dilluns, 12 de setembre del 2016

La Diada ym Marselona



11-09-2016 La Diada - Yr Unfed ar Ddeg o Fedi

Ddoe bu Diwrnod Cenedlaethol Catalonia (la Diada Nacional de Catalunya, o la Diada).
Buom yn ‘Tram 43’ (rhan 43 o’r llwybr) ym Marselona, a daeth llawer o’r bobl yno i siarad â ni –

Catalan rhyw 30 oed oedd wedi astudio Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru (cyn 2008 mae rhaid, gan mai Prifysgol Glyndwr Wrecsam yw ef yn nawr),

Catalan rhyw 23 oed fu’n gweithio yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, ac yn falch iawn o faner Cymru a roddwyd iddo yn anrheg ffarwel gan ei ffrindiau o Gymry;

Catalanes tua 40 oed y mae ei mam yn hanu o’r hen Sir Ddinbych – heb weld y ddwy ers blynyddau mawr – ers cymaint o amser fel nad oedd yn cofio ei henw – y fam yn Gymraeg ei hiaith, y plant yn siarad Catalaneg a fawr ddim o Gymraeg - Catalan yw'r tad;

Catalan tua 40 oed a ddysgodd Gymraeg gennyf mewn dosbarth Cymraeg yr oeddwn yn ei gynnal rai blynyddoedd yn ôl;

Catalan o’r cyfnod pan fûm yn astudio Basgeg, ac y bu yntau yn yr un dosbarth – ychydig o Gymraeg gyda fe hefyd – wyddwn i ddim yr oedd wedi dysgu rhywfaint ar un adeg;

benyw tua chwe deg oed yn rhoi diolch i ni am ddod (meddwl yr oedd ein bod wedi dod yn unionswydd o Gymru, buaswn yn meddwl, ond ryn ni’n byw yn y ddinas hon ers talwm);

llawer yn ein cyfarch â ‘Wales!’ a ‘Simrw!’ – Meic Gymro yn eu cywiro yn rhadlon – ‘Cymru’.

Ereill yn gofyn ‘Com es diu Visca Gal·les yn gal·lès?’ (Sut mae dweud Visca Gal·les yn Gymraeg?) (= Cymru am Byth).

Fel bob blwyddyn llawer yn gofyn ‘D’on és la bandera?’ (O ble daw’r faner?’).

Eleni yr oeddwn wedi pinio wrthi arwydd bach (fel yn y llun uchod) ag arno ‘País de Gal·les. Cymru. [k*mri]’ a chlywed llawer oedd wedi ei weld yn sylwi ‘Mira! És de Gal·les!’ (Edrych! O Gymru y mae!).

Felly, unwaith eto, Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn yn y gwrthdystiad a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Catalonia (l’ANC, l’Assemblea Nacional Catalana, mudiad dros annibyniaeth i’r wlad) i alw am sefydlu Gwerinlywodraeth Catalonia.

Bu tair plaid dros annibyniaeth yn bresennol:

Partit Demòcrata Cátala (PDC) / Plaid Ddemocrataidd Catalonia, plaid ganol-dde;

Esquerra República de Catalunya (ERC) / Chwith Werinlywodraethol Catalonia)

a’r CUP (Candidatura d’Unitat Popular / Ymgeisyddiaeth Undeb y Werin) (clymblaid o bleidiau bach adain-chwith).

Bu gwrthdystiadau bach yn erbyn annibyniaeth gan y pleidiau pro-Sbaen a gwrth-annibynniaeth:

Partit Socialista de Catalunya (PSC) / Plaid Sosialaidd Catalonia;

Partit Popular / Plaid y Bobl (PP), plaid oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei sefydlu gan gefnogwyr yr unben Franco ar ôl i’r unbennaeth ddod i ben;

Cuidadanos (C’s), plaid arall oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei ffurfio yng Nghatalonia ryw ddeng mlynedd yn ôl i hybu ‘dwyieithrwydd’, sef gwthio’r iaith Gatalaneg i’r neilltu o’r ysgolion a’r prifysgolion a’r neuaddau tre, lle y mae’n brif iaith ar hyn o bryd),

Podemos (yn Barcelona o dan yr enw Barcelona en Comú / Barcelona mewn Cyffredinedd) – plaid adain-chwith (un weriniaethol ond o blaid y frenhiniaeth ar yr un pryd!), yr unig blaid pro-Sbaen sydd yn ffafrio refferendwm ar annibyniaeth - i gael ymgyrchio wedyn yn erbyn annibybiaeth i Gatalonia).

Y pleidiau pro-Sbaen yn bychanu’r llywyddiant (‘llai o bol na llynedd; nid annibyniaethwyr oeddynt i gyd’); Podemos yn gwyrdroi amcan y cawbl a mynnu taw am ‘yr hawl i benderfynu’ yr oedd yr heidiau o bobl wedi meddiannu’r heolydd, ac nid am annibyniaeth – hynny yw, yr oeddynt yn ceisio’r hawl i gynnal refferendwm swyddogol gan lywodraeth Sbaen. Ond ‘Independència’ fu’r floedd a glywid dros bobman, a neb wedi gwaeddu ‘Dret a Decidir’.

Fel y dywedodd un o’r CUP, nid oes rhaid gofyn am hawl; arfer hawl y mae rhaid.

Bydd refferendwm cyfrwymol ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2017, doed a ddelo, yn ôl Arlywydd Catalonia ddoe.