dimecres, 26 de novembre de 2014

26 Tachwedd2014

Ar yr unfed-ar-bymtheg o fis Tachwedd bûm yn Ripoll yng Nghanolbarth Catalonia i gymryd rhan yn Hanner Márathon Tref Ripoll. Dyma'r lluniau (ar Youtube) o'r holl ras o'r cychwyn hyd y diwedd.

rhan 1 www.youtube.com/watch?v=C_UvAsMYsI8&list=UUB9Hc6yGoTmh7eTCYZHNdRQ 




_____


_____



_____






diumenge, 9 de novembre de 2014

9 Tachwedd 2014

Y bore 'ma yn Manlleu yn sir Osona yng Nghanolbarth Catalonia. 


Bûm yno i gymryd rhan mewn ras ddeg cilomedr, un o'r rasys rhedeg sydd yn cael eu cynnal 'dros annibyniaeth' (Corre per la Independència / Rheda dros Annibyniaeth).


Bu'r ddraig goch yn hedfan trwy feusydd a choedwigoedd y cylch yn ystod y bore.


A bu llawer o'r rhedwyr yn dangos eu cefnogaeth i annibyniaeth Catalonia.

Dyma un o bosteri ar gyfer y 'bleidlais anghyfreithlon' - chwedl llywodraeth Sbaen - a rhoid wrth y drysau gan wirfoddolwyr yr ymgyrch yn y gymdogaeth hon.


Neges ar gyfer trigolion y gymdogaeth

Eich canolfan pleidleisio ar y nawfed o fis Tachwedd 2014 yw:

Ysgol Uwchradd Turó de Roquetes (Turó = bryn, roquetes = creigiau bach)
Heol Alcántara 22

Sylwer. Ni ellwch ddefnyddio ond y lleoliad a'r blwch pleidleisio sydd yn cyfateb i'ch enw.

 manylion eich Cerdyn Adnabod Cenedlaethol (DNI) gwiriwch fod hon yw eich gorsaf bleidleisio drwy edrych ar www.participa2014 neu drwy ffonio'r rhif 012.

Gellwch bleidleisio o naw yn y bore tan wyth yn yr hwyr

Er mwyn pleidleisio mae arnoch angen:
eich DNI (gwreiddiol, nid copi) os ydych yn ddinesydd y wladwriaeth,
eich pasbort a thystysgrif yn nodi eich bod ar y rhestr o drigolion y fwrdeistref os ydych yn ddinesydd gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd,
eich pasbort a Cherdyn Adnabod Estroniad os ydych yn ddinaesydd gwlad nad yw o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Nid ydynt am i ni godi ein llais

A ydych yn mynd i ddweud dim byd?


Ac wedyn, ar ôl dychwelyd o Manlleu i'r brifddinas, bant â fi i'r orsaf bleidleisio i fwrw fy mhleidlais dros annibyniaeth i Gatalonia.


Ac yn awr - am hanner awr wedi deg yr hwyr, dyma aros am ganlyniadau's bleidlais - yn ôl yr adroddiadau newyddion, aeth o bosibl ryw ddwy filiwn i fwrw pleidlais - y rhan fwyaf i alw am annibynaieth i'r wlad hon.

dimarts, 7 d’octubre de 2014

(Dydd Mawrth 7 Hydref 2014) Cyfieithiad o lythyr yn 'El Punt - Avui' ddoe. Mae'r llythyr gwreiddiol i'w weld ar waelod y trosiad hwn. Yn y llythyr hwn ceir cysylltiad Cymreig....

