dimarts, 11 de gener del 2011

Sefydliad y Cymry yn Big Rock, Illinois

Dydd Calan 2011 (dydd Sadwrn) hyd Ddydd Sadwrn 8 Ionawr 2011. 

Wythnos yng Nghanolbarth Gorllewinol yr Unol Daleithiau, yn dioddef y tywydd oer oer – y tymheredd islaw sero gydol yr amser a gwynt main ar ben hynny. 

Ond cyfle heb ei ail i olrhain ambell un o’r hen sefydliadau’r Cymry. 

Ddydd Sul yr ail ddydd o’r flwyddyn newydd aethom ni'r olrheinwyr o Chicago i Ogledd-orllewin Iowa, trwy’r ardaloedd a fu gynt yn rhai Cymreig (a Chymraeg) ond ysywaeth heb gael aros i’w harchwilio am fod yr amser yn brin. 

Dim ond gweld yr enwau ar yr arwyddion heol, enwau sydd yn gyfarwydd o ddarllen cyfrol Iorthryn Gwynedd “Hanes Cymry America”. Racine, Milwaukee, Waukesha, Madison, Sun Prairie, Dodgeville, Blue Mounds, Mineral Point...

Yn Linn Grove, Swydd Clay, Iowa cefais dynnu lluniau wrth i’r haul fachlud o Fynwent yr Arloeswyr Cymreig (Welsh Pioneer Cemetery) a orweddai o dan haen denau o eira.
Llecyn hyfryd mewn llwyn o goed oedd y fynwent ddwy flynedd yn ôl, a’r coed yn arbed y cerrig beddau rhag mileindra’r gwynt, am mai ar yr hen breri y mae’r fynwent, uwchben pentre Linn Grove i lawr yn y cwm. Ond llwm a thrist ei golwg yr oedd y fynwent ym mis Awst – y coed i gyd wedi eu torri a’u clirio, a rhai  o’r cerrig beddau yn gorwedd blith draphlith ar lawr.  Meddwl yr oeddwn taw ôl fandaliaid a welwn, ond pam y cliriwyd y llwyn bach cysgydol? 

Rhywrai yn y cylch yn sôn wrthym wedyn am drowyntoedd yr haf oedd wedi achosi tipyn o ddifrod mewn ambell fan. Efallai dyna sydd yn esbonio yr olwg druenus arni.
Ar y daith yn ôl o Iowa i Chicago bu’n bosibl gwneud gwibdaith i dri sefydliad Cymreig yn nhalaith Illinois – Coal Valley ar bwys Rock Island a’r Afon Mississipi yng ngorllewin y dalaith; ac yn y dwyrain, Braceville, ar bwys Coal City a Wilmington, Illinois; a Big Rock, ar bwys Aurora, Illinois. Y ddau gyntaf yn hen ardaloedd y pyllau glo, ond erbyn hyn mae’r diwydiant glo wedi hen ddarfod. Naws ddeheuol i’r cyfenwau yno – Prosser, Morgan....

Nos Wener bûm yn aros yn Joliet, gan fwriadu teithio ddydd Sadwrn  i ddal yr awyren i Zürich ym Maes Awyr O’ Hare (hynny yw, Ó hEidhir!) yn Chicago. Gwelasom ei bod yn bosibl gwneud dargyfeiriad bach a mynd yno drwy bentref Big Rock, heb fod ymhell o Joliet. Soniwyd amdano gan Iorthryn Gwynedd fel un o sefydliadau Cymreig talaith Illinois.
Bûm am bum deg munud ar wib trwy’r fynwent yn yr oerni deifiol yn tynnu lluniau nes ei bod yn ddau o'r gloch. Bu rhaid cyrraedd y maes awyr ewrbyn pedwar. Lle tawel a llonydd oedd y fynwent honno, yr unig swn oedd ambell gar yn mynd heibio a lleisiau tri o lanciau oedd yn chwarae hoci iâ ar gae gerllaw, dros y nant sydd yn llifo gydag ochr goediog y fynwent.

http://www.youtube.com/watch?v=sSPaIvYFelc Rhan 1: Y daith o Joliet i Big Rock



http://www.youtube.com/watch?v=fNNWvZdPooE Rhan 2: Y cerrig beddau ym Mynwent Big Rock








HANES CYMRY AMERICA;
A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION,
EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION;
YN NGHYDA
THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD;
GYDA PHOB
CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR
I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL.

GAN Y PARCH. R. D. THOMAS,
(IORTHRYN GWYNEDD.)
UTICA, N.Y.
T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS:
1872.


Sefydliad Cymreig BIG ROCK, Kane Co., Illinois. - Gorwedda Kane Co., tua 30  milldir i’r gorllewin o Chicago; a’r ffordd nesaf a rhwyddaf i fyned i sefydliad y  Cymry yno, yw myned gyda y train ar y “Chicago, Burlington, & Quincy Railroad,” o  ddinas Chicago i dref Aurora, (30 milldir,) yr hon yw prif dref marchnad y Cymry; ac y  mae ffordd dda i fyned oddiyno gyda cherbyd a cheffylau, neu gyda y Branch R.R. tua  12 milldir.  

