dijous, 29 de setembre del 2016

Maelfa, Llanedern, Caerdydd



Tybed faint yw dylanwad William Owen-Pughe ar enwau lleoedd Cymru (a thu hwnt)?

Ceir yn Llanedern, Caerdydd, ganolfan siopa (a adeiladwyd yn 1974) a heol o’r enw Maelfa.
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ‘mael’ + ‘fa’ yw ‘maelfa’.

Daw ‘mael’ (= elw, mantais) o’r Saesneg ‘vail’ (> Cymraeg fael > mael).

Ystyr ‘maelfa’ yw ‘siop, marchnad, marchnadle, basâr, adeiladau busnes’.

Fe welir am y tro cyntaf yng ngeiriadur William Owen-Pughe (1803). Yn yr argraffiad o’r flwyddyn 1832, ceir ‘Maelfa... a market, a mart.’


Trwy gyd-ddigwyddiad, mae gair arall ‘maelfa’, efallai o'r gair ‘gafaelfa’, sydd / oedd ar lafar yn y parthau hyn. Yn ôl GPC ‘ymyl, dibyn; cyffiniau ty neu dir’ yw’r ystyr; ‘Ar lafar yn nwyrain Morg[annwg]. ‘ar faelfa’r graig’, ‘dod i faelfa Ty-fry’. Ond go brin taw hwnnw’r yw’r gair yn yr achos hwn.

Yn ôl y geiraduron Saesneg, o’r Hen Ffrangeg daw ‘vail’, Hen Ffrangeg vail- (bôn y ferf valoir) o’r Lladin valêre (= bod yn werth, bod yn gryf). (Mae 'vail' yn wreiddyn y gair Saesneg ‘avail’, sydd yn adffurfiad – ychwanegwyd yr ‘a’ am ryw reswm yn y 13fed ganrif).

Gwn am un enw lle arall y mae gair gwneud o Eiriadur Owen-Pughe ynddo, sef Bryn Athyn, 13.5 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Philadelphia.