dissabte, 15 de juliol del 2006

Xafogor yw'r gair Catalaneg am fylltra llaith Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Uf! Quina xafogor que fa avui! Whiw! Mae hi mor boeth ac mor llaith!

Yn ôl Diccionari Etimològic Manual / Josep Moran, Joan A. Rabella, edicions 62, 1999:
Calor sufocant caracteritzada per l'elevada humitat
(Gwres myglyd sydd yn uchel ei leithder)

Probablament del llatí / O'r Lladin yn ôl pob tebygrwydd
offocâre = ofegar / boddi
amb un prefix ex- / ag arddodiad ex-

exafogor > eixafogor
amb afèresi / â blaendoriad
'xafogor

Un ar ddeg y nos, a'r ffenestr led y pen, a dim awel eto yn dod i mewn i'r ystafell. Rhyw gi bach blin â chyfarth main i'w glywed mewn fflat yn y bloc wrth ochr y bloc hwn o fflatiau; ambell feic modur yn rhuo heibio, gan dorri pob cyfraith cyflymder a sw^n; tincian cyllyll a ffyrc a llwyau a phlatiau trwy ffenestri agored y gwesty am y lôn i ffenestr y fflat fach hon.

______________________________

Chwe blynedd yn ôl ymron gadais i neges ar Welsh-L ond ni chefais ateb iddi. Ym mha le yr oedd Gwalia Deg yn Nebraska? Dyma hi eto. Efallai caf fi ateb gan Nebrasciad Cymraeg ei iaith / Gymraeg ei hiaith.

Dyddiad:
Gwener, 15 Rhagfyr 2000 20:16:28
Pwnc: Gwalia Deg, Nebraska

Yn y llyfr "The History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime Springs, Iowa" (1895) mae sôn am y Parchedig John A. Jones a gwladychfa 'Gwalia Deg' yn nhalaith Nebraska. Ble yn union oedd Gwalia Deg? A oes pentref yno o hyd? Pa enw sydd arno erbyn heddiw?

Dyma'r cyd-destun: "Rev. John A. Jones Born at Rheidiol (sic), near Aberystwyth, Cardiganshire, Wales, in the spring of 1828. His parents, John and Catherine Jones, removed when he was a child, to a farm called Nantyrhydd near Nanteos. This was also the home of Rev. Thomas Edwards, Dr. Lewis Edwards and the eminent Welsh musician Ieuan Gwyllt..."

Ar ôl iddo fynd i America i fyw, dywedir amdano:

"He preached in English to the Foreston church every Sunday morning and in Welsh to the few Welsh families at Bristol Minnesota, in the afternoons. The only Welsh families then in that now populous Welsh settlement were: David J. Davies, William Davies, J. Jones, John R. Williams, Owen Jones, and Richard W. Jones. His next move was to Floranceville, nine miles south of Foreston, where he organized a church of nine members. Before he left the membership increased to fifty and a church edifice was built at a cost of $4,000. He was sent in 1871 by the Home Missionary Society to Nebraska and there organized an English church and helped to found the Welsh settlement of "Gwalia Deg". In 1874 he removed to Salem, Neb., where he labored with great success for six years. In 1880 the Home Missionary Society sent him to California and he ministered two years in Calaveras county, then at South Vallejo and Crockett.

________________________

Heddiw bûm yn siarad â X.M., sydd yn aelod o gorff gwirfoddol sydd yn cynnal ffair ddiwylliannol â gwleidyddol, sef dwy res o stondinau wrth Borth Gorfoledd Barcelona ar Passeig Lluís Companys ar ddiwrnod cenedlaethol Catalonia, yr unfed ar ddeg o Fedi. Rhyw fath o Faes Steddfod heb y Steddfod.

Yfory mae cyfarfod gan y corff i sôn am y stondinau ar gyfer gw^yl eleni. A hoffwn i gael "stondin Cymru"? Dyna drydedd flwyddyn y ffair fach hon, ac yn y ddwy flynedd a aeth heibio nid oedd gennyf ddim i'w gynnig ar y stondin - dim llyfrau Cymraeg, dim crynoddisgiau Cymraeg, dim taflenni yn Gatalaneg - diffyg amser, diffyg arian, a diffyg cefnogaeth.

Ond er bod llai o amser hyd yn oed gennyf eleni, ac eleni yr wyf wedi mynd i ddyled ar ôl colli fy ngwaith, a llai o gefnogaeth na'r llynedd, dywedais wrtho am gadw stondin ar gyfer 'Clwb Cymraeg Catalonia' (er nad ydym yn bodoli'n swyddogol, yr ydym yn cynnal ambell barti ac yn gwneud dosbarthiadau Cymraeg yma bob blwyddyn).

Gobeithio bydd yn fwy o lwyddiant na'r w^yl lyfrau ar ddiwrnod nawddsant Catalona, Diwrnod Sant Siôr, Ebrill 23. Dair wythnos cyn yr w^yl archebais ambell lyfr gan Gwyn yn siop Awel Meirion, a dyma Gwyn yn eu rhoi yn y post bum munud ar ôl derbyn f'archeb. Ond buont dros fis ar eu taith. Wythnos ar ôl sefyll am ddeudeg awr tu ôl i stondin bron yn wag ar y sgwâr tu allan i siop lyfrau CAT yn Guinardó, dyma nodyn yn y blwch post eu bod wedi cyrraedd y swyddfa bost leol.

Er i mi ameu eu bod wedi cyrraedd bron mis cyn hynny.

Mae'r parseli yn mynd i swyddfa bost arall yn y cylch wrth i'r un leol gael ei hadnewyddu. Mae llawer y ffordd hon yn cwyno am eu bod yn cael eu post yn hwyr y dyddiau yma. Efallai i'r gweithwyr anfodloni ar ddosbarthu llythyrau a pharseli nad oeddynt yn 'perthyn' iddynt, ac eu rhoi o'r neilltu am y tro.

Ond o leiaf mae gennyf stoc bach o atlasau, posteri a phapurau bro i werthu oddi ar stondin mis Medi. Os caf i hyd iddynt yng nghanol annibendod y stafell fach hon...