divendres, 2 de febrer del 2024

 

THE HAFOD, CREDENHILL, SWYDD HENFFORDD

(Fersiwn Saesneg ar ôl y testun Cymraeg - English translation follows the Welsh text)



.....

Diddorol yw edrych ar enwau Cymraeg yn Lloegr (problem enfawr yw enwau Saesneg ar lefydd yng Nghymru, wrth gwrs, ond rhan o broses hir-dymor o drefedigaethu i bob pwrpas yw hyn, boed yn wybodol neu’n anwybodol. Nid yw i’w gymharu ag ambell enw Cymraeg diweddar yn Lloegr!)

.....

Y mae tirwedd dwyrain Swydd Henffordd yn frith o enwau Cymraeg. Weithiau, yn eithriadol, ceir enw Cymraeg tu faes i’r ardal Gymraeg hon. Ond enwau diweddar yw’r rhain.

.....

Hafod yw un o’r enwau hyn. Enw ar dŷ ger pentref Credenhill yw / oedd, ar yr heol i Stretton Sugwas a Henfford, bedair milltir o’r ddinas honno yn ôl marciwr milltiroedd haearn bwrw gerllaw.

....

Fe’i gwelir ar Fap yr Arolwg Ordnans 1887 wedi ei sillafu â “v”: Havod.

.....

Ond enw sydd ar flin diflannu oddi ar gof trigolion y cylch erbyn hyn, mae’n debyg, am i’r tŷ gael ei ddymchwel yn lled ddiweddar.

....

(Ni wn sut y mae pobl y cylch yn ynganu’r enw “Hafod” - fel yr enw Saesneg “Hayford / Heyford” efallai?)

.....

Mae’n bosibl i’r tŷ hwn yn Credenhill gael ei enwi ar ôl Hafod Tan-y-graig, ger Beddgelert. Bu’n n eiddo i John Pryce Hamer y mae sôn amdano y blog Saesneg hwn:

https://sublimewales.wordpress.com/tourists-by.../hamer-j-p/

.....

O’r hyn a welais, wedi ei eni yn Lerpwl yr oedd, ond yn sicr o deulu fu’n hanu o Gymru - y cyfenwau ganddo yn awgrymu rhyw gysylltiad â’r Canolbarth, yn benodol â Sir Drefaldwyn.

.....

Ganed John Pryce Hamer ar 31 Rhagfyr 1815, yn fab i Henry Hamer a Martha Anne gynt Pryce o Bootle, Lerpwl.

.....

Pan oedd yn byw yn Lerpwl bu'n gweithio fel brocer stoc a chyfranddaliadau, deliwr a masnachwr. Fe’i dyfarnwyd yn fethdalwr yn 1840.

.....

Yno symudodd i ogledd Cymru a bu’n byw mewn amryw o lefydd megis:

1/ Ynys Môn

2/ Caernarfon (bu ganddo yno swyddfa o’r enw Swyddfa’r Wyddfa (“Snowdon Office “) neu Asiantaeth Wibdeithiau a Thai’r Wyddfa (“Snowdon Excursion and House Agency”) yn Rhes Segontiwm (“Segontium Terrace”) o ryw 1856 i 1859).

.....

Cyhoeddodd yn 1857 ei “deithlyfr defnyddiol â gwybodaeth am agerlongau, rheilffyrdd a heolydd ar gyfer ymwelwyr i’r Wyddfa a’r cylch” (“Hamer's Practical Steamboat, Railway, and Road Guide, to Snowdon and Around. Hamer, J. P. Caernarvon. 1857”)

Wedyn bu’n byw mewn tŷ o’r enw

3/ Hafod Tan y Graig ger Beddgelert, ym mhen gorllewinol Llyn Gwynant. Yn

1865, rhoddwyd ei gartref a'r holl gynnwys ar werth.

....

Gwyddir ei fod yn byw yn Havod, Credenhill, Henffordd erbyn 1873 am fod sôn am drawsgludiad eiddo ganddo yn Heol Uxbridge, Ealing, Llundain yn 1873: (London Metropolitan Archives: John Pryce Hamer of Havod Credenhill, Hereford, gent.)

Yr oedd wedi marw erbyn 1896.

.....

