dissabte, 13 de setembre del 2008

Sefydliad Cymreig Sir Clay, Iowa

Y Bachan Main ar daith yn yr Unol Daleithiau, ar hynt yr hen sefyliadau Cymreig yn y Gorllewin Canol.

Bum i yn Spencer (talaith Iowa) llynedd i fwrw cip ar hen lyfr eglwys 1870-1915 a ysgrifennwyd yn Gymraeg ac sydd trwy ryw wyrth wedi goroesi ffawd pob llyfr eglwys arall yn y parthau hyn am wn i - coelcerth yn yr ardd gefn - ac sydd erbyn hyn yn yr Amgueddfa Parker yn y dref honno.

Hynny yw, yn Gymraeg hyd y flwyddyn 1913, pan ddaeth weinidog o Sais-Americanwr, a bu penderfyniad i gadw'r cofnodion yn Saesneg yn unig.

Fe wnes i luniau o'r 365 o dudalennau a chamera digidol, ac ers mis Awst llynedd yr wyf wedi bod yn trosi'r llyfr i'r Saesneg. Ddoe, yng nghwmni is-lywydd Cymdeithas Gymraeg 'Pont' (cymdeithas ym Marselona i hybu ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg yn y wlad honno, ac i hyrwyddo'r Gatalaneg yn yr un modd yng Nghymru) cyflwynwyd y trosiad i guradures yr amgueddfa.

Capel o'r enw 'Pioneer Welsh Baptist Church' yn ol dogfen ei sefydlu (yn Saesneg). Eglwys yr Ymloeswyr (Bedyddwyr Neilltuol). Bu ar hyd at 64 o aelodau, a hynny heb son am eglwysi Cymraeg eraill yn y cylch. Heddiw nid oes gof am yr hen sefydliad, y carfanau o Gymry, Norwyaid, Almaenwyr, Americanwyr, ayyb wedi ymdoddi a'r elfen Gymreig o'u disgynyddion wedi mynd yn anghof.