliad â'r un gyntaf o'r ddwy gymdogaeth Gymreig hyn ar youtube (Hiteman, Iowa):..
..
..
Y modd y daethom, trwy hap, ar draws mynwent arall yn Iowa lle y mae canran uchel o feddau Cymry alltud: 
··
 (Dydd Sul 4 Medi 2010). Y diwrnod hwnnw nid oedd gennym fawr o amser – teithio yr oeddym o Spencer yng nghwr gogledd-orllewinol y dalaith i Kirkville ym Missouri, gan obeithio dod o hyd i fotel neu westy modurwyr yn y dre honno am bris rhesymol, a chyrraedd cyn yr oriau mân!
..
Y diwrnod canlynol yr oedd yn fwriad gennym ymweld â thri sefydliad Cymreig ym Missouri – (New Cambria, Bevier, Dawn) o’r naw a restrwyd gan Iorthryn Gwynedd* (“1. St. Louis 2. New Cambria. 3. Bevier, a’i Gweithiau Glo. 4. Callao. 5. Macon City. 6. Brookfleld. 7. Chillicothe. 8. Utica. 9. Dawn, Livingston Co.”)
..
*Y Parch. R[obert] D[avid] Thomas, g. Llan-rŵst 1817, m. Knoxville, Tennessee 1888. Hanes Cymry America yn y Gorllewin Pell yn Nhalaethau Indiana, Michigan, Illinois, Wisconsin, Minnesota, Iowa, Missouri, Kansas, Nebraska, California, Oregon a’r Tiriogaethau.  1872.  
..
..
Ar ôl ymadael â Des Moines daethom i ardal yr hen feysydd glo, lle bu cannoedd o Gymry yn byw ryw ganrif yn ôl. Gresyn fyddai peidio â manteisio ar y cyfle i archwilio mynwent neu ddwy yn y cylch hwnnw wrth deithio trwyddo, meddyliais.
..
Ond yr oedd yn saith o’r gloch arnom yn barod, ac ymhen awr y byddai’r haul wedi machlud, a byddai crwydro o gwmpas mynwent yn y tywyllwch yn annoeth (heb sôn am fod yn anghyfreithlon).
..
Yr oeddym wedi clywed o bryd i’w gilydd bod Cymry wedi byw yn Hiteman ar un adeg, a dyma weld ar y map fod y pentre hwnnw heb fod ymhell o Ffordd Fawr Iowa Rhif 5 (Iowa Highway 5) – yr heol yr oeddym wedi ei chymryd i fynd tuag at y de i gyfeiriad y ffin daleithiol
..
Yn ôl y map byddai dwy heol fach ar y dde - Heol Cant Chwe-deg Pump (165th Street), a Heol Cant Saith-deg, ryw filltir a hanner tu hwnt iddi, y ddwy yn arwain i bentref Hiteman. Ond ni welwyd yr un arwydd, ac yr oeddym bron ar gyrion tref Albia. Wel, dyna anlwc. Sut yr oedd yn bosibl i ni fynd heibio i’r ddwy drofa heb i ni sylweddoli? Ymwelwn â phentre Hiteman y tro nesa - os bydd tro nesa.

