dimarts, 16 de setembre del 2008

Gwalia Deg eto

Taith ar garlam ddoe o McCook i Denver, er mwyn dal yr awyren(nau) yn ol i Ewrop yn oriau man y bore yfory, dydd Mercher.

Yn yr amgueddfa yn Wymore cawson ni enw bonheddwr sydd yn ddisgynnydd o'r hen ymloeswyr Cymraeg, a'i fam mewn gwth o oedran (dros ei 95 yn ol y son) ond a chanddi gof eithriadol, a hithau'n ferch i un o'r ymsefydlwyr.

Cyn cyrraedd Trenton, rhyw ddwy filltir i'r dwyrain, mae amgueddfa "Indiaidd" hefyd, dywedson nhw.

Trenton yn ddod yn nes ac yn nes. A dacw canolfan ymwelwyr Massacre Creek (ar gau) a chanllath nes i lawr gofgolofn Massacre Creek, i goffau ymosodiad gwaedlyd parti rhyfel y bobl Lakota ar 700 o Pawnees, a oedd yn llawer llai o nifer na'r ymosodwyr.

Yn 1873 bu hyn - ychydig dros rhyw ganrif a chwarter yn ol yn unig. Bu'r ymosodiad olaf llwyth Indiaidd ar lwyth arall. Yn sgil hyn, ymadawodd y pawnees a'u gwarchodfan yn Nebraska ac aethon nhw i'r De. Daeth John Jones i'r cylch tua'r adeg hynny; rhaid i mi ymchwilio ymhellach i'r pwnc.

Ond am fod yr amser mor brin, penderfynson taw cael cipolwg byr yn unig ar y beddau ym Mynwent Trenton a wnelwn. Dim amser i ymweld a'r boheddwr hwnnw a'i fam, ond camsynied fu yn fy marn innau. Efallai cawn gyfle y flwyddyn nesa i ymchwilio rhagor i'r sefydliad hwn.

Ond yr oedd cynlleied o feddau Cymry yno ym Mynwent Trenton fel y meddyliwn nad Mynwent Rose Hill oedd hon, y bu un o reolwyr Amgueddfa Wymore wedi son amdani.

I lawr eto i Trenton i gael rhyw olau ar y mater. Yr oedd y llyfrgell ar gau tan ddydd Mercher. Hen siop fach, a bocseidiau o lyfrau yma a thraw dors y llawr a welais wrth edrych trwy wydr y drws.

Yn y diwedd holi am fynwent Rose Hill yn y llysyty a wnaethom; neb (o'r ddwy wraig oedd yno) yn gwybod am sefydliad Cymreig yn y cylch, ond dweud a wnaethon taw yn y pentre nesa(Stratton) ddeng milltir ymhellach i'r gorllewin, yr oedd Rose Hill, ar fryn uwchben y pentre, i'r gogledd, lle mae Beaver Road yn mynd allan i'r wlad.

Gweld ambell gyfenw Cymreig wrth edrych ar y rhestr gladdfeydd mewn hysbysfwrdd gwydrog wrth y fynedfa. Jones yn arbennig, ond doedd yr enwau cyntaf ddim yn rhyw Gymreig iawn. Eraill yn rhai Cymreig - rhai a anwyd yng Nghymru neu'r sefydliadau Cymreig yn America - yn ddiamau.

Felly dim ond rhyw ddyrnaid o enwau gwir Gymreig yn y ddwy fynwent. Efallai taw y rheiny oedd trigolion sefydliad Gwalia Deg.

Y bachan o Iowa sydd yn fy nhywys o gwmpas y sefydliadau Cymreig yn mynd i lawr i Stratton i gael hyd i ffon sefydlog am nad yw'r ffon poced yn gweithio yn y parthau hyn, wrth i mi fynd ar hynt cerrig beddau'r Cymry.

Bu'n siarad a siopwraig oedd, cyn gynted ag iddi ddeall yr oedden ni yn chwilio am 'Welsh cemetery' yn ffonio o gwmpas y pentre, a gofyn i'r hen famguod ble yr oedd y 'Welsh cemetery' yn union. Ofni yr oedd y bachan o Iowa ei bod wedi camddeall, a bod rhyw deulu o'r enw Welsh neu Welch yn y cylch.

Dilyn y traciau tywodlyd i'r de o'r pentref. Mae mynwent tua tair milltir i ffwrdd o Stratton, yn ol y siopwraig.

"Mae'n hawdd gwybod eich bod chi wedi mynd dair milltir am fod fferm bob milltir yn y pathau hyn, felly rhaid i chi fynd heibio i dair fferm."

"Ac y mae'r mynwentydd wedi eu hesgeulso ers blynyddoedd, ac ynchydig iawn o gerrig sydd yno; o bren y mae'r rhan fwyaf o farcwyr y beddau, a'r rheiny wedi hen golli'r enwau wedi eu paentio drostynt, a'r darnau pren wedi pydru ac wedi cwympo, ac felly er bod y mynwentydd bach hyn yn llawn beddau, mae'n ymddangos taw ychydig iawn o feddau sydd yno."

Dim arwydd cyfeirio o gwbl ar y lonydd hyn; ambell arwydd bach a rhif yr heol arno. Ar ben rhyw fryncyn dyma'r fynwent. Yn y cefn carreg crand ac arno WELCH. Ac yma ac acw STORM, CRAWFORD, a POWELL. Yr hynaf o gerrig y Pyweliaid yn ymddangos yn Gymreig - rhyw William Powell hyd y cofiaf (rhoir y lluniau ar ein gwefan kimkat.org yn yr wythnosau nesaf).


O Stratton, a mynwent y Pyweliaid, yn ol i Trenton ar yr hewlydd cefn, ac i Stratton unwaith eto ar yr heol fawr.

Taith fach trwy gornelyn gogledd-orllewin Kansas i Colorado. I Maes brwydr Beecher Island (ymladd eto rhwng y gwynion a'r Indiaid - manylion yn y wefan nes ymlaen), ac wedyn i bentref cyfagos, Vernon yw'r enw arno erbyn heddiw, ond Wales oedd ei enw yn y cychwyn cyntaf. Wedi ymweld a Wales (Wisconsin) a Wales (Iowa) - sefydliadau Cymreig. Ai un arall oedd hwnnw, wedi mynd yn anghof? Wrth deithio tuag at y pentref dyma weld y fynwent, ac i mewn a ni yn y car. Ac wrth ochr y lon ganol dyma gerrig beddau teulu o'r enw Wales.

Serch hynny, bu yno ambell garreg fedd ag enw gwir Gymreig arni.