Bu ffrind i mi ar daith i Awstralia yn ddiweddar a bu’n aros
yn Toowong, maestref Brisbane (Queensland) sydd heb fod ymhell o Blackstone ym maes glo
Ipswich. Bu ar un adeg yn bentref glofaol Cymreig. Un diwrnod aeth hi i rodio o
amgylch Blackstone a thynnu ambell lun. Dyma’i ei lluniau sydd yn dangos bod olion
Cymreictod y pentref a’r fro i’w gweld o hyd.
Aeth Cymry i ymsefydlu yn ardal Blackstone yn arbennig ar ôl
i Lewis Thomas (1832-1913) agor pwll glo yn y cylch. O Dal-y-bont, Ceredigion yr oedd.
Gweithiai mewn ffatri wlân leol, ac wedyn mewn mywngloddiau plwm yn yr ardal. Yn
ddiweddarach aeth i weithio i Dde Cymru yn y pyllau glo a’r gweithiau haearn.
Ymfudodd i Awstralia yn 1859 i chwilio am aur, ond ni
chafodd fawr o lwyddiant ac aeth i weithio ym mhyllau glo y Redbank, yn Ipswich.
Agorwyd pwll glo ganddo fe a’i bartner yn 1866 yn Bundamba, Ipswich, a
adnabyddid nes ymlaen fel yr “Aberdare Mine” neu'r “Aberdare Colliery”.
Codwyd tŷ moethus ganddo yn Blackstone yn 1886 o’r enw
Brynhyfryd. “The Castle” oedd ei enw ar lafar gwlad.
Prynwyd cwmni glo Lewis Thomas ar ôl ei farw gan gwmni y Rylance
Collieries.
Dechreuwyd cloddio o dan y Brynhyfryd ond tanseilwyd y
sylfaen a bu rhaid ei ddymchwel.
Y mae heddiw barc o’r enw Brynhyfryd Park ym mhentref Blackstone,
sef y tir fu’n amgylchynu tŷ Lewis
Thomas.
Lewis Street (sef enw bedydd Lewis Thomas),
Thomas Street (sef ei gyfenw),
Anne Street (Anne Morris oedd enw ei wraig),
Mary Street (Mary oedd enw ei ferch).
Mae hefyd yno Jones Street (yn fwy na thebyg meddant ar ôl Rhys
Jones, gweinidog y capel).