dimecres, 16 d’octubre de 2019


BARNWYR SBAEN YN CARCHARU ANNIBYNIAETHWYR O GATALANIAID

Heb ysgrifennu ers dros flwyddyn a hanner. Felly dyma ddalen fach o lyfr nodiadau’r Bachan Main.
Dydd Llun y bedwerydd ar ddeg o fis Hydref



F9844
Am ryw naw o'r gloch cyhoeddwyd y dedfrydau i’r Catalaniaid sydd wedi bod yn y ddalfa ers dwy flynedd am fod yn rhan o’r mudiad dros annibyniaeth Catalonia ar Sbaen (er gwaetha’r rhesymau ‘swyddogol’, mae’r Catalaniaid yn gwybod taw yn y bôn hyn oedd eu bai). 

O flaen y panel o farnwyr bu deuddeg o wleidyddion Catalonia a phenaethiaid cymdeithasau gwerin gwlad (hynny yw, nad ydynt yn rhan o’r byd gwleidyddol).

Daw’r dedfrydau llym ar ôl achos fu’n llawn camweddau o du’r barnwyr, yr oll â chysylltiadau â thair plaid gwleidyddol goruchafiaethol Sbaenaidd (y Blaid Sosialaidd, Plaid y Bobl, a’r blaid Ffasgaidd Vox), ar gyhuddiadau na fyddai’n dal dw^r mewn llys barn gwerth yr enw.

Un o gamweithrediau’r Goruchel Lys fu rhoi gwahardd ar siarad Catalaneg, a rhybuddwyd y rhai fu’n sefyll eu prawf bod rhaid, yn ôl cyfraith Sbaen, siarad iaith swyddogol Sbaen. Ar y llaw arall bu pob cyfleuster i dystion o Slofenia, Awstria a’r Unol Daleithiau siarad yn eu hieithoedd hwythau â chyfieithiad olynol). 

Cafodd naw ohynynt eu dedfrydu am, yn bennaf oll, sedisiwn, sef anogaeth i wrthryfela yn erbyn llywodraeth y wladwriaeth, ac hefyd am gamwario arian y wladwriaeth. Dirwyon o 60,000 ewro fu’r dyfarniad i’r tri arall.

YR ALWAD I BROTESTIO

Yn sgîl cyhoeddiad y dyfarniadau, yn y fan, mae galwad trwy'r rhwydweithiau cymdeithasol i fynd i'r heol i brotestio.

Dyma gennyf yn awr adroddiad bach o ddigwyddiadau’r diwrnod o dan faner annibyniaeth Catalonia a’r Ddraig Goch.


F9845d

Yn y bore, am hanner awr wedi deg, bant â ni i Plaça de la República (Cylchfan y Werinlywodraeth) yn ardal Nou Barris (‘naw cymdogaeth’). Colofn o ryw drigain o brotestwyr yn cerdded o'r faestref hon i ganol Barcelona ar hyd y brif heolydd. Wrth i’r golofn orymdeithio am saith neu wyth cilomedr i’r dinas, dyma glywed rhai yn gweiddi eu cefnogaeth o falconi eu fflatiau; rhai yn gyrru heibio yn canu corn, neu godi bawd. Yn y rhan hon o’r ddinas, â chymaint o fewnfudwyr o Sbaen sydd yn elyniaethus i genedlaetholdeb Gatalanaidd a’r iaith Gatalaneg, mae’n od nad oes gwaeddiadau o blaid Sbaen (¡Viva España!) ac o blaid carcharu’r llywodraeth. 

YR HEDDLUOEDD
Wrth gerdded ar hyd yr heol heb ganiatâd swyddogol mae peth pryder am rwystr ffordd gan heddlu Sbaen neu’r lledfilwyr. Mae mil a hanner wedi eu hanfon i Gatalonia gan Lywodraeth Madrid yn ddiweddar i fod yn lluoedd wrth gefn, er bod Heddlu Catalonia yn datgan nad oes mo’u heisiau. Perh aflonyddwch hefyd am heddlu Catalonia hyd yn oed (y rhan fwyaf yn ninas Barcelona, yn ôl y sôn, yn Sbaenwyr rhonc, neu yn Gataloniaid gwrth-annibyniaeth). Yn y diwedd cawsom hebryngiad heddlu’r ddinas – unwaith eto, Sbaenwyr rhan amlaf neu Gatalaniaid gwrth-annibyniaeth, ond yn ddiweddar mae’n debyg bod Cyngor y Ddinas â rheolaeth gryfach arnynt ac mae llai o duedd ynddynt i weithredu yn ôl eu mympwy. (Rhaid cofio beth yw tasg yr heddluoedd a’r fyddin yn Sbaen – nid, fel y gellid disgwyl, gwasanaethu’r cyhoedd, ond bwrw ufudd-dod i mewn i’r boblogaeth. Heddlu Catalonia yn wahanol i raddau am ei fod wedi seilio ar heddluoedd y Deyrnas Unedig; y lleill yn dyddio o amser unbennaeth Franco, heb dim newid yn eu meddylfryd a’u  hystrwythur ar ôl marwolaeth yr unben Franco).

