divendres, 16 de desembre del 2016

LLYWYDD SENEDD CATALONIA CARME FORCADELL O FLAEN Y LLYS




(Adroddiad wedi ei roi ar Facebook gennyf y bore 'ma)
Y Ddraig Goch yn dangos cefnogaeth i Carme Forcadell (neu o leiaf, fi a Meic Gymro o flaen adeilad y llysty, a’m capan draig goch am fy mhen) am naw o’r gloch y bore ’ma, yn Passeig Lluís Companys, Barcelona). Yn y fideo (26 eiliad) dyma Carme’n mynd i mewn i’r adeilad.
Llywydd Senedd Catalonia yw Carme, ac mae hi’n wynebu ‘Cyfiawnder’ Gwladwriaeth Sbaen am ganiatáu trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ar gasgliadau’r comisiwn y ‘Procés Constituent’. Comisiwn yw hwn a fu’n astudio llunio cyfansoddiad ar gyfer gweriniaeth annibynnol arfaethedig Catalonia.
Pam mae rhaid i lwydd Senedd fynd o flaen llys wedi ei chyhuddo o anufudd-dod a chamymddygiad bwriadol, a gwynebu cael eu gwahardd rhag bod yn aelod seneddol neu hyd yn oed cael ei defrydu i garchar? Y TSJC yw’r llys dan sylw (Tribunal Superior de Justícia de Catalunya / Tribiwnal Uchaf Cyfiawnder Catalonia), sef llys o farnwyr o Sbaen sydd yn gweinyddu cyfiawnder yng Nghatalonia.
Rhaid sylweddoli nad oes, i bob pwrpas, wahaniad pwerau yn bod yng ngwladwriaeth Sbaen, a’r pwerau gweithredol, deddfwriaethol a chyfreithyddol yn un, yn nwylo’r Partido Popular, sydd mewn grym ym Madrid.
A rhaid cofio mai olynwyr yr unben Franco sefydlodd y Partido Popular (neu o leiaf, yr Alianza Popular, a newidiodd ei enw nes ymlaen) sydd yn rheoli gwladwriaeth Sbaen. Mae dylanwad yr unben yn drwm ar y blaid honno, yn enwedig y syniad o’r ‘sagrada unidad de España’ (undod sanctaidd Sbaen). At hyn, fe wyddys mai dymuniad olaf yr unben Franco ar ei wely angau fu am i’r brenin, a roes yn ei le fel pennaeth y wladwriaeth, ‘amddiffyn undod sanctaidd Sbaen’.
Rhaid ychwnaegu fod y PSOE (Partido Socialista Obrero Español / Plaid Sosialaidd y Gweithiwr Sbaenaidd) a’u plaid ranbarthol yng Nghatalonia (Plaid Sosialaidd Catalonia) yn gant y cant o blaid y Partido Popular yn mynnu dwyn gwleiddyddion sy’n cefnogi annibyniaeth o flaen eu ‘gwell’.
Mae Senedd Catalonia am gynnal refferendwm ‘swyddogol’ (hynny yw, wedi ei drefnu ar ôl dod i gytundeb â llywodraeth Madrid) a chyfrwymol ar y fater, ond mae Madrid yn ddi-ildio ac yn gwrthod y syniad yn llwyr.
Un ffordd o ddistewi llais y werin, yn nhyb llywodraeth Sbaen, yw trwy ddwyn achos o drosedd yn erbyn gwleiddyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gatalonia, a gyrru ofn felly ar y mudiad dros annibyniaeth.