dijous, 21 de desembre del 2017

ETHOLIAD CATALONIA 21 RHAGFYR 2017


ETHOLIADAU ANGHYFREITHLON
Cynhelir etholiadau anghyfreithlon yng Nghatalonia heddiw. Ni fu hawl gan lywodraeth gwladwriaeth Sbaen, yn ôl ei chyfansoddiad ei hun, hwnnw y maent yn mynnu eu bod yn ei amddiffyn, i ddiddymu Llywodraeth Catalonia, nac i ddiswyddo’r arlywydd a’i lywodraeth, nac i orfodi etholiad ar Gatalonia.

Ond dyna. Tân ar ei chroen fu’r ffaith bod llywodraeth o blaid annibyniaeth mewn grym yng Nghatalonia, er ei bod wedi ei hethol yn gwbl ddemocrataidd, a honno'n symud ymlaen at sefydlu gwerinlywodraeth yn unochrog. Buont yn ei wneud felly am fod llywodraeth Madrid wedi gwrthod deunaw (!) cais ffurfiol dros y pum mlynedd diwethaf i gael trafodaethau i gynnal refferendwm fel y gwnaed yn Quebec ac yn yr Alban.

CYFUNDREFN GYFREITHIOL LYGREDIG
Diolch i absenoldeb gwahaniad galluoedd, a’r farnwriaeth yn llawlaw a’r llywodraeth – y Partido Popular mewn grym a’r barnwyr yn y lefelau uchaf (ac i raddau mawr trwy’r sustem i gyd) yn aelodau neu yn gefnogwyr y blaid honno, mater hawdd fu rhoi pen ar lywodraeth Catalonia, a chyhuddo’r gweinidogion ac eraill o rai neu’r cyfan o’r troseddau hyn - terfysg (rebellión yn iaith Castîl), anogaeth i frad (sedición), anufudd-dod (desobediencia), a chamwario arian cyhoeddus (desvío de fondos públicos), .

YN Y DDALFA
Mae dau arweinydd dwy gyfundrefn er lles cymdeithas yn y ddalfa yn Madrid yn Sbaen: Jordi Cuixart i Navarro (ganwyd Santa Perpètua de Mogoda, 1975), Omnium Cultural; a Jordi Sànchez i Picanyol (ganwyd Barcelona, 1964), Assemblea Nacional de Catalunya); ac hefyd y mae dau weinidog - is-arlywydd Catalonia Oriol Junqueras i Vies (ganwyd Barcelona, 1969), a’r Ysgrifennydd Cartref, Joaquim Forn i Chiariello (ganwyd Barcelona, 1964).


(delwedd 3036)

Ac y mae pump yn alltudion yng Ngwlad Belg – tri gw^r a dwy fenyw - Arlywydd Catalonia Carles Puigdemont i Casamajó (ganwyd Sant Miquel d'Amer, 1962), yr Ysgrifennydd Diwylliant Lluís Puig i Gordi (ganwyd Terrassa, 18 d'octubre de 1959), yr Ysgrifennydd Iechyd Antoni Comín i Oliveres (ganwyd Barcelona, 1971), yr Ysgrifennydd Amaeth Meritxell Serret i Aleu (ganwyd Vallfogona de Balaguer, 1975)), a’r Ysgrifennydd Addysg Clara Ponsatí i Obiols (60 oed ganwyd Barcelona, 1957 – bu yn gyfarwyddwr ar Ysgol Economeg a Chyllid ym Mhrifysgol St Andrews (Saunt Aundraes / Cill Rìmhinn) yn yr Alban o Ionawr 2016 nes ymuno â’r llywodraeth ym mis Gorffennaf 2017).

Mae llawer o’r carcharorion a’r cyn-garcharorion (mae rhai wedi eu rhyddháu yn ddiweddar o’r ddalfa ar fechnïaeth) yn ymgeiswyr yn yr etholiad.