Township
yw Big Rock, yn 6 milldir o hyd wrth 6 o led. Yr oedd digon o dir rhad y  Llywodraeth i’w gael yno yn 1840. Tir lled wastad yw yr oll o hono; ond ceir ynddo rai  codiadau bychain; ac y mae arno lawer o goedydd da ar lanau yr afonydd bychain sy’n  rhedeg drwyddo, ac mewn manau ereill. Ceir ynddo hefyd lawer o ddoldiroedd  (prairies). Tir da ydyw oll, (black loam soil). Codir llawer o wenith, ac Indrawn, ceirch,  timothy, &c., ynddo . Lle da i fagu gwartheg a moch, &c. Gwenith, 15 bwsiel yr erw;  corn, o 40 i 50 bwsiel yr erw. Y mae yno lawer o berllanau a gerddi da; ychydig o goed  peaches. Fences da yn tyfu o hadau yr Osage Orange; ond fences byrddau a arferir  amlaf yno.   

Y sefydlwyr cyntaf oeddynt Edward Welding, Morris Price, (Llanidloes), a John Pierce,  (Dinbych). - Daethant yno yn 1840, ac y maent yno eto, yn bobl barchus a chyfoethog.  Yn fuan wedi hyny daeth Richard Roberts, (o Sir Fon), a Daniel Evans, (Neuaddlwyd),  a Richard Morris, (Mon), a David Evans, (Neuaddlwyd), ac ereill, yno. Ond pan ddaeth  Evan Ingram, o Langyniw, Maldwyn, yno, yn 1852, yr oedd pris y tiroedd wedi eu  diwyllio o $20 i $25 yr erw; a’r prairies o $4 i $5 yr erw. Y mae ganddo ef dyddyn  rhagorol yno yn awr; ac y mae yn byw yn dra chysurus arno. Nid ellir prynu tyddynau  diwylliedig yno heddyw heb dalu o $40 i $60 yr erw am danynt. Y mae yno yn awr  sefydliad cryf o Gymry crefyddol a chyfoethog. Y mae yno 73 o deuluoedd, ac oddeutu  365 o wyr, gwragedd, a phlant, gweision a morwynion. Y mae rhai o honynt wedi  priodi a chenhedloedd ereill, a thuag ugain o deuluoedd nad ydynt yn arfer siarad ein  hiaith, nac yn dilyn moddion gras yn y capelau Cymreig; ond y mae ganddynt fawr  barch i’w cenedl. Hyd y gauaf yn gyffredin yw pum’ mis - eira yn disgyn yn niwedd  Rhagfyr yn un droedfedd o drwch; rhewi yn galed, a bydd y ddaiar yn gloedig o  ddechreu Rhagfyr i ddechreu Mawrth.    

Ardal amaethyddol hollol yw Big Rock; nid oes yno un math o bentref; ond y mae yno  lawer o dyddynau ffrwythlon, ac o dai coed rhagorol arnynt. Ceir Post Office yno.  

Mae capel ac eglwys Saesnig gan y Bedyddwyr yn y plwyf, a’r Parch. John Jones, un o  sir Fflint, G.C., yn weinidog iddynt.  

Y ddwy Eglwys ANNIBYNOL Cymreig, - Dechreuwyd pregethu Cymraeg yn yr ardal  er ys llawer o flyneddau, gan y Parch. George Lewis, ac eraill. Sefydlwyd yr eglwys  gyntaf yn nhy John Pierce, Ysw., yn Hydref, 1852, pan urddwyd y Parch. John Daniels  yn weinidog iddynt. Adeiladwyd y capel cyntaf yn haf y flwyddyn 1853; capel coed,  26 wrth 32 tr. Traul, $500. Dim dyled. Aelodau yr hen gapel yn bresenol, 30; Ysgol  Sabbothol, 30; cynulleidfa, 95. Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno: - John  Daniels, Rees M. Evans, Jenkin Jenkins, John Parry, John L. Richards, Benjamin Jones,  Richard Williams, Henry Davies.   

Yn 1860, yn amser y Parch. R. M. Evans, ymranodd yr eglwys, a darfu i un ran o honi  godi capel newydd o’r enw “Peniel,” o fewn dwy filldir i’r hen gapel. Capel da, o goed,  ydyw, 26 wrth 36 troedfedd. Traul, $700. Dim dyled. Aelodau, 30; Ysgol Sabbothol,  40; cynulleidfa, 90. Perthyna i hon hefyd lawer o dyddynwyr cyfoethog a pharchus.  (Bu y ddwy eglwys ar wahan am saith mlynedd; ond gwnaed undeb rhyngddynt yn  amser y Parch. Benjamin Jones, Llanidloes gynt - bu farw yn Iowa.) Y maent yn  cydweithredu yn siriol er ys blyneddau. Y gweinidogion a fu yn gwasanaethu yr  eglwys hon, mewn undeb a’r eglwys arall, oedd Benjamin Jones, Richard Williams, (yr  hwn sydd yn byw ar ei dyddyn yn yr ardal eto,) a’r Parch. Henry Davies, gynt o Nefyn,  Arfon, yr hwn a fu yno o Ionawr, 1869, hyd ddechreu y fl. 1871. Yn Tachwedd, 1870,  gwelais y Cymry parchus canlynol yn iach a chysurus, yn Big Rock: - John Pierce,  James Evans, Evan Ingram, Benjamin Davies, Thomas Jones, Thomas James, Evan  Morgan, David J. Evans, Peter Evans, David Thomas, John Jones, John James, Richard  L. Hughes, ac ereill.