dilluns, 27 de febrer de 2012

Pentref Wales, Iowa


Yn haf 2007 bûm ddwywaith ym mhentref Wales ar bwys Red Oak - dwy wibdaith mewn gwirionedd, ond yn ystod y deugain munud yr oeddwn yn y pentref cefais dynnu rhyw gant a hanner o luniau bob tro.

Dyma'r lluniau o'r ddau ymweliad:



Bu dau gapel yn y cylch ar un adeg – Gomer (1872) (Annibynwyr), a Wales (1874) (MC). Mae capel Wales yn dal i sefyll yn y pentref bach hwn o ryw hanner dwsin o adeiladau. Mae’r llall – Gomer - wedi diflannu ond ei fynwent yn dal i fod.

Dyma restr o’r enwau o’r rhai a gladdwyd yn y fan honno.

Mae hefyd Eglwys Saesneg i’r gogledd ddwyrain o Wales – Eglwys Center Ridge (1882). Yn y fynwent yn ei hymyl ceir y cyfenwau Morgan, Hughes, Woods a Lewis. Efallai taw Cymry oedd y rhai hyn hefyd.

Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r beddau ym Mynwent Gomer, ond y mae ambell bennill yn Gymraeg wrth gwt rhai o'r arysgrifau coffa.

Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw

Ar ôl eu holl flinderau dwys  
Gorffwyso maent mewn hedd
Ymhell o  sŵn y byd a'i bwys
Heb boen yn llwch y bedd

Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd
Sy'n mynd o blith y byw
Eu henwau'n perarogli sydd
A'u hun mor dawel yw

Ac un na chefais ddehongli: Canys y mae yr ......ardderchog (?)....ond.... mewn gwell....

Ar ambell un, yn ddiddorol iawn, y mae sôn am le geni’r unigolyn – Ceredigion, Cefn-coch, Cwm-gof, Bryn-mawr, Aberystwyth.

Henry Thomas
Born in Cardiganshire Wales June 29 1846
Died September 14 1908
Elizabeth S. [Thomas]
Born in Cotter, I[ow]a Feb 16 (?) 1850
Died Feb 23 1932

(Rhan o sefydliad Cymreig Long Creek yw pentref Cotter)

Susan wife of G. R. Jenkins
Born May 12 1849
at Cefn Coch
near Machynllath (sic)
Cardiganshire Wales
Dau of J and A Jones
Died Oct 24 1893

Tybed ai dylanwad tafodiaith y gogledd-orllewin yw'r -a yn lle -e (neu ai!) 
yn enw'r dref honno (Machynlleth / Machynllaith)? Hynny yw, bod y saer maen neu'r gweinidog o Wynedd, efallai.

Er nad yng Ngheredigion y mae Machynlleth wrth gwrs, ond yn yr hen Sir Drefaldwyn, cyfeirir at leoliad y  Cefn-coch y mae 'Cardiganshire' o bosibl. Y mae Cefn-coch yn Sir Drefaldwyn, ond ni wn a ellir dweud ei fod ar bwys Machynlleth. A oes fferm o'r cyfryw enw tybed rhwng y Borth a Machynlleth?

Dan H Davies
Late of Ferndale Glam[organshire]. S[outh].W[ales].
Born at Cwmgof Carmarthen
Died at Red Oak Iowa
April 4 1880

John Hughes
Born in Aberystwyth Wales
Sept 1833
Died Jan 22 1896

Mae lle wedi ei adael rhwng 'Sept' a’r flwyddyn – yn sicr ddigon i gael ychwanegu pa ddydd o’r mis y’i ganwyd oedd y bwriad.

Rebecca Morgan
July 24 1845
Bryn Mawr Breconshire South Wales
Mar 4 1910

Mae un garreg yn Gymraeg – ar wahân i dipyn o Saesneg wrth sôn am fan geni’r wraig a gladdwyd yno.

Elizabeth S.
Priod y Parch. Samuel Jones.
Ganwyd hi yn Carnarvonshire North Wales
Bu farw Ebrill 21 1888
yn 56 mlwydd oed
Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth




dissabte, 25 de febrer de 2012

Yr Arloeswyr

Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn rhoi trefn ar rai o’r lluniau a wneuthum bron bum mlynedd yn ôl, yn haf 2007, yn Iowa.

Dyma rai o feddau Mynwent Riverside, yn Spencer, Clay County, a llawer yn eu plith yn eiddo Cymry’r cylch.


Yng nghyfrol II Hanes Cymry America (1872) ceir sôn am y sefydliad Cymreig yn Swydd Clay o dan yr enw “Peterson, Clay County”, sef un o’r pentrefi lle y bu canran uchel o Gymry.

Dywed: “Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i ymfudo yno... 

Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn, a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill, yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.”

(Ar y map uchod: Trigfannau Cymry Iowa yn 1872. Mae'r blaenlythrennau'n cynrychioli enwau'r swyddi. Bu Cymry Swydd Clay yn anad dim yn ne-orllewin Swydd Clay a gogledd-orllewin Swydd Buena Vista)

Rhyfedd meddwl bod Clay County yn gyrchfan i Gymry oddi ar 1864, ac erbyn heddiw nid oes cof amdanynt ymron – dim ond ambell fedd hwnt ac yma ym mynwentydd yr ardal, a mynwent “Capel Bedyddiol yr Arloeswyr o Gymry / yr Arloeswyr Cymreig” sef y “Welsh Pioneer Baptist Church” ar bwys Linn Grove. Mae’r capel wedi hen ddiflannu.

Sefydlwyd Gwladfa Patagonia flwyddyn ar ôl hynny a’r Gymraeg yn dal yn iaith fyw yno i raddau. Ond yn Iowa mae’r iaith wedi hen fynd i ebargofiant, ynglyn â’r cof am yr arloeswyr o Gymry yn y lleoedd lle y buont yn byw.

Ym Mynwent Spencer y mae bedd hynod (munud 1:34 yn y fideo uchod) lle y claddwyd Evan Jones (1829-1916) a Mary E. Jones (1841-1917). O dan y cyfenw Jones ar y garreg saif y gair “Pioneers”.