divendres, 9 d’octubre del 2009

Taith Gerdded Pentref Arenys De Munt (Maresme), Catalonia

04 Hydref 2009
Ddydd Sul diwethaf bu'r daith gerdded flynyddol ym mhentref Arenys de Munt a gynhelir ar y Sul cyntaf ym mis Hydref. Cychwynwyd am 07.30 yn y tywyllwch fel arfer, fel y bu modd i'r cerddwyr a'r rhedwyr weld yr haul yn codi ryw hanner awr wedyn, ar ôl iddynt ddechrau dringo uwchben y pentref.

Cerdded terfynau'r plwyf y mae'r pentrefwyr - rhyw 20 km yn gyfangwbl, ond hefyd bu rhyw daith lai o faint - tua 12 km - ar hyd llwybr tarw yn ôl i'r pentref, ar gyfer yr oedrannus, y rhai gwan eu calon a'r rhai pwdr o ran anian.

Dyma fideo o luniau llonydd a wneuthum o'r daith lawn.

http://www.youtube.com/watch?v=BmOYHtZgmcw

Er mai purydd yr wyf fel rhedwr - byth yn peidio â rhedeg o'r cychwyn i'r diwedd (ond am yr achlysurau hynny pan fydd carrai'r esgid yn datod - am ryw reswm tu hwnt i ddealltwriaeth), y tro hyn bu rhaid aros yn f'unfan ar ddechrau'r ras i dynnu'r lluniau, am fod cynlleied o olau, a bu rhaid dal y cámera mor ddisymud ac y gallwn. Serch hynny y mae llawer yn lled aneglur.

Rhyfedd sut y mae tynnu llun yn y tywyllwch, ac â chymorth rhaglen trin lluniau digidol ddatgelu yr hyn yr oed y tywyllwch yn ei guddio - er bod y lliwiau yn hynod o lachar ac afreal.