dissabte, 10 d’octubre del 2009

Elmet




Ar yr wythfed ar hugain o fis Awst 2009 bûm yn ardal Elfed - ond nid Elfed "Cynwÿl Elfed" yn Shir Gaar, ond yr hen diriogaeth erbyn hyn yng nghnanol Gwlad y Sais, yn Swydd Gogledd Efrog.

"Elmet" yw'r enw yn Saesneg , ac y mae'n fyw o hyd, am y'i defnyddir i wahaniaethu pentrefi sydd â'r un enw â phentrefi eraill mewn broydd eraill - Barwick-in-Elmet,  [BA-rik], Sherburn-in-Elmet [SHXX-bxxn], a Scholes-in-Elmet (Y llythyren x yma yn cynrychioli’r llafariad dywyll, fel yr “y” gyntaf yn y gair “mynydd”; xx yw’r llafariad hir Saesneg).

Mae’r ffurf Saesneg yn cadw’r “m” a fu yn y Frythoneg a aeth yn “v” nes ymlaen yn y Gymraeg, y Gernyweg a’r Llydaweg. Felly er bod “m” ac “f” yn seiniau gwahanol yn yr Hen Gymraeg, mae’n debyg taw i glust y Sais yr oedd yr “f” [v] hon yn debycach i “m” nag i “v”.

Y mae enghreifftiau eraill o “m” yn y Saesneg on “v” yn y Gymraeg. Un enghriafft yw Glamorgan, o “Gwlad Forgan”. Enw lled diweddar yw hwn, ond mae’n debyg bod yr “m” yn y Saesneg am yr un rheswm.

Dyma fideo bach o f'ymweliad bach â phentref Sherburn.

http://www.youtube.com/watch?v=2Je_HqpR6gw



Y Ddwy Elfed. Cwmwd yn y Cantref Gwarthaf oedd un, a gwlad ar bwys Leeds oedd yr Elfed arall ("Elmet" yn Saesneg, sydd yn cadw'r "m" a fu yn yr enw Brythoneg. Ceredig ap Gwallog oedd brenin olaf yr Elfed hon, a gwympodd i ddwylo Germainiaid Northumbria yn y flwyddyn 616.