diumenge, 15 de novembre del 2009

Montreal 15 Tachwedd 2009


(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)

Tu faes i'r gwesty (wrth yr arwydd "auberge" yn y llun uchod) lle yr wyf yn aros y mae heol fach o'r enw Rue Evans. Beth yw hanes yr enw hwn tybed? Gan mai olrhain hanes enwau lleoedd - pentrefi, tai, heolydd - yw fy nileit, bydd ymweld a siop lyfrau i fynd ar hynt llyfrau enwau lleoedd Montreal a Quebec yn anghenrheidiol cyn i mi ymlwybro tuag adref, ac os caf i amser ymweliad bach hefyd a llyfrgell genedlaethol Quebec sydd heb fod ymhell o'r fan hon.


(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)

Ar dro ar bnawn niwlog dyma gerdded draw i Fynwent Parc Royal, ac i mewn a mi i barth Protestannaidd y gladdfa i weld a oes yno feddau Cymry. Cannoedd ar gannoedd o feddau mewnfudwyr o Sgotiaid, ond wrth i mi gerdded i fyny'r llethr dyma un garreg fedd wrth yr heol yn tynnu fy sylw - un ag arni'r cyfenw Harries. Dyma enw Cymraeg o bosibl, meddyliais. A gwir y gair - yr oedd hyd yn oed frawddeg fach yn y Gymraeg, er nad oedd yn hollol gywir - saer maen a oedd wedi ei cham-ddarllen, siwr o fod, a'r gair olaf yn ddisynnwyr braidd.


 (Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)

In loving memory of / THOMAS HARRIES, / WHO DIED DEC. 10TH 1898, / AGED 67 YEARS. / EI DDUW, EI WLAD AI GRENEDLE / A GARODD / SARAH A. WILLIAMS, / WIDOW OF / THOMAS HARRIES, / DEC. 17, 1835 FEB. 12, 1922


(Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy)

OH CALL IT NOT DEATH 'TIS A GLORIOUS REST / YEA, SAITH THE SPIRIT FOR ALL SUCH ARE BLEST / THE BATTLE IS FOUGHT, THE STRUGGLE IS OER / THE CROWN NOW REPLACES THE CROSS HE BORE

(EI DDUW, EI WLAD A'I GENEDL A GARODD a ddylai fod, yn ddiamheuaeth)