Y mae trafodaeth ddiddorol ar y fforwm 'Enwau Lleoedd', a gychwynnwyd gan Dylan Foster Evans, ar ddefnydd cyfoes y ddwy ffurf ar enw’r afon Elái (hynny yw, ai Elái ynteu Élai yw’r enw)?
Dyma sylw gennyf innau y bore yma, wedi ei gopïo i’r blog yma gan nad wyf wedi dodi dim arno ers dros fis!
Parthed (elái) ac (élai), a oes enghreifftiau eraill i’w cael yng Nghymru o ddau enw cyfredol ar yr un afon?
Mae enghraifft hybsys yn Lloegr o afon ac iddi ddau enw, sef Tafwys yn ninas Rhydychen – a adweinir hefyd yn y fan honno fel 'Isis'.
Yn ôl erthyglau gan wikipedia ar Isis a Thames (y darnau canlynol o'r erthyglau wedi eu cyfieithu, a’u haddasu yn sylweddol, o’r Saesneg),
"Enw arall ar Afon Tafwys yw “Isis” a ddefnyddir ar gyfer y rhan o'i tharddiad ym Mryniau’r Cotswold (Thames Head yn Swydd Gaerloyw) hyd at aber Thame yn Dorchester yn Swydd Rydychen...
Mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dal i roi "River Thames or Isis” ar ei fapiau fel enw’r afon hyd at Dorchester. Fodd bynnag, ers dechrau'r 20fed mae’r enw Isis wedi colli yn gyffredin fel enw arall ar yr afon ar wahân i’r darn yn ninas Rhydychen...
Awgrymwyd gan rai haneswyr fod yr enw Isis yn ei wreiddyn (ffurf gynharaf 1350 Isa; yn 1577 ceir Isis am y tro cyntaf) yn dalfyriad o’r enw Lladin ar yr afon, sef Tamesis.”