divendres, 14 de gener del 2011

Flint Creek, Iowa, eto

Ym mis Awst buom yn chwilio un prynhawn Gwener am fynwent y Cymry ar bwys Mediapolis, yn nhalaith Iowa, ond yn ofer.

Rwy’n rhyfeddu erbyn hyn pa mor hawdd yw mynd ati o dref Mediapolis – ond y diwrnod hwnnw er chwilio amdani, dan fynd i lan ac i lawr y lonydd cefn (neu’r heolydd grafel a’r traciau pridd a bod yn fanwl), nid oedd modd ei darganfod.

Flint Creek oedd enw’r sefydliad – felly rhaid bod mewn rhyw fan ar lannau’r nant (Flint River yw’r enw erbyn heddiw).

Nid oedd brodorion y lle yn gwybod fawr ddim am y fynwent, a llai byth am yr hen arloeswyr o Gymry – mewn gwirionedd, pobl o bant oedd llawer mae’n debyg, wedi symud i fyw i gefn gwlad.

Yn y motel un noson, neu tu faes o dan y sêr yn y maes pebyll noson arall, bûm yn craffu ar fapiau lloeren Google ar y cyfrifiadur – ond megis chwilio am nodwydd mewn tas wair y bu’r cyfan.

Dychwelson ni’r archwilwyr ddau ddiwrnod wedyn i Swydd Des Moines, gan foduro i lawr o Iowa City, a’r tro hwnnw daeth llwyddiant i’n rhan. Ar lan y nant mewn llwyn o goed yr oedd y fynwent.

O edrych ar Mediapolis ar fapiau Google yn awr, dacw’r fynwent mor olau â’r dydd, lle mae Heol Mediapolis yn croesi'r nant o'r enw Flint Creek (Sylwer taw cilfach fôr yw creek y Sais, ond i'r Americaniaid nant yw'r ystyr)

Rhaid bod rhyw hen ddywediad yn crisialu’r syniad o ddod i adnabyddiaeth lle ar ôl oriau o chwilio amdano - efallai bod rhyw ddoethair bach yn Y Myfyryian  – rhywbeth megis “dieithr nes cyfarwydd”.

http://www.youtube.com/watch?v=hXU1GWdBKb8 Mynwent y Cymry yn Flint Creek











Yn yr iaith fain y mae’r rhan fwyaf o’r arysgrifiadau, er bod ambell un yn Gymraeg.
Mae llawer o’r arysgrifiadau yn amhosibl i’w darllen erbyn heddiw gwaetha'r modd, a llawer o'r cerrig beddau wedi eu torri yn eu hanner. 


Dyma Iorthryn eto yn sôn am y sefydliad hwn: (HANES CYMRY AMERICA; A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION, EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION; YN NGHYDA THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD; GYDA PHOB CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR
I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL. GAN Y PARCH. R. D. THOMAS  (IORTHRYN GWYNEDD.). 1872.)

6. FLINT CREEK, Des Moines Co., Iowa, (Pleasant Grove P.O.) - Saif y sefydliad Cymreig bychan hwn tua 25 milldir i’r de o sefydliad Long Creek. Gellir myned o Columbus Junction, neu o Burlington yno yn awr gyda y “Burlington, Cedar Rapids, and Minnesota R.R,” trwy ddisgyn yn Kossuth Depot. Pedair milldir sydd oddiyno at y capel. Nid yn Sperry Depot, a’r Morning Sun Station, lle mae Hugh Edwards, Ysw., a’i deulu yn byw, gynt o Geryg-y-Druidion [sic], Sir Ddinbych, G.C. Mae efe a’i deulu yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Flint Creek. Gwlad ardderchog a ffrwythlon sydd oddiyno am filldiroedd hyd Flint Creek; ac oddiyno trwy Pleasant Grove, ar draws y wlad hyd New London, neu Danville, ar y “Burlington & Missouri R.R.”