Ond wrth ddynesu at dre Albia, a hithau’n awr yn ddeg munud wedi saith yn yr hwyr, dyma weld arwydd “Hiteman” – felly yr oeddym heb gyrraedd yr ail drofa - yr oedd yn nes o lawer i dre Albia nag yr oeddwn yn meddwl. Heol Cant Saith-deg. Arafu, troi a mynd ar hyd y lôn gul a wnaethom, a chyn hir dyna arwydd ag enw’r pentref arno, a’i boblogaeth presennol: “Hiteman. Population 101.”
··
Deallais wedyn, wrth ymchwilio i hanes Hiteman, fod dros ddwy fil o boblogaeth yma gan mlynedd yn ôl, pan fyddai’r pyllau glo ar eu hanterth. Erbyn hyn gwelir ambell dŷ diolwg yma a thraw, a glaswellt lle bu ugeiniau o dai ar un adeg.
..
Dim sôn am fynwent. Dim arwydd, dim maes crochenydd rhwng y tai. Bydd rhaid gofyn i rywun. Ond nid oedd yr un enaid byw i'w weld o gwmpas ym mhentre diffaith Hiteman. Ni wiw i ni stopio’r car a mynd at ddrws un o’r tai yma ar fachlud haul i ofyn... pwyll biau hi mewn gwlad lle y mae arf tanio gan lawer, a rhai ond yn rhy barod i saethu ar yr esgus lleia.
..
Wrth lwc dyma wraig tua deugain oed yn dod allan o ddrws ffrynt ei chartre i fynd at y garej wrth ochr y tŷ, a dyma sgwrs fach drwy weiddi o’r heol dros y ardd. Gofyn a oedd yn y cyffiniau ryw fynwent. Hithau’n gweiddi yn ôl eu bod yn ffaelu clywed, a cherdded drosodd atom, ond yn sefyll ryw bumllath o’r car, yn awyddus i helpu ond yn anfodlon dod yn rhy agos atom. Dweud a wnaeth fod y fynwent leol tu hwnt i’r pentre, hanner milltir i ffwrdd, ar fryncyn ar yr ochr chwith i’r heol.
..
Diolchasom iddi, a bant â ni i gyfeiriad machlud yr haul.
..
Y mae’n bum munud ar hugain wedi saith, a'r gwyll wedi disgyn ar rai o heolydd y pentre yn barod. Ond ar ben y bryncyn mae’n heulwen lachar o hyd. I mewn i’r fynwent, ac yn wir, Cymry a gladdwyd yma. Llu ohonynt.
..
··
Yn ddiweddar cefais hyd i restr o’r enwau o’r meirw yn y fynwent hon oddi ar wefan USGenWeb Project. Dyma’r cyfenwau Cymreig o’u plith:
..
(Gall fod yma yn y fynwent Gymry ag arnynt gyfenwau anghymreig heb eu cynnwys yma; mae un cyfenw felly wedi’i roi yn y rhestr – Baxter – am fod arysgrifiad y garreg fedd yn tystio iddo gael ei eni yn Llanidloes.)
Hefyd, efallai nad o dras Gymreig yw pob un yn y rhestr hon, er bod arno / arni gyfenw Cymreig.
..
Dyma’r cyfenwau Cymreig (47) sydd yn y rhestr
..
Elizabeth BAXTER 15 Mawrth 1851 – 24 Mai 1939
Harold L. BAXTER bu farw 31 Ionawr 1897
James BAXTER 15 Ebrill 1850 Llanidloes – 7 Mai 1914
Zola Mae BOWEN 18 Ionawr 1899 – 7 Mawrth 1899
Ella DAVIES 1861-1907
..
Griffith DAVIES 1851-1916
Henry EDWARDS bu farw 19 Chwefror 1910
Elenore ELLIS 31 Gorffennaf 1825 – 2 Rhagfyr 1910
Henry ELLIS 12 Mai 1895 – Ionawr 12 1897
Moses ELLIS 2 Mawrth 1859 – 8 Tachwedd 1896
··
Sefora ELLIS 18 Rhagfyr 1889 – 5 Rhagfyr 1894
Reverend William ELLIS 25 Mehefin 1863 – 19 Mehefin 1908
Edith HOWELLS bu farw 12 Ebrill 1903
Emma HOWELLS 1870-1914
Evan HOWELLS 1865-1939
..
Leona HOWELLS 31-Mawrth 1904 – 5 Medi 1909
Charles A. “Cub” JAMES 18 Gorffennaf 1871 – 23 Chwefror 1923
Emily JENKINS 1891-1894
Marguerite Z. JENKINS 1914-1922
Nellie JENKINS 1859-1948
..
Reese Edward JENKINS 18 Rhagfyr 1923 – 18 Mawrth 1966
W. S. JENKINS 1857-1921
Winchester JENKINS 1890-1974
Joe MORGAN 1920-1920
John Lewis MORGAN 1869-1913
..
Ruth MORGAN 1911-1912
Margaret G. “Madge” MOSES 20 Mai 1924 – 4 Mawrth 2009
Mary Ann MOSES 1878-1952
Matthew “Smokey” MOSES 24 Mehefin 1915 – 26 Mai 1995
Richard PHILLIPS bu farw Rhagfyr 1893
..
Albert A. ROBERTS 1910-1911
Delmar A. ROBERTS 1899-1914
John E. ROBERTS 1904-1909
Kenneth E. ROBERTS 1900-1901
Phyllis M. ROBERTS 1902-1910
..
Ralph N. ROBERTS 1909-1909
Jimmie SAMUEL bu farw 13 Medi 1909
Sarah SAMUEL bu farw 23 Gorffennaf 1900
Beulah THOMAS 1913-1972
Geneva THOMAS 1913-1076
..
Joe THOMAS 1911-1973
Lloyd A. THOMAS 1901-1989
Richard J. THOMAS 1986-1933
Sarah THOMAS 16-12-1870 – Gorffennaf 1918
Viola T. THOMAS 1909-1940
..
Fred Layton WATKINS 12 Mai 1918 – 29 Mai 1918
Nellie WILLIAMS bu farw 26 Mawrth 1905
..
Nid oedd dim yn Gymraeg ym Mynwent Hiteman.
..
Mae un garreg fedd yn datgan i’r Parch. William Ellis gael ei eni yn Ne Cymru (“Born in South Wales”). Arall yn sôn bod James Baxter wedi ei eni yn “Llanedloes” (gwall y saer maen? hynny yw, Llanidloes) ar 15 Ebrill 1850 (un o gyfenwau anghyfiaith y rhan hon o Faldwyn yw Baxter, wrth gwrs, ynghyd â Hamer, Mills, ac yn y blaen).
..