Ar fap yr Arolwg Ordnans 1877 “Havod” fu’r enw; rywbryd Cymreigiwyd y sillafiad, ac hyd ei ddymchwel “The Hafod” fu’r enw ar arwydd y glwyd ac ar fapiau Adran Cynllunio Cyngor Swydd Henffordd.

....

Yn ôl Cofnodion Cyfarfod Cyffredin Cyngor Plwyf Credenhill yn 2011 cwynodd cynghorydd am dwll mawr yn yr heol: “he also complained about a large pothole by the “Hafod.” “

....

Cyn ei ddymchwel bu’n Ganolfan “Blas ar Antur” (y "Taste for Adventure Centre" oedd. Wedyn fe’i prynwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (2016?) a’i ddymchwel yn fuan wedyn.

.....

(Yn od o beth, erys enw Cymraeg arall ar dŷ cyfagos – un o’r enw “Vron House”).

....

Y mae yn ninas Henffordd heol o’r enw “Hafod Road”, ond nid at yr “Hafod” hon y mae’n cyfeirio.

 

THE HAVOD, CREDENHILL, SYDD HENFORD

.....

It is interesting to look at Welsh names in England (the use of English names is a huge problem for places in Wales, of course, but this is part of a long-term process of colonization to all intents and purposes, whether consciously or unconsciously. It is not to be compared to the use of some recent Welsh names in England!)

.....

The landscape of east Herefordshire is full of Welsh names. Sometimes, exceptionally, there is a Welsh name outside the area of this Welsh-speaking area. But these are recent names.

.....

Hafod is one of these names. It is / was the name of a house near the village of Credenhill on the road to Stretton Sugwas and Hereford, four miles from that city according to a nearby cast iron mile marker.

....

It can be seen on the 1887 Ordnance Survey Map spelled with a "v": Havod.

.....

But it is a name that is most likely now on the point of disappearing from the memory of the residents of the area because the house was demolished quite recently.

....

(I don't know how the people of the area pronounce the name "Hafod" - like the English name "Hayford / Heyford" perhaps?)

.....

It is possible that this house in Credenhill was named after Hafod Tan-y-graig, near Beddgelert. It was owned by John Pryce Hamer who is mentioned in this English blog:

https://sublimewales.wordpress.com/tourists-by.../hamer-j-p/

.....

From what I saw, he was born in Liverpool, but he certainly came from a family from Wales - his surnames suggest some connection with Mid-Wales, specifically Montgomeryshire.

.....

John Pryce Hamer was born on 31 December 1815, the son of Henry Hamer and Martha Anne nee Pryce of Bootle, Liverpool.

.....

When living in Liverpool he worked as a stock and share broker, dealer and trader. He was declared bankrupt in 1840.

.....

There he moved to north Wales and lived in various places such as:

1/ Ynys Môn / Anglesey

2/ Caernarfon (he had an office there called the Snowdon Office or Snowdon Excursion and House Agencyin Rhes Segontiwm ("Segontium Terrace") from about 1856 to 1859).

.....

In 1857 he published his “Hamer's Practical Steamboat, Railway, and Road Guide, to Snowdon and Around”. (Hamer, J. P. Caernarvon. 1857)

He then lived in a house called

3/ Hafod Tan y Graig near Beddgelert, at the western end of Llyn Gwynant. In 1865, his home and all itscontents were put up for sale.

....

It is known that he was living in Havod, Credenhill, Hereford by 1873 because there is tmention of a property conveyance by him in Uxbridge Road, Ealing, London in 1873: (London Metropolitan Archives: John Pryce Hamer of Havod Credenhill, Hereford, gent.)

By 1896 he had died.

.....

On the 1877 Ordnance Survey map “Havod” was the name; at some point the spelling was Cymricsed, and until its demolition "The Hafod" was the name on the sign on the gate and on Herefordshire Council's Planning Department maps.

....

According to the Minutes of the General Meeting of Credenhill Parish Council in 2011 a councilor complained about a large hole in the road: "he also complained about a large pothole by the "Hafod." “

....

Before it was demolished it was a "Taste for Adventure Centre". It was then bought by the Ministry of Defense (2016?) and demolished shortly afterwards.

.....

(Oddly enough, another Welsh name remains for a nearby house - one called "Vron House").

....

There is a road in the city of Hereford called "Hafod Road", but it does not refer to this "Hafod".