Edrych heno ar dudalen ystadegau y
sianel fideos sydd gennyf ar youtube.
Mae’r tudalen yn f’atgoffa imi ddodi’r
fideo cyntaf ar y wefan ar yr wythfed ar hugain o fis Ionawr 2007. Mor bell yn ôl
y bu? Synnu gweld y mae gennyf yno ryw 306 o fideos erbyn hyn.
Ond nid fideos go iawn mohonynt - rhibidires
o ffotos yn hytrach. Bu gennyf le i roi lluniau ar Picasa ond cyn pen dim o
amser yr oedd y lle wedi ei lyncu i gyd. Ar ôl peth crafu pen, penderfynais wneud
arbrawf gyda Windows Movie Maker a rhoi’r lluniau ar ffurf fideo ar youtube.
Edrychais wedyn ar y deg uchaf o’r
fideos - y rhai y gwelwyd fwyaf arnynt
yn ystod y saith niwrnod diwethaf, a cheisio dyfalu pam.
1. 09-04-2012.
1/2. Canovelles. XXII Cursa. 38
2. 09-04-2012.
2/2. Canovelles. XXII Cursa. 27
Tri-deg wyth a saith ar hugain o bobl wedi
galw cael cipolwg. Rhan un a dau o
fideo o ras a wneuthum ychydig dros wythnos yn ôl, mewn pentref ar bwys Granollers. Dodais i ddolen gyswllt ar
wefan ar gyfer athletwyr - corredors.cat - a gweld bod y rhan fwyaf o’r ‘gynulleidfa’
wedi dod o’r cyfeiriad hwnnw.
3. 08-01-2011. Big Rock (Illinois) 2/2.
Mynwent y Cymry. 24
Yn ystod yr wythnos hon mae 24 o bobl yn
yr Unol Daleithau wedi edrych ar fideo o gerrig beddau’r Cymry yn y pentref
hwnnw yn Illinois, heb fod ymhell o Chicago. Braidd yn anesboniadwy. Rhywun yn
rhywle wedi sôn amdano ar Facebook, yn ôl y tudalen ystadegau, am ryw reswm.
4. 23-04-2011.
Torroella de Montgrí. 1/2. Montgrí'ndependència. 22.
Dau ar hugain
wedi edrych ar ran un o ddau fideo o ras a gynhaliwyd y llynedd yn Torroella, ras wedi eu threfnu gan y
Pwyllgor dros Annibyniaeth i Gatalonia. Y rheswm - bydd ail ras eleni, yn cael
ei chynnal y penwythnos hwn, a mae rhywun wedi rhoi dolen-gyswllt ar gyfer y fideo ar wefan y
Pwyllgor.
5. 01-04-2012.
1/2. Els Hostalets de Balenyà. 17
Y fideo hwn ar
y wefan redwyr hefyd. Dim ond ryw wythnos ers i mi ddodi’r fideo ar youtube ar ôl
hala rhai diwrnodau yn trefnu’r lluniau. Rhai oedd wedi cymeryd rhan yn y ras yn edrych arno, yn debyg iawn.
6.23-04-2011.
Torroella de Montgrí. 2/2. Montgrí'ndependència. 11
Rhai oedd heb
ddanto ar ôl gweld lluniau'r rhan gyntaf wedi mynd ymlaen at yr ail ran.
7.03-04-2011.
Barcelona. Cursa del Corte Inglés. 8
Y penwythnos
hwn bu ras El Corte Inglés yn Barcelona, ras sydd yn rhad ac am ddim. 65,000 (!)
wedi cymeryd rhan eleni. Ond er ei bod ar stepen drws imi fel petai, a minnau
fel arfer yn ei rhedeg bob blwyddyn, eleni euthum i lawr i Tarragona i Ras Pont y Gw^r
Drwg (el Pont del Diable yw’r enw ar lafar ar y ddyfrbont Rufeinaidd yn y dref
honno).
Rhai felly a
fu’n chwilio am luniau ras ddydd Sul diwethaf, buaswn yn meddwl, a chael hyd i luniau ras y
llynedd.
Mae’r rhedwyr
a’r cerddwyr yn mynd o Plaça de Catalunya hyd at y Stadiwm Olumpaidd ar Fryn Montjuïc, ac yno y mae’r
dorf enfawr yn ymwthio i mewn i wneud tro ar y trac Olumpaidd (400 medr) cyn
ymwasgu trwy’r allanfa i’r tu allan unwaith eto i ddal ar eu hynt tua’r llinell
derfyn, yn ôl yn Plaça de Catalunya, o flaen adeilad siop El Corte Inglés.
8. 29-10-2010.
Barcelona. Carrer Aiguafreda, Horta. 8
Wyth o bobl
wedi edrych ar luniau o hen stryd yn y rhan hon o’r ddinas lle y bu
golchwragedd yn byw ac yn ennill eu bywoliaeth trwy olchi dillad y bobl gefnog mewn
golchdai bach yn eu gerddi ffrynt.
9. 31-03-2012.
1/2. Tolosa. Anem Òc! Per la lenga occitana! 5
Pump wedi edrych
ar luniau o’r gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg yn nhref Tolosa (Ffrangeg: Toulouse)
y bûm ynddo ychydig dros bythefnos yn ôl.
10.01-04-2012.
2/2. Els Hostalets de Balenyà. 5
Rhai dewr eto
wedi mynd ymlaen i weld y llwyth o luniau yn yr ail ran.
A dyma ddiwedd
ar y dadansoddiad diangen a hirwyntog hwn.