Mae Oriol Junqueras a Jordi Sànchez wedi eu cosbi yr wythnos hyn o dan reolau'r carchar am anfon neges at y pleidleiswyr heb ganiatâd awdurdodau’r carchar hwnnw yn Madrid (am y rheswm syml na fuasent wedi cael caniatàd ganddynt!)

YMYRRYD I NEWID TREFN
Mae llywodraeth Madrid yn gobeithio, trwy alw etholiad, y bydd pleidiau Sbaenaidd yn ennill mwyafrif – y PP ('Plaid y Bobl', adain-dde); Ciudadanos (‘dinesyddion’, adain-dde), y Sosialwyr (canolbleidiol, ond o dan fys bawd y PP), a’r glymblaid Catalunya en Comú (Catalonia Gydradd) – wedi eu ffurfio o’r blaid Podemos, o’r cyn-Gomiwnyddion ac o’r Gwyrddion. Mae’r pleidiau hyn yn erbyn annibyniaeth i Gatalonia ac o blaid cyfundrefn freniniaethol.

Yn y wasg Gatalaneg ei hiaith cyfeirir atynt fel ‘Bloc 155’ (Cent Cinquanta-Cinc), am eu bod o blaid diddymu llywodraeth Catalonia o dan Erthygl Cant Pum-deg Pump yn Ngyfansoddiad Gwladwriaeth Sbaen.

Ar y llaw arall ceir el Bloc de la República, y tair plaid sydd o blaid Gwerinlywodraeth i Gatalonia – Junts per Catalunya (Unedig dros Gatalonia), Esquerra Republicana de Catalunya (Chwith Werinlywodraethol Catalonia), a La CUP  (Candidatura d’Unitat Popular) – Ymgeisyddiaeth er Undod Gwerinol.

CHWARAE ANNHEG
A sut bydd Madrid yn ennill yr etholiadau hyn? Trwy chwarae brwnt, mae’r annibyniaethwyr yn amau. Mae digon o chwarae brwnt wedi bod yn barod – cyfyngiadau ar y radio a theledu cyhoeddus yng Nghatalonia, propaganda cyson o blaid y pleidiau Bloc 155 ar y cyfryngau torfol preifat a chyhoeddus o Fadrid... ond y tro salaf yw eu hamcan o wneud yr etholiad yn frwydr ethnig.

Mae cynllun gan Sbaen, yn enwedig ers buddugoliaeth Franco yn 1939, i gael gwared o hunaniaeth y Catalaniaid trwy roi pob rhwystr i ddefnydd yr iaith Gatalaneg yn gyhoeddus, a thrwy hybu mewnlifo o Sbaen. O dan yr amodau hyn y mae wedi bod yn anodd cymathu’r newydd-ddyfodiaid, a llawer o’r mewnfudwyr yn elyniaethus i bopeth sydd a wnelo â iaith a diwylliant Catalonia, hyd yn oed ar ôl hanner canrif yn y wlad hon.

Gellir dweud bod y Bloc 155, yn fras, yn fewnfudwyr o Sbaen neu eu disgynyddion, a’r rhai dros annibyniaeth yn Gatalaniaid 'cynhenid' (bydd rhaid ysgrifennu llith arall i esbonio hyn, am fod pobl gymysgryw ydynt erbyn heddiw, ond yn bendant o gynnal eu hiaith a'u diwylliant). 

Yn fwy neu lai, am nad peth du a gwyn yw hi o bell ffordd, ond dyna’r tueddiad, ysywaeth.

ACHUB SBAEN
Mae pleidiau y 155 wedi apelio at y 'mewnfudwyr' i ‘achub Sbaen’ neu ‘warantu undod Sbaen’.

Isod gwelir braslun o’r sefyllfa y mae’r Bloc 155 yn gobeithio manteisio arni. 

Er taw o'r flwyddyn 2005 y mae’r ffigyrau hyn (o wikipedia), a degawd a mwy wedi mynd heibio, ceir gweld ar ba sail y mae'r Bloc hwnnw yn hyrwyddo ei ystrategaeth.

