dijous, 22 de desembre del 2016

TWYN-STAR

(Addasiad o sylw a ddodwyd gennyf ar y fforwm Enwau Lleoedd)

Wrth geisio dyfalu ym mha le yn Nhredegar y mae ‘Y Twyn’ penderfynais taw Twyn-star y dylai fod – hynny yw, os rhan o etholaeth Sir Frycheiniog bu Duketown ar un adeg. 



Bûm yn chwilio am ryw lun o Dwyn-star (Tredegar) fel y mae heddiw a chefais hyd i beth rhyfedd yno – arwydd heol dwyieithog lle mae’n ymddangos bod yr enw Cymraeg (ond bod gair Saesneg yn rhan ohono) wedi ei gyfieithu... i’r Gymraeg.

Yn Dukestown y mae Twyn-star / Twyn-y-star, o enw tafarn (The Star Inn) lled adnabyddus a fu yno ar un adeg. Bryncyn ac arno dafarn, felly.

Ond i bob golwg mae’r enw wedi ei ddehongli fel pe buasai’n enw Saesneg ag iddo’r ystyr ‘seren y twyn’.

Felly dyna’r enw Cymraeg o dan yr enw Saesneg ar arwydd heol ddwyieithog yn y lle hwnnw, sef ‘Seren Twyn’.



Tybed ai Twyn-star yw'r twyn dan sylw yn yr adroddiad uchod, mewn colofn yn y Darian sydd yn sôn am Dredegar? Ai'r 'Star Inn' yw 'tafarn y twmp' y cyfeirir ato yno?

Dyma lun arall o Dredegar. Nes at ganol y dre y mae arwydd dwyiethog arall ond yn anffodus, mae ‘ffordd’ wedi mynd yn ‘fford’ arno!



Rwy wedi dod o hyd i’r ddau lun o'r dre ar y rhyngrwyd – wn i ddim a yw’r arwyddion yn dal yno. Ond maent yn haeddu sylw bach, dybiwn i.