Dydd Sadwrn 10 Medi 2011. Bu’n daith led hir o gyffiniau Denver (Colorado) i Omaha (Nebraska). Cyn cychwyn yr oeddym yn amau'n sicr ddigon y byddai’n nos arnom cyn cyrraedd Lincoln ac Omaha.
Mae dwyrain Nebraska yn frith o fân sefydliadau Cymreig ac yr
oeddym yn awyddus i achub ar y cyfle i weld o leiaf un ohonynt. Ond bu’r amser
yn brin.
O wneud dargyfeiriad bach y byddai’n bosibl ymweld ag un o
ddau sefydliad Cymreig yn y dwyrain – naill ai Shell Creek / Postville i’r
gogledd o’r draffordd, neu Gwalia Deg i’r de.
Ar hanner y daith gwelasom taw dim ond rhyw awr o olau dydd byddai
gennym erbyn i ni gyrraedd Aurora ar y draffordd. Dyma benderfynu mynd ar
drywydd Gwalia Deg, sydd heb fod mor bell o’r hen Lincoln Highway.
http://www.youtube.com/watch?v=R5mknTq6zaw
Trwy ryw amryfusedd yr oeddwn wedi dod i’r Unol Daleithau
heb y swmp o nodiadau ar y sefydliad hwn, ac eraill. Ar fy nesg o hyd, dros Fôr
Iwerydd yn aros eu cludo. Ond bu cymaint o frys arnaf ar y funud olaf i nôl y
metro i ganol y ddinas fel yr euthum allan o’r ty heb eu rhoi yn y bag.
Rywle yn ardal Clay Center, Harvard, Sutton yw / oedd Gwalia
Deg. (Mae’n debyg taw enw ar lafar ymhlith y Cymry yn unig oedd hwn, ac ni fu
erioed yn “swyddogol”. ).
Edrych y wlad fu’r daith i’r fro honno. Tipyn o ragchwilio,
cael adnabod gwedd y tirwedd a dychwelyd ryw dro eto, os bydd ryw dro eto.
Fe droesom oddi ar y draffordd yn Aurora, ac aethom trwy’r
wlad fflat, undonog, ag ambell lwyn coed ar ochr yr heol, yr hen breri wedi ei droi yn faesydd indrawn. Ar ôl rhyw ddeng
milltir o daith daethom i Clay Center – fe'i henwyd felly am fod y dref yng nghanol Swydd Clay.
Yr oeddwn yn rhyfeddu bod cymaint o leoedd cleiog yn yr Unol
Daleithiau mewn mannau heb fod yn amlwg am eu pyllau clai. Ond nid math o bridd
yw’r ‘clay’ hwn, ond cyfenw (fel y cefais weld ar wikipedia!).
Planhigfäwr oedd Henry Clay (1777-1852) – bu ganddo blanhigfa
â 22 o gaethweision – a aeth yn gyngreswr dros dalaith Kentucky. Bu’n Llefarydd
Ty’r Cynrychiolwyr, ac yn un o’r rhyfelgarwyr (“war hawks”) yn y Ty o blaid mynd
i ryfel yn erbyn Lloegr.
Cyhoeddwyd rhyfel ar Loegr yn 1812 (a barhaodd yr ymladd am
ddwy flynedd a hanner).
Bu Lloegr yn rhyfela yn erbyn Ffrainc a gosododd gyfyngiadau
ar fasnach rhwng Ffrainc a’r U.D., yn ogystal â chipio morwyr a anwyd yn y
Deyrnas Unedig oddi ar longau
Americanaidd i’w gorfodi i wasanaethu yn llynges Lloegr i ymladd yn erbyn Ffrainc, am nad
oedd ganddo ddigon o forwyr profiadol.
Yn ogystal yr oedd y Saeson yn rhoi cefnogaeth milwrol i’r
Americanwyr brodorol er mwyn rhwystro ymdrechion yr Unol Daleithau i ymestyn eu
tiriogaeth i diroedd sydd erbyn heddiw yn rhan o Ogledd-orllewin y wlad (a'u gadael i'w tynged i wynebu gwylltineb yr Americanwyr gwynion pan nad oeddynt yn ddefnyddiol mwyach).
Bu Clay yn gweithredu yn y Gyngres er lles pobl y Gorllewin,
ac fe’i llysenwyd yn “Henry of the West” (Henri’r Gorllewin) a’r “Western Star”
(y seren orllewinol). Yn ddiamau dyna’r rheswm dros gymaint o swyddi o’r enw
Clay County yn y Gorllewin, megis yn Iowa, lle y bu ‘sefydliad Cymreig Swydd Clay’ (Clay
County Welsh Settlement) o gwmpas Peterson hyd at Linn Grove (dros Afon Sioux
Fechan yn Swydd Buena Vista).
Felly, yn Swydd Clay, Nebraska, ymweld a wnaethom â thair
mynwent yr oeddwn wedi eu gweld ar ochr y ffordd yr oeddym yn teithio ar
hyd-ddi.
Fe aethom i Clay Center a Sutton, a chael hyd i ddyrnaid o
feddau a chyfenwau Cymreig arnynt yn y mynwentydd yno. Mynwent Gwyddelig oedd y
llall, ar ymylon Sutton.
Ers dychwelyd o’r Unol Daleithau, ac ail-afael yn fy
nodiadau, rwy’n gweld fod ambell fynwent fach yn y wlad rhwng y pentrefi. Tybed
a oes mynwent Gymreig yn eu plith?
Yn ogystal, fe fuasai wedi bod yn well i fynd i Harvard o bosibl
- yn ôl “Y
Cenhadwr Americanaidd” (Ionawr 1878) tref Harvard oedd Gwalia Deg, neu yn ganolbwynt i Gymry y cylch.
“Bydd y draul o New
York i Lincoln, prif ddinas Nebraska, yn $28,60, a chyda’r express yn $44,45,
ac ar ol cyrhaedd Harvard, taith 3 neu 4 awr o Lincoln, byddwch yn NGWALIA DEG...”
...am goed i adeiladu tai,
cawn ddigonedd o honynt yn nhref Harvard yn ein hyml, am yn agos yr un bris ag
a delir yn Chicago. Er tanwydd, ceir glo wrth y station yn Harvard, a phan
orphenir y St. Joe a'r Denver R. R., daw y glo atom o Colorado yn llawer is ei
bris nag y ceir yn awr.