diumenge, 15 de novembre del 2009

Montreal 14 Tachwedd 2009

Sadwrn 14 Tachwedd 2009

TYWYDD GWAEL HEDDIW
Diwrnod oer a glaw cyson oddi ar ddeg y bore. Dyna ddiwedd ar fy mwriad i ymweld â mynwent Mont Royal - dywedir y bod yno feddau o aelodau o Clann Mhic Aoidh (teulu "Mackay" yn yr iaith fain). Diddordeb gennyf am mai dyma deulu fy mam, a hanodd o Scrabastair yn Gallaibh (Caithness) ym mhen uchaf yr Alban.

TYWYDD DA DDOE - GRIFFINTOWN
Ddoe (Gwener 13 Tachwedd), ar ddiwrnod ysblennydd o haul er bod yr oerfel yn rhewi fy nwylo di-fenyg wrth i mi dynnu llun ar ôl llun â'r camera digidol - bum ar dramp i weld olion yr hen ardal Wyddelig, Griffintown.

Yr oeddwn yn meddwl efallai fod cysylltiad â Baile Uí Chriofainn yn Iwerddon (yn Saesneg, Griffinstown; yma y mae plas o'r enw (yn yr iaith fain) Griffinstown House, y bu'n eiddo i'r teulu Fetherston-Haugh yn y ddeunawrif ganrif; Baile Uí Chriofainn ) yn Cill Lucaine (Killucan) yn swydd An Iarmhí (Westmeath). Ond nid hwn yw'r tarddiad.

Enw a fathwyd ar ol un o'r cyfenw Griffin, sef Mary Griffin, a gafodd les (anghyfreithlon) ar y tir yn 1799. Yn 1804 rhannwyd y tir ganddi yn blotiau a chodwyd rhwydwaith o heolydd arno. Bu'n wraig i Robert Griffin, perchennog ffatri sebon yn yr ardal, a ddaeth yn brif glerc Banc Montreal pan y'i sefydlwyd yn 1817. 

Yn 1962, fe newidiwyd yr ardal ar fap cynllunwyr dinesig y ddinas i fod yn ardal ar gyfer diwydiant ysgafn, a dyna ddechrau dymchwel y tai annedd yn y fan honno, er bod rhai yn dal i fodoli hyd y dydd heddiw ar ol ymgyrchoedd gan drigolion y cylch i'w hamddiffyn a'u hachub.

Ardal ffatrioedd bach a gweithdai - rhai yn wag ac yn adfail - y mae Griffintown erbyn heddiw.

PONT VICTORIA
Ar bwys y fan honno, y tu hwnt i Gamlas Lachine, y mae Pont Victoria, sydd yn cario cerbydau ffordd a rheilffordd dros Afon Sant Lawrens. Fe'i cynllunwyd gan Robert Stephenson (mab George Stephenson y peirannwr o Northumberland a wnaeth yr injen rheilffordd y "Rocket"). Yr oedd Pont Reilffordd Conwy (agorwyd  yn 1849) a phont Britannia dros Afon Menai (agorwyd yn 1850) yn gynlluniau o'i eiddo yntau hefyd.

Adeiladwyd Pont Victoria rhwng y blynyddoedd 1954-1859, ac fe'i hagorwyd yn 1860. Yn ôl Gwefan Cymdeithas Dewi Sant Montreal daethpwyd â llawer o chwarelwyr o Gymry y bu'n gweithio ar Bont Britannia drosodd i Ganada i weithio ar y bont newydd dros Afon Sant Lawrens. O chwareli Penmon y daethant, mae'n debyg.

VICTORIATOWN
Wrth fynedfa y bont bu Victoriatown, ond ar lafar gwlad Goose Village (Village-aux-Oies yn Ffrangeg), am ei fod ar bwys morfa lle y bu gwyddau yn bwydo a bu helwyr yn eu saethu.

Dymchwelwyd y tai i gyd yn 1964, gan orfod i 330 o deuluoedd symud o'r ardal - er mwyn twtio dipyn ar Montreal ar drothwy Expo 67. Yn ôl adroddiad cynllunwyr dinesig y ddinas yn 1962 "Ni ellir dweud yn union ar hyn o bryd pa beth a wneir â'r tir a gliriwyd" ("The reutilization of the land cleared cannot, however, be precisely determined for the moment.)"

Bu yma heolydd ac enwau dwy bont o waith Stephenson yng Nghymru - Conway Street a Britannia Street. Bu hefyd Menai Street - naill ai i goffau Pont Grog y Borth o waith Telford ("Menai Bridge"), neu am taw dros Afon Menai y codwyd Pont Britannia. Heol arall ddiflanedig yw Forfar Street (Baile Fharfair yn yr Alban), ond ni wn am ba reswm y rhoddwyd enw'r dref honno arni. Dim ond adeilad yr orsaf dan sydd ar ol, a phlac mewn beili ffactri yn coffau'r milwyr o Victoriatown a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd.