Dydd Llun 6 Hydref 2014
CASINEB TUAG AT GATALONIA A'I HIAITH YN Y COLEG
Bûm yn gweithio am dair blynedd fel darlithydd mewn ieithoedd tramor yng Ngholeg 'Formàtic Barna', sydd wedi ei leoli mewn adeilad ar Rodfa Gràcia. Y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cefais swydd fel pennaeth yr adran ieithoedd tramor yn y coleg twristiaeth preifat hwn, sydd hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant galwdigaethol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Catalonia (la Generalitat) ar gyfer darpar-arweinwyr twristiaid ac eraill sydd am weithio ym myd twristiaeth.
Wrth ddechrau yn y swydd hon gwelais fod yr iaith Gatalaneg yn hollol absennol yn nosbarthiadau y cyrsiau hyn.
Er mwyn cywiro'r sefyllfa ddifrifol hon - y gellid ei chyfiawnhau, yn ôl yr hyn a ddywedwyd i mi, am fod yr ysgol yn derbyn nifer o fyfyrwyr o wledydd eraill, - ymhlith y cynigion a wneuthum bu un i greu dosbarth dysgu Catalaneg a Chastileg (Sbaeneg) ar gyfer myfyrwyr newydd.
Gwrthodwyd y cynnig hwn gan weinyddiaeth y coleg.
Yn ôl deddf addysg Catalonia, y mae'n orfodol cynnal cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol trwy gyfrwng yr iaith Gatalaneg. Gyda chymorth darlithwyr eraill dechreuais ddrafftio cynllun i adfer ein hiaith fel cyfrwng dysgu yn y cyrsiau, ac felly cydymffurfio â'r gyfraith.
Pan wneuthum hyn atebodd pennaeth y ganolfan, Mr José Luis Meneses, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf, am i mi beidio â gwastraffu amser i normaleiddio sefyllfa'r iaith am na ddigwydd, ac yntau'n bennaeth, hyd nes y rhoir gwn yn erbyn ei frest, ymhlith sylwadau eraill, megis y megid casineb tuag at Sbaen yng Nghatalonia, yn ogystal â f'atgoffa yn ffyrnig am ddyfodiad milwyr Franco yng Nghatalonia.
[NODYN: Mae'n lled gyffredin i Sbaenwyr heb fawr o gariad tuag at y Catalaniaid sôn am sut, yn ôl eu barn hwy, y cafodd y Catalaniaid eu haeddiant pan ormeswyd Catalonia gan Franco a'i fyddin Ffasgaidd yn 1939, a lladdwyd miloedd ar filoedd o werin Gatalonia, a bu raid i filoedd ar filoedd eraill ffoi am eu bywyd o wladwriaeth Sbaen].
Nid wyf yn credu bod Prifysgol Girona a Phrifysgol Cymru, sydd yn rhoi tystysgrifau ar gyfer y radd mewn twristiaeth yn y ganolfan hon, gan fod ganddi gytundebau â hwy, yn gwybod pa mor gryf a nerthus y mae Formàtic Barna yn gweithredu yn erbyn yr iaith Gatalaneg. Afraid dweud i mi adael y swydd honno, a chwyflwyno cwyn i'r awdurdodau.
ANAND TORRENTS ALCARAZ / CORNELLÀ DE LLOBREGAT (BAIX LLOBREGAT)

Dilluns 06/10/14
CATALANOFÒBIA A LA UNIVERSITAT  
He treballat durant tres anys com a professor de llengües estrangeres a l'Escola Universitària Formatic Barna, amb seu al passeig de Gràcia. El curs passat vaig acceptar el càrrec de cap del departament de llengües estrangeres d'aquesta escola universitària privada de turisme, que ofereix també els estudis de cicles formatius de guies i agents turístics de la Generalitat.
En ocupar el meu càrrec ja em constava que a les aules dels esmentats estudis el català hi era totalment absent.
Per tal de corregir aquesta situació flagrant –que, segons se'm va dir, era “justificada” perquè l'escola rep una certa quantitat d'estudiants estrangers–, entre les propostes que vaig fer hi va haver la de crear una aula de suport lingüístic en català i en castellà per a estudiants nouvinguts.
Aquesta proposta va ser desestimada per la direcció de la universitat.
La llei de l'ensenyament de Catalunya especifica l'obligatorietat de l'ús vehicular del català als estudis de cicles formatius. Amb el suport d'altres ensenyants vaig començar a redactar una proposta per retornar la nostra llengua a les aules i complir la llei.
En plantejar aquesta proposta al director del centre, el Sr. José Luis Meneses, a la darreria del curs passat, em va respondre que no perdés el temps fent propostes de normalitzar la llengua perquè mentre ell fos el director de l'escola això no es faria fins que li posessin una pistola al pit, a més d'altres observacions que incloïen que a Catalunya s'havia fomentat l'odi contra Espanya, a més d'un recordatori abrandat de l'entrada de les tropes nacionals a Catalunya.
No crec que la Universitat de Girona i la Universitat del País de Gal·les, que emeten els certificats del grau de turisme d'aquest centre, amb qui tenen convenis, sàpiguen de quina forma activa i militant es discrimina la llengua catalana a Formatic Barna. No cal dir que vaig deixar aquesta feina i que he presentat les denúncies oportunes.

ANAND TORRENTS ALCARAZ / CORNELLÀ DE LLOBREGAT (BAIX LLOBREGAT)