Mae’n galonogol i ni weld taw ymfudwyr o Sbaen a’i disgynyddion oedd pobl yr ymdaith rhan amlaf, a’r rhain o blaid Gwerinlywodraeth annibynnol ar Sbaen.
Mae'r ymdeithiau o sawl rhan o'r ddinas yn cydlifo yn Sgwâr Catalonia.  Myfyrwyr prifysgol yw'r rhan fwyaf.

Yma yn y sgwâr mae’n bryd cymryd y polyn telesgopaidd allan o’r rycsac. Mawr arno baner annibyniaeth Catalonia, ac o dano y Ddraig Goch.

F9850

RHAI HANESION BACH
A dyma gwrdd â phobl sydd yn adnabod y faner, ac yn dod drosodd i siarad â ni. Yn gyntaf oll, pâr briod â’u merch ryw bymtheg oed. O’r Alban y mae’r gw^r, a Chatalanes yw’r wraig, ond ar daith yng Nghatalonia. Yng Nghaeredin y maent yn byw, a gresynu iddynt ddod heb faner yr Alban.
Ar ôl hanner awr, rhywrai â sypyn o phlacardiau papur - "Tsunami Democràtic. Tothom a l’Aeroport.” Tsunami Democràtic yw’r enw ar ffurf o brotestio ar sail y giwed gyflym (neu yn Saesneg, ‘flash mob’). Rhag ofn i heddlu Sbaen neu ledfilwyr  Sbaen (Guardia Civil) gael gwybod am gynlluniau’r protestwyr, ni chyhoeddir lle’r brotest tan y funud olaf. Ac heddiw meddiannu’r maes awyr biau hi.

F9849

Wrth gerdded tua gorsaf y metro, dyma ryw fachan tua 25 oed yn dod atom a dweud (yn Saesneg ac yn Gatalaneg) taw Cymro yw. Un o ardal Parc Romilly, yn y Barri. Ar yr un foment dyn tua 70 oed yn dod atom i dweud ei fod yn f’adnabod, taw rhedwr yr wyf. A gwir yw’r gair. Wedi rhedeg ers blynyddoedd maith yma yng Nghatalonia. “Domingo Catalan w i” medd yntau (yn Gatalaneg). Wrth gwrs! Bu siop esgidiau rhedeg ganddo yn La Bordeta yn Barcelona am flynyddoedd, a dyna oedd y lle i gofrestru am ras, nes i’r Rhyngrwyd ymddangos, a chofrestru am ras yn hawdd i’w wneud heb fynd o’r ty. At hyn, bu llawer o’i hen gwsmeriaid yn dechrau prynu eu hesgdiau arlein, a’r busnes yn dechrau mynd ar ei oriwaered, a bu rhaid iddo gau’r siop. Ond ar ben hynny, rhedwr lled enwog yng Nghatalonia a thu hwnt fu, wedi ennill sawl ras farathon, a llu o rasau eraill o wahanol bellterau.
“Yng Nghymru enillais i ras farathon!” meddai. Ond heb gofio yn union ym mha flwyddyn (“rywbryd yn yr wyth-degau”), ac enw’r dref lle y cynhaliwyd (“Tref lled fach oedd, ond am yr enw…”)

Sawl un o’r protestwyr yn gweld y Ddraig Goch, rhai yn gofyn o ba wlad y daw, eraill yn ebychu yn Gatalaneg “Gal·les” neu yn Saesneg “Wales!”, a rhai am dynnu ffoto.

I’R MAES AWYR


F9848

Mae’r metro tua’r maes awyr dan ei sang, a chymaint yw’r dorf fel y mae pentwr o bobl tu ol ac o o flaen llidiart allanfa’r orsaf, a phawb yn ei unfan am funudau maith..
Wrth fynd i maes i’r awyr agored, gweld llawer yn dod i mewn i’r orsedd a’r glaw yn diferu o’u dillad, ac eraill yn plygu eu hymbrelau. Yma mae’n bwrw glaw. Newid mawr - bu’r bore a’r prynhawn cynnar yn heulog braf.

Mae miloedd o brotestwyr wedi meddiannu adeilad y maes awyr, a dros gant o wasanaethau awyr wedi eu canslo. Ond nid oes ball ar y llif o brotestwyr yn cerdded tua Therfynfa Un. Ac hefyd, wrth eu hochr, cannoedd o deithwyr sydd yn gorfod cerdded o Derfynfa Dau gan nad oes na thrên metro na bws rhwng y ddwy derfynfa o achos y protestiadau.


F9846

Rhywun wedi ysgrifennu yn Saesneg â phaent érosol ar ffenestr yr orsaf – “Mae’n flin gennym eich bod wedi colli’r awyren, ond yma rŷn ninnau wedi colli ein democratiaeth..”

Hofrenydd corff y lledfilwyr yn hedfan uwch ein pennau gydol yr ysbaid.


