dilluns, 19 de setembre del 2016

Tân ar y Mynydd


Tuag un o’r gloch y pnawn ’ma dyma glywed swn awyrennau bach yn agos iawn at y ty, a chlywed gwynt llosgi. Rhaid bod tân ar y mynydd. Y foment honno mae Genoveva yn derbyn, ar ei WhatsApp, adroddiadau o’i chyfeillion am y tân oedd i’w weld oddi lawr yn y ddinas, mae’n debyg.

Y mae adeiladau uchel tu ôl i’r adeilad hwn ac felly nid oes golwg ar y mynydd, ond ar bwys ysgol Turó de Roquetes y mae cael ei weld, neu o leif ran ohono.

Felly bant â fi i cael cipolwg ar beth sydd yn digwydd, a dyna’r mynydd ar yr ochr uchaf i Carretera Alta de les Roquetes (Heol Uchaf Y Cerrig Bach) yn fwg i gyd, a thafodau o dân yn neidio i fyny yma a thraw. Llawer o’r cymdogion ar yr heol yn edrych ar y mynydd yn llosgi.

Diolch byth cafodd y frigâd dân reolaeth ar y tân ar ôl rhai oriau, cyn iddo gyrraedd y faestref hon. Gwaith mawr a gyflawnwyd ganddynt.

Euthum i redeg ar hyd yr heol yn y cyfnos, a gweld bod y mynydd wedi ei losgi’n llwyr uwchben maestref Canyelles. Bu’r cerbydau’r frigâd dân yma a thraw ar yr heol o hyd, a’r gwyr tân yn dal i chwistrellu dwr lle yr oedd y mynydd yn mudlosgi.

Golwg truenus ar y mynydd – y ddaear yn ddu bitsch ac yn ddi-dyfiant, y prennau a’r prysgoed wedi eu llyncu gan y fflamau. 

Yr oedd gwynt llosgi dros bobman yn y rhan hon o’r ddinas, a gwynt mwg ar fy nillad hefyd pan gyrhaeddais y ty.