diumenge, 9 de novembre del 2014

9 Tachwedd 2014

Y bore 'ma yn Manlleu yn sir Osona yng Nghanolbarth Catalonia. 


Bûm yno i gymryd rhan mewn ras ddeg cilomedr, un o'r rasys rhedeg sydd yn cael eu cynnal 'dros annibyniaeth' (Corre per la Independència / Rheda dros Annibyniaeth).


Bu'r ddraig goch yn hedfan trwy feusydd a choedwigoedd y cylch yn ystod y bore.


A bu llawer o'r rhedwyr yn dangos eu cefnogaeth i annibyniaeth Catalonia.

Dyma un o bosteri ar gyfer y 'bleidlais anghyfreithlon' - chwedl llywodraeth Sbaen - a rhoid wrth y drysau gan wirfoddolwyr yr ymgyrch yn y gymdogaeth hon.


Neges ar gyfer trigolion y gymdogaeth

Eich canolfan pleidleisio ar y nawfed o fis Tachwedd 2014 yw:

Ysgol Uwchradd Turó de Roquetes (Turó = bryn, roquetes = creigiau bach)
Heol Alcántara 22

Sylwer. Ni ellwch ddefnyddio ond y lleoliad a'r blwch pleidleisio sydd yn cyfateb i'ch enw.

 manylion eich Cerdyn Adnabod Cenedlaethol (DNI) gwiriwch fod hon yw eich gorsaf bleidleisio drwy edrych ar www.participa2014 neu drwy ffonio'r rhif 012.

Gellwch bleidleisio o naw yn y bore tan wyth yn yr hwyr

Er mwyn pleidleisio mae arnoch angen:
eich DNI (gwreiddiol, nid copi) os ydych yn ddinesydd y wladwriaeth,
eich pasbort a thystysgrif yn nodi eich bod ar y rhestr o drigolion y fwrdeistref os ydych yn ddinesydd gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd,
eich pasbort a Cherdyn Adnabod Estroniad os ydych yn ddinaesydd gwlad nad yw o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Nid ydynt am i ni godi ein llais

A ydych yn mynd i ddweud dim byd?


Ac wedyn, ar ôl dychwelyd o Manlleu i'r brifddinas, bant â fi i'r orsaf bleidleisio i fwrw fy mhleidlais dros annibyniaeth i Gatalonia.


Ac yn awr - am hanner awr wedi deg yr hwyr, dyma aros am ganlyniadau's bleidlais - yn ôl yr adroddiadau newyddion, aeth o bosibl ryw ddwy filiwn i fwrw pleidlais - y rhan fwyaf i alw am annibynaieth i'r wlad hon.