Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn rhoi trefn ar rai o’r
lluniau a wneuthum bron bum mlynedd yn ôl, yn haf 2007, yn Iowa.
Dyma rai o feddau Mynwent Riverside, yn Spencer, Clay County,
a llawer yn eu plith yn eiddo Cymry’r cylch.
Yng nghyfrol II Hanes Cymry America (1872) ceir sôn am y
sefydliad Cymreig yn Swydd Clay o dan yr enw “Peterson, Clay County”, sef un o’r
pentrefi lle y bu canran uchel o Gymry.
Dywed: “Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o
Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i
ymfudo yno...
Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn,
a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill,
yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.”
(Ar y map uchod: Trigfannau Cymry Iowa yn 1872. Mae'r blaenlythrennau'n cynrychioli enwau'r swyddi. Bu Cymry Swydd Clay yn anad dim yn ne-orllewin Swydd Clay a gogledd-orllewin Swydd Buena Vista)
Rhyfedd meddwl bod Clay County yn gyrchfan i Gymry oddi ar 1864, ac erbyn heddiw nid oes cof
amdanynt ymron – dim ond ambell fedd hwnt ac yma ym mynwentydd yr ardal, a mynwent
“Capel Bedyddiol yr Arloeswyr o Gymry / yr Arloeswyr Cymreig” sef y “Welsh Pioneer
Baptist Church” ar bwys Linn Grove. Mae’r capel wedi hen ddiflannu.
Sefydlwyd Gwladfa Patagonia flwyddyn ar ôl hynny a’r Gymraeg
yn dal yn iaith fyw yno i raddau. Ond yn Iowa mae’r iaith wedi hen fynd i
ebargofiant, ynglyn â’r cof am yr arloeswyr o Gymry yn y lleoedd lle y buont yn byw.
Ym Mynwent Spencer y mae bedd hynod (munud 1:34 yn y fideo
uchod) lle y claddwyd Evan Jones
(1829-1916) a Mary E. Jones (1841-1917). O dan y cyfenw Jones ar y garreg saif y
gair “Pioneers”.