Y sefydlwyr cyntaf yn Long Creek [sic - Flint Creek y dylai fod, mae'n debyg] oeddynt John Jones a’i wraig, o Sir Fon, G.C., aelodau crefyddol gyda y T.C. Daethant yno yn ngwanwyn y fl. 1842. Buont feirw tua’r fl.
1855, a chladdwyd hwynt yn y fynwent wrth y capel. Mae eu meibion, Edward Jones a John J. Jones, a’u teuluoedd, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal eto. Wedi hyny daeth Jonah Morris, o Sir Gaer, D.C., yno gyda’i wraig a’i blant yn 1843. Claddwyd Mr. Morris yn Long Creek [sic - Flint Creek y dylai fod, mae'n debyg], a symudodd ei weddw i Newark, Ohio. Daeth James Thomas, o Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Claddwyd ef yn mynwent y capel Mai, 1868. Mae ei weddw a’i fab yn byw yn yr ardal eto. Daeth John Jacobs, Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Bu ef yn California. Joshua Jones a’i wraig a ddaeth yno o New York yn 1845. Claddwyd ef wrth gapel y Bedyddwyr Saesonig yno tua’r fl. 1856. Mae ei weddw yn byw yn yr ardal eto. Yr un fl., 1845, daeth Benjamin Jones a’i wraig yno o Lundain, Lloegr. Pobl grefyddol oeddynt gyda y T.C. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i Pleasant Grove yn y fl. 1846. Ei weddw ef yw Mrs. Jacobs; ei fab ef yw Benjamin Jones, a’i ferch ef yw gwraig Thomas Thomas (B.,) sydd yn byw yno eto. Thomas Evans, o Sir Aberteifi, a’i wraig a’i blant, a ddaethant yno yn 1845. Pobl grefyddol gyda yr Annibynwyr oeddynt. Bu ef a’i wraig a dwy o’i ferched farw o’r cholera, a chladdwyd hwynt yn mynwent y capel. Mae Mr. Henry Evans, eu mab, yn byw yn yr ardal eto. Eu merched hwy yw Mrs. Gowdy, o Flint Creek, a Mrs. Gartley yn Burlington. Daeth Robert Jones a’i wraig a’u plant, o Sir Fon, yno yn 1845. Yr oedd ef y pryd hyny yn aelod gyda’r Eglwyswyr, a’i wraig gyda’r Bedyddwyr. Yr oedd y ddau yn fyw yno yn niwedd y fl. 1870. Claddwyd dau o’u plant yn mynwent y capel; ond y mae y rhai canlynol yn fyw ac yn gysurus: - John E. Jones (A.,) David E. Jones (B.,) Isaac N. Jones (A.,) Sarah, gwraig y Parch. Thomas W. Evans, William W. Jones, Clay City, Clay Co., Illinois. Daeth Erasmus Evans a’i wraig, a’i feibion a’i ferched yno yn 1845, o rywle yn agos i dref Caernarfon, G.C. Prynasant 40 erw o dir tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Dychwelasant i’r gweithiau glo, i’r dwyrain o St. Louis, Missouri. Pobl anghrefyddol oeddynt. Dichon eu bod wedi eu claddu. Os oes rhai o’u perthynasau yn fyw, dymunwyf eu hysbysu fod y tir heb ei gau i mewn eto, ac y gallant ei adfeddianu trwy dalu yr holl drethi.

Tua’r fl. 1850, ymfudodd amrai oddiyno i California, ac ni ddaeth llawer o honynt byth yn ol. Ymadawodd Thomas Lewis, John Davies, a David Williams, i leoedd ereill; ac ymadawodd Thomas Lewis (B.,) a’i deulu, gynt o Sir Benfro, D.C., i Dawn, Missouri, yn 1848. Lleihawyd y boblogaeth Gymreig.

Prynodd llawer o’r sefydlwyr cyntaf Land Warrants am $30 i $150, a sefydlasant ar diroedd da o goed a doldiroedd (prairies.) Mae aber fechan y Flint Creek yn rhedeg drwy yr ardal, ac oddeutu hono mae digon o goed ac o geryg. Mae rhai tai da wedi eu hadeiladu yn yr ardal gan y Cymry; ac y mae rhai o honynt yn bobl gyfoethog, a haelionus at bob achos da. Dyma restr o enwau y preswylwyr Cymreig yn Tachwedd, 1870: -

ENWAU. O BA LE O GYMRU? &C. PA BRYD?

Robert Jones / Mon, G.C. / 1843
John R. Jones / Mon, G.C. / 1843
David R. Jones / Mon, G.C. / 1843
Mrs. Joshua Jones / New York, N.Y. / 1843
Isaac N. Jones / Ganwyd yno yn / 1844
Mrs. Ann Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1845
Henry Evans / Aberteifi, D.C. / 1845
Benjamin Jones / Llundain / 1845
Mrs. Jacobs / Llundain / 1845
Thomas Jones / Iowa / 1847
Edward P. Hughes / Liverpool / 1850
William E. Jones / Fflint, G.C. / 1853
Edward Jones / Mon, G.C. / 1855
John J. Jones / Mon, G.C. / 1846
William W. Williams / Mon, G.C. / 1853
William Lloyd / Ohio / 1858
William James / Sir Gaer, D.C. / 1858
William W.Jones / Arfon, G.C. / 1858
Thomas H. Evans / Ohio / 1865
William L. Roberts / Meirion / 1868
Hugh Jones / Mon / 1867
Richard Jones / Mon / 1868
William D. Roberts / Meirion / 1869

Mae yn yr ardal tua 24 o deuluoedd, a thua 120 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith mae amrai o bobl ieuainc yn gwasanaethu.

Ffurfiwyd yr Eglwys Gristionogol Undebol (The Christian Society) yn nhy Jonah Morris, gan y Parch. David Knowles (A.,) yn Mehefin, 1848, gydag ychydig o aelodau. Adeiladwyd y capel cyntaf yno gan yr hen Gristion ffyddlon John Jones (T.C.,) bron oll ar ei draul ei hunan. Gwnaed y capel newydd hardd presenol yn 1868. Traul, $11,100. Talwyd yr oll gan yr ardalwyr. Da iawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 80. Diaconiaid - Thomas Edwards, Richard Jones, trysorydd; a Benjamin Jones, Ysgrifenydd, Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno: - Parchn. David Knowles, George Lewis, John Pryce Jones, John Price, Thomas W. Evans (14 o flyneddau); Evan Griffiths, am ychydig amser. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans, gynt o Waukesha Co., Wis.