Y post olaf ym mis Mehefin gennyf? Hen bryd imi ychwanegu rhyw bwt at y blòg 'ma, a chael dweud fy nweud cyn i'r iaith Gymraeg ddarfod o'r tir (newydd glywed am y cynllun i gau degau o ysgolion bach yng Ngwynedd).
Pum mis ymron ers i'r rhan fwyaf o'm heiddo gael ei chludo i storfa yn La Pau ym mhen arall y ddinas, a dim lle sefydlog gennyf i fyw, ond yn hytrach llawr y stafell fyw neu wely rebel yn nhy^ ambell ffrind.
Ond o ddechrau Tachwedd ymlaen mae'n debyg y bydd gennyf fflat bach ar bwys Parc Güell, ond dyn w^yr sut caf i ddigon o'r hen bres 'na i dalu'r rhent.
Gan fy mod yn hunangyflogedig mae'n hynod o anodd argyhoeddi perchnogion fflatiau neu ystafelloedd sydd ar rent fod gennyf incwm rheolaidd a bod modd imi dalu'r rhent bob mis yn ddi-ffael. Ac y mae pob hawl iddynt fod yn ddrwgdybus, am nad oes gennyf incwm rheolaidd...!
Ond trwy help ffrind mawr imi yr wyf wedi cael hyd i le dros dro, heb fod yn rhaid imi amlygu cyfrinachau fy llibreta (llyfr cyfrif y banc), sydd wedi bod ar ei gythlwng ers bron blwyddyn.
Hefyd, o dipyn i beth yr wyf wedi camu i mewn unwaith eto i fyd y rhyngrwyd ar o^l pum mis o fod mewn paith dirithfyd - "y neb a fyddo â'i heiddo mewn storfa a'i caiff ei hun yn ddigyfrifiadur" ys gwetws yr hen air. Diolch byth am y siopau rhyngrwyd a ffôn yn eiddo i'r De-Americanwyr a'r Pacistaniaid yn y ddinas yma, yn sgîl y mewnlifiad enfawr o weddill Ewrop ac o'r Trydydd Byd dros y ddegawd ddiwethaf. Felly ambell dro i'r siopau hyn, ond o dalu 60 sent (40 ceiniog) am bob hanner awr, mae'r llogell gryn dipyn yn ysgafnach ar ddiwedd y mis.
(Bydd rhaid imi so^n am y mewnlifiad newydd hwn rywbryd yn y blòg yma o safbwynt brodorion Catalonia - poblogaeth y wlad wedi cynyddu 25% o'r herwydd mewn cwta ddegawd , o 6 miliwn i 7.5 o filiynau - ac am yr effeithiau ieithyddol dibryd sydd yn bod yn ei sgil. Yr oedd y Gatalaneg oedd yn dechrau ymgodi eto yn y nawdegau ar ol deugain mlynedd o unbennaeth Castilia, y mewnlifiad enfawr cytaf, hefyd o ryw 1.5 miliwn o bobl, y rhain o barthau Andalwsia yn arbennig, ac ugain mlynedd o ffug-ddemocratiaeth - wedi ei thaflu i lawr unwaith yn rhagor. Pa fodd y bydd y Catalaniaid yn delio â hyn? A fydd eu hymateb yn dwyn ffrwyth? Neu a fydd gostyngiad cyson yn nefnydd yr iaith yn parháu?)
Yr wythnos yma: dydd Mercher - modem o siop Vodaphone Heol y Groeslin (La Diagonal) ar gyfer soced USB (120 ewro + 60 ewro am gerdyn 1GB); dydd Iau - hen gyfrifiadur ail law o siop yn Carrer Floridablanca (280 ewro), ac iddo ddisg caled 80 Gb, a Windows XP a rhaglen Office ynddo o hyd - felly am bris cyfan o 460 ewro (300 o bunnoedd) dyma gael y cyfle i wastraffu pnawn cyfan o flaen y sgrîn yn gwibio o wefan i wefan ac yn ysgrifennu eto yn y blòg yma.