dijous, 29 de setembre de 2016

Maelfa, Llanedern, Caerdydd



Tybed faint yw dylanwad William Owen-Pughe ar enwau lleoedd Cymru (a thu hwnt)?

Ceir yn Llanedern, Caerdydd, ganolfan siopa (a adeiladwyd yn 1974) a heol o’r enw Maelfa.
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ‘mael’ + ‘fa’ yw ‘maelfa’.

Daw ‘mael’ (= elw, mantais) o’r Saesneg ‘vail’ (> Cymraeg fael > mael).

Ystyr ‘maelfa’ yw ‘siop, marchnad, marchnadle, basâr, adeiladau busnes’.

Fe welir am y tro cyntaf yng ngeiriadur William Owen-Pughe (1803). Yn yr argraffiad o’r flwyddyn 1832, ceir ‘Maelfa... a market, a mart.’


Trwy gyd-ddigwyddiad, mae gair arall ‘maelfa’, efallai o'r gair ‘gafaelfa’, sydd / oedd ar lafar yn y parthau hyn. Yn ôl GPC ‘ymyl, dibyn; cyffiniau ty neu dir’ yw’r ystyr; ‘Ar lafar yn nwyrain Morg[annwg]. ‘ar faelfa’r graig’, ‘dod i faelfa Ty-fry’. Ond go brin taw hwnnw’r yw’r gair yn yr achos hwn.

Yn ôl y geiraduron Saesneg, o’r Hen Ffrangeg daw ‘vail’, Hen Ffrangeg vail- (bôn y ferf valoir) o’r Lladin valêre (= bod yn werth, bod yn gryf). (Mae 'vail' yn wreiddyn y gair Saesneg ‘avail’, sydd yn adffurfiad – ychwanegwyd yr ‘a’ am ryw reswm yn y 13fed ganrif).

Gwn am un enw lle arall y mae gair gwneud o Eiriadur Owen-Pughe ynddo, sef Bryn Athyn, 13.5 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Philadelphia.


HEWL Y PLWCA, CAERDYDD




HEWL Y PLWCA / PLUCCA LANE / CASTLE ROAD (1874) / CITY ROAD (1905)
Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, ‘baw, llaid, llaca, clai’ yw ystyr plwca. Mae yno ddeg enghraifft o’r gair, yr un gynharaf mewn cerdd gan Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448).
Mewn ôl-nodyn dywedir: ‘Digwydd yr enw yn Plas Plwca, Cered[igion]; Heol y Plwca oedd hen enw ‘City Road’, Caerdydd.’
Ni wyddys tarddiad y gair. (Yn ôl GPC ‘?cf. S[aesneg] taf[odieithol] plucky ‘heavy, clogging, adhesive’.)
Ni ddywedir o ble daeth y wybodaeth hon, ond o chwilio ar y rhyngrwyd gwelir taw o Gyfrol 4 (1903) o waith Joseph Wright yw (‘The English Dialect Dictionary: Being the Complete Vocabulary of All Dialect Words Still in Use, Or Known to Have Been in Use During the Last Two Hundred Years’, tudalen 557).
Gwelodd Joseph Wright y gair yn Macmillan’s Magazine, Medi 1889, tudalen 360, sydd hefyd i’w gael ar y rhyngrwyd, mewn erthygl o’r enw ‘A REAL WORKING MAN’:
I may briefly state that there are five kinds of broad-work — stone-picking, carlicking (i.e. charlock-pulling), mangel-pulling, pea-picking, and gleaning — which is of [tudalen 360] course its own reward. The other four kinds are paid for — at a very low rate. Stone-picking the women reckon the hardest work of all; it begins very early in the year, when the heavy land is “dreening wet”, and the clay so "plucky" that the poor stone-pickers' boots soon become twice their natural size and weight.
Ai gair brodorol yw plwca (er gwaethaf ei nodweddion anghymraeg), neu fenthyciad o’r Saesneg yw?
A oes enwau eraill â’r gair ‘plwca’ ynddynt, neu enwau lleoedd tebyg yn Lloegr?

