Ar dramp eto yn Iowa a’r taleithau amgylchynnol yn ystod yr haf.
Ar hap a
damwain, ar ôl ymweld â dau bentref Danaidd yn y cyffiniau, Elk Horn a
Kimballton, daethpwyd ar draws mynwent hen bentref darfodedig Elba yn swydd
Carroll, a gweld taw Cymry a fu'r pentrefwyr gan amlaf.
.
Ar gofgolfn o flaen y fynwent dywedir (o'i gyfieithu o'r Saesneg): Elba 1872-1882. Tref arloeswyr wedi ei lleoli ar bwys
Mynwent Trefgordd Eden. Bu iddo swyddfa bost, siop ddefnydd, gefail gof, a bar.
Protestaniaid fu’r rhan fwyaf o drigolion y cylch, ac o dras Gymreig. Pan aeth y
rheilffordd i’r gogledd yn 1881 ganwyd tref Templeton.