Y GARREG DDU - AR GANOL Y FFORDD  
(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)


Wrth fynedfa'r bont, ar lain las yng nghanol y wibffordd, y mae'r Garreg Ddu  (La Roche Nore / The Black Rock), neu Garreg Goffau'r Gwyddelod (Pierre Commémorative des Irlandais / Irish Commemorative Stone). Wrth i'r bont gael ei chodi, fe ddarganfuwyd gan y gweithwyr olion chwe mil o Wyddelod. Buont yn  ffoi'r Newyn Mawr (An Gorta Mór), ond fe'u heintiwyd gan y teiffws ar y fordaith neu ar ol cyrraedd Quebec, a bu farw mewn "siediau twymyn" wrth Benrhyn y Felin Wynt (Windmill Point) a adeiladwyd i'w cadw ar wahan.



Y GARREG DDU - YR ARYSGRIFIAD
(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)
 
Mae ar y garreg arysgrifiad yn Saesneg, a ddywed (o'i drosi i'r Gymraeg) -  Er mwyn cadw rhag eu halogi olion y chwe mil o fewnfudwyr a fu farw gan y twymyn du AD 1847-8 y codwyd y garreg hon gan weithwyr Messrs. Peto, Brassey and Betts a fu wedi'u cyflogi i godi Pont Victoria AD 1859 (To preserve from desecration the remains of 6000 immigrants who died of ship fever A.D.1847-8 this stone is erected by the workmen of Messrs. Peto, Brassey and Betts employed in the construction of the Victoria Bridge A.D.1859)


Y GARREG DDU - YR HYSBYSFWRDD
(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)
 
Y mae hysbysfwrdd ar draws y lon ar y palmant gogyfer a'r garreg. Testun teirieithog sydd arno - fe'i ceir yn y Wyddeleg, yn Ffrangeg ac yn Saesneg.

LEACHT CUIMHNEACHÁIN NA NGAEL
Cailleadh sé mhile Éireannach den fhiabhras dubh agus galair eile ar an láthair seo sa bhliain 1847, teifigh ó gorta mór ag tóraíocht faoisimh i dtalamh úr.  Cuireadh le chéile iad i gcleasanna leathana. Tá an charraig dhubh suite gar do lár na reilige. Togadh dhá bhráca ar fhichid do na heasláin direach soir uaidh seo. I measc na ndaoine a tháinig go neamhleithleach chun fhóirithinte orthu, thoilg cuid de na Siúracha Liatha, roinnt sagart, agus Méara Montréal, John Easton Mills, an fiabhras céanna, agus fhuair iad bás de bharr. Suaimhneas síoraí [ar] a n-anamacha uaisle.

CYFIEITHIAD CYMRAEG
LEACHT CUIMHNEACHÁIN NA NGAEL (CARREG GOFFA'R GWYDDELOD)
Cailleadh sé mhile Éireannach (collwyd chwe mil o Wyddelod) den fhiabhras dubh (o achos y twymyn du) agus galair eile (a chlefydau eraill) ar an láthair seo (yn y fan hyn) sa bhliain 1847 (yn y flwyddyn 1847), teifigh ó gorta mór (ffoaduriaid o'r Newyn Mawr) ag tóraíocht faoisimh (wrth chwilio am loches) i dtalamh úr (mewn gwlad newydd).  Cuireadh le chéile iad (fe'u rhoddwyd gyda'i gilydd) i gcleasanna leathana (mewn ffosydd cyffredin). Tá an charraig dhubh (y mae'r garreg ddu) suite (wedi'i lleoli) gar do lár na reilige (yn agos at ganol y fynwent). Togadh dhá bhráca ar fhichid (codwyd dwy sied ar hugain) do na heasláin (ar gyfer y cleifion) direach soir uaidh seo (yn union i'r dwyrain o'r fan hyn). I measc na ndaoine (ymysg y bobl) a tháinig (a ddaeth) go neamhleithleach (yn anhunanol) chun fhóirithinte orthu (i'w cynorthwyo, "ar gyfer cynorthwy arnynt"), tholg cuid de na Siúracha Liatha (cafodd rhai o'r Chwiorydd Llwyd), roinnt sagart (rhai offeiriaid), agus Méara Montréal (a maer Montréal), John Easton Mills, an fiabhras céanna (y twymyn hwn, "yr un twymyn"), agus fhuair iad bás (a buont farw) de bharr (hefyd). Suaimhneas síoraí (tangnefedd diderfyn) [ar] a n-anamacha uaisle (ar eu heneidiau bonheddig).  

MOMUMENT COMMÉMORATIF IRLANDAIS
En 1847, sis mille Irlandais et Irlandaises, qui cherchaient asile dans un pais nouveau, mourirurent ici du typhus et d'autre maladies. Ils furent enterrés dans les fosses communes. Le rocher noir indique le centre approximatif du cemetière. Vingt-deux baraques sanitaires furent construits a l'est de cet entdroit.  Plusieurs Soeurs Grises, quelques prêtres, ainsi que John Easton Mills, maire de la ville de Montréal, venus s'occuper des malades par altruisme, contractèrent eux-mêmes le typhus et en moururent. Qu'ils reposent en paix.

IRISH COMMEMORATIVE STONE
In 1847, six thousand Irish people, seeking refuge in a new land, died here of typhus and other ailments and were buried in mass graves. The stone marks approximately the centre of the cemetery. Immediately to the east of here, twemty-two hospital sheds had been constructed. Many Grey Nuns, several priests, and also John Easton Mills, mayor of the city of Montréal, who selflessly came to care for the sick, themselves contracted typhus and died. May they rest in peace.