dissabte, 20 de gener del 2007

Y FYFYRWRAIG GOLL



GWENER 19 IONAWR 2007-01-20

O’r diwedd rw i’n graddol ddod yn ysgrifennwr rheolaidd yn y blòg hwn - er bod ryw bum mis neu chwe mis o fwlch rhwng pob cyfraniad. Meddwl nad oedd neb yn ei ddarllen yr oeddwn, ond ar ôl symud y Blòg i’m cyfrif Google heno dyma weld bod ambell sylw yma a thraw - a’u hysgrifennwyd dros flwyddyn yn ôl o bosibl.

Fy sefyllfa ariannol yn dechrau fy mhoeni. Dim ond i dalu’r rhent ac i dalu’r “drwydded waith hunan-gyflogedig” mae rhaid i mi ennill 30 iwro bob dydd o Lun i Wener - a 30 arall ar ben hynny am foethusion fel bwyd, tocynnau metro, treth incwm, ac ati. A dyna leiafswm. Rhaid dechrau mynd ar hynt mwy o ddosbarthiadau yr wythnos nesa. Ond dyna wedais wrthyf fy hun yr wythnos diwethaf - a phob wythnos ers misoedd. Hm. Ond y tro hyn rw i o ddifri. Efallai. Mae'n rhy gysurus peidio chwilio am fwy o waith.

Dosbarth gennyf y pnawn yma am ddwyawr - wel, dyna ambell iwro yn yr hosan-dan-fatres. Rhyw awr o baratoad - dosbarth Saesneg i feddyg, ac wrth edrych ar bapurau newydd Gwlad y Sais ddoe ar y rhyngrwyd gwelais ryw erthygl ddiddorol a ellir bod o ddiddordeb iddo - goryfed gan ferched mewn haenau cymdeithasol uwch yng ngladwriaeth Lloegr. Gwneud hefyd addasiad o gwis gwybodaeth gyffredinol a wnaethpwyd gennyf ar gyfer dosbarth ddoe.

Wrth imi rhoi’r copsi ar y cwbl, dyma alwad ffôn gan y myfyriwr - bydd yn ymadael â’i swyddfa’n hwyrach na’r disgwyl, a chyrraedd hanner awr ar ôl yr amser arferol. Hanner awr. A’r haul yn disgleirio’n braf, a’r wybren yn las las, a naws wanwynol i’r pnawn (canol mis Ionawr? ie, dinas Barcelona yw hon, mi wn, ond hyd yn oed yn y fan hyn dylai mis Ionawr fod yn oer!) a’m cit rhedeg wrth law, dyma ei dynnu amdanaf ac ymhen munud yr wyf i maes o’r ty^ yn gwibio i lan Heol Padilla, a ddeg munud wedyn yn croesi’r bompren ar draws yr hafn lle bu’r hen gwar ar ystlys y bryn.

I lawr i Fwlch Carmel (geto Castileg, llawn llanciau a llancesau o dras Andalwsaidd a’i sumbolau Castilaidd - baneri Castilia (“España”), crysau-T tîm pêl-droed Castilia (“España”), llun tarw ar eu beiciau modur a’u ceir), ar draws y groesfan zebra fwyaf peryglus yng Nghatalonia o bosibl, ar hyd y llwybr i glwyd gefn Parc Güell. Dyma hanner ffordd.

Disgyn trwy’r parc, sleifio rhwng carfanau o dwristiaid - y rhai mwy anturus, sydd wedi penderfynu cerdded y llwybr igamogam i ben ucha’r parc - ac ymhen hanner awr dyma fi yn ôl yn y fflat. Dim golwg ar y myfyriwr eto, shwt.

Efallai na ddylwn i alw ‘y myfyriwr’ arno - mewn gwirionedd, cyfaill mawr yw e, ac rw i’n amau ei fod yn mynnu cael dosbarth Saesneg wythnosol - am ei fod yn siarad yr iaith fain yn wirioneddol dda - i’m cadw rhag mynd ar fy mhen i garchar y dyledwyr.