Yn 2005 poblogaeth Catalonia oedd rhyw 7,000,000 (efallai 7,500,000 erbyn hyn). O’r rheiny, ganwyd 64% (rhyw 4,5000,000) yng Nghatalonia, a’r gweddill tu allan.

At y bobl hyn yn bennaf y mae arweinwyr pleidiau'r 155 yn apelio – ac yn bennaf oll at y bobl o Andalucía (16.2% o bobl Catalonia wedi eu geni yno);



(delwedd 3033)

at fewnfudwyr o Extramadura (3.3% o bobl Catalonia wedi eu geni yn y rhanbarth hwnnw)

(delwedd 3034)

at fewnfudwyr o’r hen Gastîl (6.85% o bobl Catalonia wedi eu geni yn hen gnewyllyn Sbaen);


(delwedd 3034)

a rhyw 6% o drigolion Catalonia yn dod o ranbarthau eraill o Sbaen.

All pleidiau Erthygl 155 berswadio digon i bleidleisio iddynt fel na fydd clymblaid dros annibynieth mewn grym ar ôl etholiad heddiw?

Mae'r pleidleisiau pro-Sbaen yn gobeithio y bydd canran uchel o’r bobl (wyth deg y cant) ar y rhestr etholwyr yn bwrw pleidlais.

Eu theori nhw yw bod pawb sy ddim yn pleidleisio fel arfer yn erbyn y syniad o Gatalonia annibynnol.

BETH A DDYWED Y POLIAU PINIWN?
Er fy mod wedi sôn am ddau floc, a bod yn fanylach y mae tri opsiwn ar gael, os gwelir Catalunya En Comú fel trydedd elfen.

Bydd y tair plaid dros annibyniaeth yn cael rhyw bedwar-deg chwech y cant o’r pleidleisiau yn ôl y polau piniwn yr wythnos diwethaf.

Bydd y pleidiau dros aros yn Sbaen yn cael yr un ganran os bydd y niferoedd o bleidleiswyr yn uchel.

Fel yr ym wedi crybwyll, rhai sy wedi eu geni yn Sbaen, neu ei disgynyddion, yw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth sydd yn erbyn annibyniaeth, ond dyw llawer o’r rheiny ddim yn cymryd rhan mewn etholidadau i Lywodraeth Catalonia yn arferol am fod rhan o’r etholwyr hyn yn teimlo nad Senedd go iawn yw Senedd Catalonia, ac y maent yn well ganddynt fwrw eu pleidlais yn etholiadau gwladwriaethol i Senedd y llywodraeth ym Madrid.

Ond gan fod Llywodraeth Sbaen yn mynnu mai etholiad i achub Sbaen fel cenedl yw hwn, bydd llawer mwy yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio y tro hwn.

Yn ôl y polau, caiff Catalunya en Comú rhyw wyth y cant o’r bleidlais a hwy fydd yn dal cydbwysedd grym.

Ond mae elfen arall wedyn i gymhlethu’r cwbl. Plaid wrth-annibyniaeth yw Catalunya en Comú. Serch hynny, mae llawer o’i chefnogwyr (efallai mwy na hanner) o blaid torri oddi wrth Sbaen, yn ôl ambell bôl piniwn.

Mae'r bobl sydd am sefydlu gwerinlywodraeth yn benderfynnol iawn o fwrw eu pleidlas heddiw (dydd Iau) – maent yn tueddu i feddwl nad oes mwy o gefnogaeth i’w chael iddynt o blith y rhai nad ydynt yn fotio fel arfer ond y bydd yn ei wneud y tro hyn. Nid mater o 'achub Sbaen' yw'r etholiad fel y mae'r Sbaenwyr yn mynnu - 'achub Catalonia' yw hi mewn gwirionedd.

O weld maniffestos pleidiau'r 155, bydd yr iaith Gatalaneg yn cael ei herlid o'r ysgolion a'r prifysgolion, o'r weinyddiaeth, o'r byd msnachol...


Cawn weld heno os yw’r cerdyn ethnig yn dod â buddugoliaeth i Floc y 155...