..
Yr oedd y golau’n cyflym bylu, ond o fewn ugain munud yr oeddwn wedi cael tynnu llun o’r rhan fwya, os nad y cyfan, o gerrig beddau’r Cymry.  
..
Yn ôl â ni wedyn i'r heol fawr, ac ymlaen i Albia yn y llwydnos.
..
Darnau o An Illustrated History of Monroe County, Iowa (= Hanes Darluniadol o Swydd Monroe, Iowa)
Frank Hickenlooper, 1896
..

(O’r Saesneg:) Mae twf mawr y diwydiant glo o fewn y sir wedi denu cenhedloedd eraill i’n plith dros y blynyddoedd diwetha. Cymry a Saeson yw’r rhan fwya o’r glowyr -  dyweder tri chwarter ohonynt. Americanwyr, Swediaid, ambell Eidalwr, Ffrancwyr, Sgotiaid a Belgiaid yw’r chwarter arall. Nid oes glowyr o Wyddelod, a dim ond ychydig o Almaenwyr. Ni fynn yr Iseldirwr fentro i’r tywyllwch, ac mae ar y Gwyddel chwant bod yn wastad ar y frig. Y Saeson a’r Cymry yw’r glowyr mwya llwyddiannus, am fod yr alwedigaeth yn etifeddol ganddynt ers canrifoedd. Ychydig o wahaniaeth genedlaethol sydd rhyngddynt. O Durham a Chernyw y mae’r Saeson....
..
Ym mha fan bynnag y mae camp mwyngloddio y mae cryn dipyn o Gymry. Mewn camp o, dyweder, fil o boblogaeth y mae rhyw hanner dwsin o wahanol deuluoedd o’r enw Thomas; ac y mae nifer debyg o Jamesiaid, Morganiaid, Lewisiaid, Williamsiaid, Reesiaid, Hughesiaid, Llewellyniaid a Jonesiaid. Maent i gyd yn enwau tra cyffredin ymlith y Cymry...
..
Y mae gan bentref Hiteman chwe chorff eglwysig, sef y Bedyddwyr, Yr Annibynwyr, y Lwtheriaid Swedaidd, y Methodistiaid Swedaidd, Y Bedyddwyr Cymreig, a’r Bedyddwyr Croenddu.
..
Sefydlwyd Eglwys yr Annibynwyr gan y Parch. William Thomas, a chodwyd addoldy yn 1892. Cymry yw’r rhan fwya yn yr eglwys, ac y mae iddi aelodaeth o ryw ddeugain ar hyn o bryd. Mae’r Parch. Owen Thomas, y gweinidog presennol, wedi bod yn pregethu i’r dosbarth ers dwy flynedd.
..
Codwyd addoldy gan y Bedyddwyr Cymreig yn 1890, 16 x 20 troedfedd o ran ei faint. Mae i’w corff hwythau aelodaeth o ryw bump ar hugain. Y Parch. D. R. Morgan yw eu gweinidog. 

DIWEDD.


 

dissabte, 5 de març de 2011

Carnarvon, Iowa



Y mae talaith Iowa yn frith o sefydliadau Cymreig. Yn rhyfedd ddigon, pentref Almeinig yn fwy na dim oedd Carnarvon, ac er bod sefydliad Cymreig ryw hanner can milltir i’r Gogledd (Peterson / Lynn Grove) ac un arall ryw bedwar ugain milltir i’r De (Wales), nid oedd yn y cylch hyn gymuned Gymreig fel y cyfryw. 




Sut felly aeth Carnarvon yn enw arno?

Yn ei hanes am Swydd Sac, Iowa (History of Sac County, Iowa) (1914) y mae’r awdur William H. Hart yn dweud fel hyn am y pentref (o’i drosi o’r Saesneg):

Carnarvon... Dyma’r unig bentref yn nhrefgordd Viola a gynlluniwyd a chofrestrwyd; 24 Hydref 1881 fu dyddiad ei gofrestru. Fe’i gosodwyd allan gan George W. Pitcher, yn adran 22, trefgordd 86, cylchfa 36.

Ar hyn o bryd mae iddo tua chant a hanner o drigolion. Cyffordd ar reilffordd y Chicago & Northwestern yw Carnarvon, lle y mae cangen Carroll yn ymadael â changen Tama.

Fe’i lleolir ychydig dros bedair milltir i’r de-ddwyrain o dref Wall Lake.

Fe enwyd y trefi fel a ganlyn... Carnarvon, ar ôl tref o’r un enw yng Nghymru, man geni y Goruchwyliwr Adran Hughes (“Division Superintendent Hughes”) o Gwmni Rheilffordd y Chicago & Northwestern...

Pwy yn union, tybed, oedd y Bonwr Hughes o Arfon?

Dyma luniau o Carnarvon a’r cylch yr wyf wedi eu rhoi at ei gilydd yn ddiweddar (sef ddoe):