Yr oeddwn ar fy ffordd i gymryd rhan mewn ras ddeg cílomedr yn Girona, 102 o gilomedrau o Barcelona. Ond bu’r trên ar stop yng ngorsaf Llinars am dri chwarter awr am fod y gwifrau uwchben yn yr orsaf nesaf (Sant Celoni) wedi cwympo i lawr. Cyrhaeddais dref Girona am 10.01, funud ar ôl i’r ras gychwyn, ac felly yr oeddwn yn rhy hwyr i ymuno ynddi.
Mae bob amser broblemau gyda’r gwasanaeth rheilffordd yng Nghatalonia am fod llywodraeth gwladwriaeth Sbaen yn gwario yr arian a godir o drethi’r Cataloniaid ar reilffyrdd a thraffyrdd, ayyb, ayyb, yn Sbaen, ac yn amddifadu Catalonia o fuddsodiadau yn ei hisadeileddau trafnidiol (ac mewn llawer sector arall).
Dyma’r “anrheithiad ariannol” neu yn Gatalaneg, “l’espoli fiscal”, sydd yn dod yn ymadrodd mwyfwy cyffredin yng Nghatalonia.
At hyn y mae rheilffyrdd Catalonia yn cael eu rheoli o bell, o brifddinas y Sbaenwyr, Madrid, ac mewn modd hynod o aneffeithiol.
Erbyn hyn y mae llawer yma yn gweld rhywbeth nad oeddynt am gredu dros y blynyddoedd – ei bod yn fwriad eglur gan y Sbaenwyr i andwyo ecónomi Catalonia, gwlad a fu hyd yn ddiweddar y diriogaeth fwyaf ffyniannus o fewn y wladwriaeth. Paham y gwelir y math yma o dorri trwyn i ddial ar wyneb ar ran y Sbaenwyr? Fel ei bod yn rhaid i Gatalonia ddal ynghlwm wrth Sbaen, am y byddai’n anhyfyw fel gwlad annibynnol. Ac os bydd yr agwedd yma yn andwyo ecónomi gwladwriaeth Sbaen i’r fargen, wel, mae gan yr Almaenwyr bocedi dyfnion.
Felly y mae’r rheilffyrdd yng Nghatalonia mewn cyflwr truenus (ar wahân i’r rheilffyrdd lleol sydd yn perthyn i islywodraeth Catalonia ei hun).
Ar ôl blynyddoedd o geisio dwyn perswâd ar lywodraeth Sbaen i adael i islywodraeth Catalonia reoli rheilffyrdd gwladwriaeth Sbaen yng Nghatalonia, er mis Ionawr eleni mae rhywfaint o gyfrifoldeb gan yr islywodraeth ar gyfer y rheilffyrdd hyn, ond cyfrifoldeb cyfyngedig tu hwnt yw (e.e. mae’r traciau, y gorsafoedd a’r rholstoc yn dal yn eiddo i’r wladwriaeth, a’r rheolaeth drostynt ac hefyd y trenau sy’n teithio tu hwnt i’r ffin i Sbaen yn dal yn nwylo’r Sbaenwyr), ac nid oes fawr o wellhâd ar y gwasanaeth hyd yn hyn. Problem arall yw mai rholstoc ail law o rwydwaith maestrefol Madrid yw’r trenau lleol fel arfer, a bod Catalonia yn fath o fynwent eliffantod ar gyfer hen gerbydau o'r "meseta castellana” (gwastadedd y Castiliaid, lleoliad Madrid).
Os nad yw’r gwifrau’n cwympo ar hyd a lled y lle, wel dyma’r trenau yn torri i lawr yma a thraw ac yn tagu’r rhwydwaith..
Mae gwefan y cwmni rheilffyrdd yn dal yn uniaith Gastileg ar lefel y wladwriaeth (dim sôn am yr Aliseg, y Fasgeg na’r Gatalaneg), ac hefyd yn Gatalonia ei hun ar gyfer gwasanaethau’r cwmni yng Nghatalonia, yn gwbl groes i ddeddfau ieithyddol Senedd Catalonia, a hynny 35 mlynedd ar ôl marwolaeth unben Sbaen.
Olé! Popeth yn Gastileg!
Ac felly, o ganlyniad anuniongyrchol i’r anrheithiad, cyrhaeddais dref Girona ar ôl i’r ras gychwyn ac yn rhy hwyr i ymuno ynddi. Ond o leiaf cefais arian pris y daith yn ôl yn y swyddfa docynnau yn Girona am fod y trên wedi cyrraedd dros bymtheng munud yn hwyr (hawl a enillwyd ar ôl brwydr hir dros y blynyddoedd am nad oedd y cwmni rheilffordd yn barod i ddychwelyd yr un senten goch o'r blaen, ac felly nad oedd dim ‘cosb ariannol’ arno, o orfod talu’r arian yn ôl i’r teithwyr, ac o ganlyniad dim ysgogiad ganddo i wellau’r gwasanaeth gwael).
Ond penderfynwyd mai cwsmeriaid oedd y teithwyr yn yr un modd â phrynwyr mewn siop. Yr oeddynt wedi talu am wasanaeth, ac yr oedd yn rheidrwydd ar y cwmni i roi i’r cwsmeriaid yr hyn yr oeddynt wedi talu amdano, serch bod yn gwmni yn perthyn i lywodraeth Sbaen.
Yr oedd yn fwriad gennyf ffilmio gwenoliaid y bondo yn gwibio i mewn ac allan o’u nythod o dan fondo’r adeilad mawreddog wrth blatfform gorsaf Llinars, lle buom yn stond. Anelais y lens at y tŷ, ond yn yr union foment honno, yn ddirybudd, dyma’r trên yn ailgychwyn, a gwelir am bum munud dirwedd ardal mynydd Montseny yn lle troelli a gwibio’r adar mân.