Dywedir John Hobson Matthews yn y llyfr Cardiff Records (= Cofnodion Caerdydd), Cyfrol 5, 1905, fel hyn: (wedi ei gyfieithu o’r Saesneg)

PLWCA-HALOG (y cae brwnt neu aflan) Cae ar ffin ogleddol bwrdeistref Caerdydd a’r Waun Ddyfal, lle mae Heol y Castell a Heol y Crwys yn cwrdd â Heol Richmond a Heol Albany bellach - ar gornel yr ail a'r drydedd. Yma bu’r hen le dienyddio. Roedd cae arall o'r un enw yn yr Eglwysnewydd yn 1605.

PLWCA LANE, neu Heol y Plwca oedd enw gwreiddiol Heol y Castell, a newidiwyd i’r olaf ym 1874. Mae'n golygu "yr heol sy’n arwain at y cae’. Ceir y cae hwn mewn gweithred o’r flwyddyn 1811 ac fe’i disgrifiwyd fel "y cwbl o’r cae saith erw hwnnw o’r enw Plwca, rhan o dir Cwrt y Rhath.” 

(Testun gwreiddiol):  PLWCA-HALOG (the foul or defiled pleck.) A field on the northern boundary of the borough of Cardiff and the Little Heath, where now Castle and Crwys Roads meet Richmond and Albany Roads—at the corner of the second and third. Here was the ancient place of execution. There was another field of the same name at Whitchurch in 1605.

PLWCA LANE, or Heol-y-plwca was the original name of Castle Road, changed to the latter in 1874. It means "the road to the pleck." This pleck was in a deed of 1811 described as "All that close of 7 acres called Plwca, parcel of the lands of Roath Court."








dimecres, 28 de setembre de 2016

PWLL CAWL NEU BORTH CAWL FEL ARALL

Wrth fynd yma a thraw dros yr rhyngrwyd, deuthum, ar hap a damwain, ar draws papur newydd Cymreig o’r flwyddn 1857, a gwelais mewn hysbyseb fod yr enw ‘Porth Cawl’ yn ail i’r enw ‘Pwll Cawl’. Dyma’r pwt o’r newyddiadur.

(Ychwanegais y rhybudd at wepwyneb Enwau Lleoedd.)
https://www.facebook.com/groups/263839124470/



THE CARDIFF AND MERTHYR GUARDIAN, SATURDAY, JANUARY 3, 1857

LLYNVI VALLEY RAILWAY COMPANY
HARBOUR OF PWLL CAWL
OTHERWISE PORTH CAWL.

WHEREAS the LLYNVI VALLEY RAILWAY COMPANY, in pursuance of the powers contained in their Acts of Parliament (Local and Personal, 6 Geo. 4, c. 104, and 18 Vict., c.50), propose to make and pass certain Bye Laws, a copy of which is subjoined in the Schedule hereto, for the due Regulation of the Pilots belonging to the Harbour of Pwll Cawl, otherwise Porth Cawl, in the County of Glamorgan. AND WHEREAS the same have, in pursuance of 333rd section of the Merchant Shipping Act, 1854, been submitted to the Lords of the Committee of the Privy Council for Trade for their approval, previous to confirmation, as, by the said last-mentioned Act, directed. Now NOTICE is hereby given, that any person having any objection to the said proposed Bye Laws, or any or either of them, is hereby required, within 21 days from the publication hereof, to make and signify the same to  the Llynvi Valley Railway Company, being the Pilotage Authority, either at Pwll Cawl, otherwise Porth Cawl, aforesaid, or at their Office, No. 21, Westbourne-place, Paddington, in the County of Middlesex, or to the undersigned, in order that any objection  or observation may be submitted to the Lords of the Privy Council for Trade previously to the making and passing of the intended Bye Laws.

Dated this first day of January, 1857.

CLARKE & MORICE,
Solicitors to the said Llynvi Valley Railway Company.
29, Coleman-street, London.

dilluns, 19 de setembre de 2016

Tân ar y Mynydd


Tuag un o’r gloch y pnawn ’ma dyma glywed swn awyrennau bach yn agos iawn at y ty, a chlywed gwynt llosgi. Rhaid bod tân ar y mynydd. Y foment honno mae Genoveva yn derbyn, ar ei WhatsApp, adroddiadau o’i chyfeillion am y tân oedd i’w weld oddi lawr yn y ddinas, mae’n debyg.