Y dosbarth yn sw^n driliau niwmatig wrth i’r cwmni trydan torri twll o dan ffenest y fflat - gerllaw y mae hen ddísgotec a geuwyd ryw flwyddyn yn ôl, rhyw fath o isorsaf sydd uwchen eu twll. Gallwn ofyn iddynt i beth y maent yn ei wneud, ond rw i’n ameu na fyddant hwythau’n gwybod hefyd.

Ar ganol y wers dyma alwad ffôn gan ryw ferch ifanc sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg. Yr oedd wedi gadael neges yn llyfr ymwelwyr ein gwefan dros y penwythnos. Atebais bod gennym ddosbarth bob nos Wener mewn bar am 21.30, am ddim. Galw yr oedd i ofyn sut mae cyrraedd y bar hwnnw - nid oedd wedi sylweddoli imi anfon cyfeiriadau mewn ebost ati tua hanner dydd.

Ar ôl tipyn dyma’r drilwyr yn diflannu i rywle i gael sbel; ninnau wedyn yn fynd i gaffi heb fod ymhell i sgwrsio yn iaith Hengist.

I lawr i’r dre am chwech - mae dosbarth arall i fod gennyf, ond yr oedd y myfyriwr yn teithio i bob rhan o wladwriaeth Castilia, weithiau dwy daith yr wythnos, ar ddiwedd mis Medi meddai - ffonia i di ymhen pythefnos i drefnu’r dosbarth nesaf.

Bedwar mis wedyn, cefais i’r alwad - ond neges wedi’i recordio, dim rhif ei ffôn boced. Mae’r rhif ffôn gennyf mewn llyfr cyfeiriadau mewn rycsac a gollwyd gan gwmni Easyjet wrth imi deithio o Farselon i Lerpwl ym mis Hydref.

I lawr i far eu rhieni yng nghanol y dref - un o’r ychydig farau yn y ddinas lle y mae’r perchnogion yn medru siarad Catalaneg - ond yr oedd ar gau. I fflat T i ladd dwy frân â’r un garreg, ond dim ateb. Siwrnai saethug - ond cyfle i roi glynnynau o blaid y Gatalaneg yma a thraw - jobyn bach y dylai’r Catalaniaid ei wneud, ond gan nad oes bron neb o’r llwyth Gatalanaidd yn ymgyrchu’n ymarferol dros yr iaith, rw i’n sefyll yn y bwlch iddynt.

Paratoi’r wers Gymraeg - ac i lawr i’r bar am hanner wedi naw. Mae’r ferch wedi dweud y bydd ffolder y brifysgol yn ei llaw ganddi. Wrth i mi gyrraedd tu faes y bar, rw i’n sylwi ar ferch wrth fwrdd ar ei phen ei hun; ond cyn cael mynd i mewn dyma weld y myfyriwr ‘C’ yn dod i lan yr hewl â cherddediad penderfynnol. Gofyn y mae ydi ei wejen ‘G’wedi cyrraedd - a’r foment honno dyma hi’n rowndio’r cornel ac yn esgyn yr hewl hefyd o’r un cyfeiriad. Ond wrth droi i fynd i mewn i’r bar, mae’r ferch wedi diflannu - ai hi oedd y fyfyrwraig newydd?

Mae’r twywdd mor fwyn fel yr ydym yn eistedd y tu faes i’r bar, wrth un o’r bordydd palmant - ond tua hanner awr wedyn dyma’r tymheredd yn gostwng, ac felly dyma ni’n llochesu yn y bar.

Ond ar ôl gorffen y wers a dod allan ychydig ar ôl un ar ddeg, yr oedd y tymheredd wedi ennill yn ôl y graddau a gollwyd gynt.

Mis Ionawr? Ar ôl dychwelyd i’r fflat, agor y ffenest led y pen, a fy rhoi fy hun o flaen sgrîn y cyfrifiadur gweld ei bod yn “23:30 Friday 19/01/2007”. Wel, gan nad oes eto pedwar mis ar bymntheg yn y flwyddyn, nid y dydd cyntaf o fis 19 mohono. Ie, canol Ionawr yw hi..

Ond beth ddaeth o’r ferch oedd yn awyddus i ymuno â’r dosbarth, tybed?