Ar ôl y gwrthdystiad yn Tolosa ddydd Sadwrn cyraeddasom
yn hwyr yn ôl ym mhrifddinas Catalonia. Bu’n ddau o’r gloch arnaf cyn cael
cropian i mewn i’r gwely - a bu rhaid codi am saith i nôl y trên wyth i Els
Hostalets de Balenyà, yn Swydd Osona, i gymryd rhan mewn hanner márathon mynydd
(math ar Ras Eryri heb y glaw).
Ddim yn cofio llawer
amdani - fel y mae rhai’n cerdded drwy eu hun, rwy’n amau imi redeg yn fy
nghwsg. Ond mae rhaid fy mod wedi gwneud y ras am fod gennyf y lluniau i’w
brofi. Ardderchog o le, golygfa wych o grib y mynydd dros Wastadedd Vic. Un o gadarnleoedd yr iaith Gatalaneg yw'r ardal hon (mae'r iaith wedi diflannu i bob pwrpas ymhlith y rhan fwyaf o'r boblogaeth erbyn hyn, wrth i'r Catalaniaid ddod yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain. Ond stori arall yw honno).
http://www.youtube.com/watch?v=zL0bAF4Hf3s&feature=relmfu
Rhan 1 - i ben y mynydd
http://www.youtube.com/watch?v=YRnIWooyeXg&feature=relmfu
Rhan 2 - yn ôl i’r gwastadedd
Bydd ras debyg gennyf o
fewn pythefnos - Hanner Márathon dros Annibyniaeth Catalonia, yn Torroella de
Montgrí, yn Swydd Baix Empordà. Dyma sut y bu hi’r llynedd (dim ond ras 10km
fu yn 2011).
http://www.youtube.com/watch?v=BZc4lfKwWT0
Rhan 1 - hyd at feudwyfa Santa Caterina
http://www.youtube.com/watch?v=ZSNVCXlSk3c
Rhan 2 - yn ôl at y llinell gychwyn.