Y mae adeiladau uchel tu ôl i’r adeilad hwn ac felly nid oes golwg ar y mynydd, ond ar bwys ysgol Turó de Roquetes y mae cael ei weld, neu o leif ran ohono.

Felly bant â fi i cael cipolwg ar beth sydd yn digwydd, a dyna’r mynydd ar yr ochr uchaf i Carretera Alta de les Roquetes (Heol Uchaf Y Cerrig Bach) yn fwg i gyd, a thafodau o dân yn neidio i fyny yma a thraw. Llawer o’r cymdogion ar yr heol yn edrych ar y mynydd yn llosgi.

Diolch byth cafodd y frigâd dân reolaeth ar y tân ar ôl rhai oriau, cyn iddo gyrraedd y faestref hon. Gwaith mawr a gyflawnwyd ganddynt.

Euthum i redeg ar hyd yr heol yn y cyfnos, a gweld bod y mynydd wedi ei losgi’n llwyr uwchben maestref Canyelles. Bu’r cerbydau’r frigâd dân yma a thraw ar yr heol o hyd, a’r gwyr tân yn dal i chwistrellu dwr lle yr oedd y mynydd yn mudlosgi.

Golwg truenus ar y mynydd – y ddaear yn ddu bitsch ac yn ddi-dyfiant, y prennau a’r prysgoed wedi eu llyncu gan y fflamau. 

Yr oedd gwynt llosgi dros bobman yn y rhan hon o’r ddinas, a gwynt mwg ar fy nillad hefyd pan gyrhaeddais y ty.

Teithio i'r Gorllewin Pell 1882

Y Drych, Dydd Iau, Hydref 19, 1882

Prif Reilffordd y Gorllewin.
Y Chicago & North Western Railway.
TAIR MIL O FILLDIROEDD O DAN YR UN ADOLYGIAD.

Y ffordd feraf, rwyddaf, a’r unig un i’r gwahanol Dalaethau Gorllewinol heb orfod newid cerbydau. Chicago i Omaha, Nebraska, drwy y rhanau goreu o Iowa. Cysyllta hon a’r Pacific Railroads; y ffordd feraf a’r oreu rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin – Wyoming, Colorado, Utah, Oregon, Washington Territory, Arizona a California. Gofaled teithwyr Cymreig sicrhau eu tocynau dros y ffordd hon, sef y Chicago and North Western Railway. Am fanylion pellach ymofyner yn un o’r swyddfeydd: New York, 415 Broadway, L. F. Booth; Chicago, Ill., 60 a 62 Clark Street.

Bydded i Gymry Talaethau y Tawelfor, neu eraill a ddymunai fanylion yn nghylch Utah, Nevada, Oregon, Washington Territory, Arizona, neu California, ohebu yn Gymraeg neu Saesonaeg a

MEREDITH DAVIES
Goruchwylydd Cyffredinol y Gorllewin,
P. O. BOX 1887, San Francisco, Calif.
W. H. STENNET, G. P. A. [= general passenger agent], Chicago, Ill.





dilluns, 12 de setembre de 2016

La Diada ym Marselona



11-09-2016 La Diada - Yr Unfed ar Ddeg o Fedi

Ddoe bu Diwrnod Cenedlaethol Catalonia (la Diada Nacional de Catalunya, o la Diada).
Buom yn ‘Tram 43’ (rhan 43 o’r llwybr) ym Marselona, a daeth llawer o’r bobl yno i siarad â ni –

Catalan rhyw 30 oed oedd wedi astudio Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru (cyn 2008 mae rhaid, gan mai Prifysgol Glyndwr Wrecsam yw ef yn nawr),

Catalan rhyw 23 oed fu’n gweithio yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, ac yn falch iawn o faner Cymru a roddwyd iddo yn anrheg ffarwel gan ei ffrindiau o Gymry;

Catalanes tua 40 oed y mae ei mam yn hanu o’r hen Sir Ddinbych – heb weld y ddwy ers blynyddau mawr – ers cymaint o amser fel nad oedd yn cofio ei henw – y fam yn Gymraeg ei hiaith, y plant yn siarad Catalaneg a fawr ddim o Gymraeg - Catalan yw'r tad;