F9847

Ar y ffordd yn ôl at y orsaf fetro rhyw fachan yn dod ataf ac yn gofyn, “Wyt ti’n siarad Cymraeg?” “Wel, ydw…· A gweld ar unwaith taw R. yw, erbyn hyn yn ddarlithwr yn y brifysgol, ond yn gyn-fyfyriwr yn y dosbarth Cymraeg fu gennym yma. Heb ei weld ers blynyddoedd maith. “Gwelais i’r Ddraig Goch, ac wedi dod i weld pwy oedd yn ei chario.”

NÔL YN Y DDINAS

Mae gorymdaith arall yn Heol Laietana. Erbyn hyn mae wedi mynd yn nos. Cannoedd yn dal i fyny eu ffonau poced, a mae carped o oleuadau gwyn yn ymestyn am hanner milltir i lawr yr heol hyd at Carrer Jaume Primer / Heol Iago’r Cyntaf.
At y sgwâr (Plaça Jaume Primer) y mae’r gorymdaith yn mynd, lle y mae adeilad Llywodraeth Catalonia.

Mae’n mynd heibio i brif orsaf Heddlu Sbaen ym Marselona, lle y bu’r heddlu hwn yn arteithio y rhai wedi eu dwyn i’r ddalfa yn ystod yr unbennaeth. Mae’r heddlu sydd yno heddiw, y rhan fwyaf ohonynt wedi dod o Sbaen, yr un mor elyniaethus at y Catalaniad a’u haith.
http://catalunyaplural.cat/ca/la-comissaria-de-via-laietana-simbol-de-la-tortura-i-del-silenci-de-la-memoria/

Y dorf yn gwaeddu ‘Fora les forces d’ocupació!’ (“i maes à lluoedd y goresgynwyr”), a chanu:
No volem ser una regió  d’Espanya.
No volem ser un país ocupat.
Volem volem volem la independència.
Volem volem volem els Països Catalans.”

Dŷn ni ddim yn mo’yn bod yn rhanbarth Sbaen
D
ŷn ni ddim yn mo’yn bod yn wlad dan oresgyniad
R
ŷn ni’n mo’yn annibyniaeth
R
ŷn ni’n mo’yn y Gwledydd Catalaneg

(= gwladwriaeth wedi ei seilio a’r tair bro Catalaneg eu hiaith – Ynysoedd Balearaidd (Mallorca, Menorca, Eivissa, Formentera), Gwlad Falensia, a Thywysogaeth Catalonia).
Siant arall yw “Aquest edifici serà una biblioteca” (Llyfrgell fydd yr adeilad hwn) (hyyny yw, ar ôl annibyniaeth, a Heddlu Sbaen wedi eu anfon yn ôl i’w wlad ei hun, bydd defnydd newydd i’w gorsaf heddlu).

Wrth fynd o flaen gorsaf yr heddlu dyma glywed galw f’enw. A dyma L., cyn fyfyfriwr arall o’r hen ddosbarth Cymraeg flynyddaoedd maith yn ôl, ac un arall yr wyf heb ei weld ers blynyddoedd. Yn Gatalaneg y mae’n siarad, ond ar y foment honno dyma’r heddlu o flaen eu pencadlys yn dechrau saethu i’r awyr a’r dorf yn eu gwân hi chwap i gyfeiriad Palau de la Música / Y Llys Cerddoriaeth

AR ÔL YMLWYBRO TUAG ADREF

Awydd gwybod arnaf lle yn union y bu ras fárathon Domingo. Yng Nghaer-dydd? Abertawe? Bangor? Dyma’r rhyngrwyd yn dod i’r adwy. Cael hyd i restr o rasys Marathon yn 1986 (Marathon List for 1986) a dyna fe – ar y deunawfed o fis Mai, ym Mhencampwriaethau Cymru, ras farathon ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Enillodd Domingo Catalan y ras ag amser o 2:22:08  (dwy awr, dau funud ar hugain, ac wyth eiliad). 

Gweld ar deledu Catalonia bod yr heddluoedd wedi gwneud cyrchau ffyrnig yn y maes awyr ac o flaen gorsaf yr heddlu yn Via Laietana.

Y llywodraeth Sosialaidd ym Madrid yn cyhoeddi fod ‘problem Catalonia’ ar ben, y troseddwyr i gyd y tu ôl i’r barrau, ac chyfnod newydd ar wawrio yng Nghatalonia.
(Serch hynny, fe fydd ugeiniau – hyd yn oed cannoedd – o achosion llys dros y misoedd nesaf lle bydd y barnwyr o Sbaenwyr yn gosod cosb drom ar bobl o bob cefndir am hyrwyddo annibyniaeth i Gatalonia.)

Gweinidog Cartref Sbaen yn datgan bod yr heddlu a’r gwasanaetrh cudd-ymchwil yn mynd ati i gael hyd i gyfarwyddwr y Tsunami Democràtic a dod ag ef / hi o flaen ei well / ei gwell.