Catalan tua 40 oed a ddysgodd Gymraeg gennyf mewn dosbarth Cymraeg yr oeddwn yn ei gynnal rai blynyddoedd yn ôl;

Catalan o’r cyfnod pan fûm yn astudio Basgeg, ac y bu yntau yn yr un dosbarth – ychydig o Gymraeg gyda fe hefyd – wyddwn i ddim yr oedd wedi dysgu rhywfaint ar un adeg;

benyw tua chwe deg oed yn rhoi diolch i ni am ddod (meddwl yr oedd ein bod wedi dod yn unionswydd o Gymru, buaswn yn meddwl, ond ryn ni’n byw yn y ddinas hon ers talwm);

llawer yn ein cyfarch â ‘Wales!’ a ‘Simrw!’ – Meic Gymro yn eu cywiro yn rhadlon – ‘Cymru’.

Ereill yn gofyn ‘Com es diu Visca Gal·les yn gal·lès?’ (Sut mae dweud Visca Gal·les yn Gymraeg?) (= Cymru am Byth).

Fel bob blwyddyn llawer yn gofyn ‘D’on és la bandera?’ (O ble daw’r faner?’).

Eleni yr oeddwn wedi pinio wrthi arwydd bach (fel yn y llun uchod) ag arno ‘País de Gal·les. Cymru. [k*mri]’ a chlywed llawer oedd wedi ei weld yn sylwi ‘Mira! És de Gal·les!’ (Edrych! O Gymru y mae!).

Felly, unwaith eto, Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn yn y gwrthdystiad a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Catalonia (l’ANC, l’Assemblea Nacional Catalana, mudiad dros annibyniaeth i’r wlad) i alw am sefydlu Gwerinlywodraeth Catalonia.

Bu tair plaid dros annibyniaeth yn bresennol:

Partit Demòcrata Cátala (PDC) / Plaid Ddemocrataidd Catalonia, plaid ganol-dde;

Esquerra República de Catalunya (ERC) / Chwith Werinlywodraethol Catalonia)

a’r CUP (Candidatura d’Unitat Popular / Ymgeisyddiaeth Undeb y Werin) (clymblaid o bleidiau bach adain-chwith).

Bu gwrthdystiadau bach yn erbyn annibyniaeth gan y pleidiau pro-Sbaen a gwrth-annibynniaeth:

Partit Socialista de Catalunya (PSC) / Plaid Sosialaidd Catalonia;

Partit Popular / Plaid y Bobl (PP), plaid oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei sefydlu gan gefnogwyr yr unben Franco ar ôl i’r unbennaeth ddod i ben;

Cuidadanos (C’s), plaid arall oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei ffurfio yng Nghatalonia ryw ddeng mlynedd yn ôl i hybu ‘dwyieithrwydd’, sef gwthio’r iaith Gatalaneg i’r neilltu o’r ysgolion a’r prifysgolion a’r neuaddau tre, lle y mae’n brif iaith ar hyn o bryd),

Podemos (yn Barcelona o dan yr enw Barcelona en Comú / Barcelona mewn Cyffredinedd) – plaid adain-chwith (un weriniaethol ond o blaid y frenhiniaeth ar yr un pryd!), yr unig blaid pro-Sbaen sydd yn ffafrio refferendwm ar annibyniaeth - i gael ymgyrchio wedyn yn erbyn annibybiaeth i Gatalonia).

Y pleidiau pro-Sbaen yn bychanu’r llywyddiant (‘llai o bol na llynedd; nid annibyniaethwyr oeddynt i gyd’); Podemos yn gwyrdroi amcan y cawbl a mynnu taw am ‘yr hawl i benderfynu’ yr oedd yr heidiau o bobl wedi meddiannu’r heolydd, ac nid am annibyniaeth – hynny yw, yr oeddynt yn ceisio’r hawl i gynnal refferendwm swyddogol gan lywodraeth Sbaen. Ond ‘Independència’ fu’r floedd a glywid dros bobman, a neb wedi gwaeddu ‘Dret a Decidir’.

Fel y dywedodd un o’r CUP, nid oes rhaid gofyn am hawl; arfer hawl y mae rhaid.

Bydd refferendwm cyfrwymol ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2017, doed a ddelo, yn ôl Arlywydd Catalonia ddoe.