dimecres, 31 de maig del 2017

Y Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif, yn y fro rhwng y Fenni a Threfynwy


Yn llyfr J. E. Southall (1855-1928) “Wales And Her Language Considered From A Historical, Educational And Social Standpoint  With Remarks On Modern Welsh Literature And A Linguistic Map Of The Country. Newport, Mon. 1892” ceir sylwadau diddorol am gyflwr y Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy yn y cyfnod hwnnw, ganrif a chwarter yn ôl..

Dyma a ddywedir ym Mhennod 9 o’r llyfr, lle y mae’n sôn am y ffin rhwng yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith a’r ardaloedd Seisnigedig.

(Am mai blog Cymraeg yw hwn, yr wyf wedi trosi’r hyn a ddywedwyd ganddo o’r Saesneg. Ceir y testun gwreiddiol yn nghwt pob trosiad.)

O ysgrifbin y Cyrnol J. A. Bradney y daw y darn a ganlyn. Yn Nghwrt Tal-y-coed, saith milltir o Drefynwy, mae’r cyrnol yn byw ac nid oes odid neb cymhwysach i siarad am gyflwr yr iaith yn nwyrain y Sir (= yn nwyrain Sir Fynwy). Yn ogystal â siarad Cymraeg y mae hefyd yn darllen yr iaith.

“Fe ddysgais innau’r Gymraeg gan frodor o Langatwg Dyffryn Wysg, sydd o hyd yn fyw ac yn byw yn gyfagos ac yn gweithio bob dydd yn y lle hwn. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o'r iaith, er ei fod yn gwbl ddiaddysg. Yr wyf yn credu bod gwybodaeth o’r Gymraeg gan bawb o hen bobl y fro o gwmpas Langatwg Dyffryn Wysg. Yn Llangatwg Feibion ​​Afel nid oes neb ar ôl sy'n medru siarad Cymraeg, er bod sawl un o'r hen bobl yn gwybod rhywfaint ac yn gallu deall brawddegau syml; ond mae offeirad yn dweud wrthyf iddo ddarganfod, ryw 25 mlynedd yn ôl pan oedd yn gurad yn Llangatwg Feibion ​​Afel, bod y to hŷn ym mhentref Llanfaenor (ym mhlwyf Llangatwg Feibion ​​Afel) yn go brin eu Saesneg ac iddo fynd i'r drafferth o gael hyd i lyfrau defosiynol yn Gymraeg iddynt, a buont yn ddiolchgar iawn iddo am hynny.

Yn Llandeilo Gresynni mae’r genhedlaeth hŷn o bobl y fro, er nad ydynt yn gallu sgwrsio ryw lawer, yn gallu deall Cymraeg i raddau, a byddant yn cwyno bod eu rhieni yn arfer siarad Cymraeg gyda'i gilydd, a Saesneg i'w plant. Gellir dweud yr un peth am bob un o’r plwyfi o gwmpas y fan hyn – Pen-rhos, Tre-gaer, Llanfihangel Ystum Llywern, Llanddingad, ac yn y blaen. Pentref Cymraeg oedd Llanarth hyn yn lled ddiweddar. Dywedodd  gwraig oedrannus o’r fan honno wrthyf, un sy'n siarad Cymraeg, ac yn enedigol o'r Pit, ger Clydda, fod pawb o drigolion y Pit yn siarad Cymraeg yn arferol yn nyddiau ei phlentyndod. Yn Llanfable ceir ambell wasanaeth Cymraeg yn y capel, ac yng nghapel Llanddewi Rhydderch cynhelir gwasanaeth Cymraeg yn aml. Yng nghapel Tal-y-coed ceir gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol.




Ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae boblogaeth y fro i gyd wedi newid i raddau syfrdanol – mae mewnfudwyr wedi dod o bob man, ac mae’r brodorion wedi symud allan i fannau eraill. Mae wedi digwydd i'r fath raddau yn y plwyf hwn, Llanfihangel Ystum Llywern, nes nad oes ond un unigolyn, dyn canol-oed, sydd yn enedigol o’r fan hon. Mae’r trigolion eraill bob un (ac eithrio, wrth gwrs, y plant) wedi eu geni yn rhywle arall. Mae'r un peth wedi digwydd yn y plwyfi cyfagos i’r un graddau fwy neu lai. Felly pan eir ati i gael hyd i rywrai oedrannus neu ganol-oed a all ddweud rhywbeth am yr hyn a ddigwyddai yn y dyddiau a fu, gwaith anodd yw cael hyd i rywun o'r fath. Wrth gwrs, ymhlith y llu o fewnfudwyr sydd wedi dod yma y mae llawer sy'n siarad Cymraeg, ac y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal eu hiaith, ac yn helpu i’r rhai sydd yma eisoes i’w cadw ar lafar. Yr wyf innau yn un o'r rhai sydd, boed yn gam neu'n gymwys, yn gwneud popeth i gefnogi’r iaith, a dwyn perswâd ar bobl i siarad â'u plant yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg.”





O blith y Cymry Cymraeg sydd yn gweithio imi y mae tri o Sir Fynwy – un sydd yn hanu o Langatwg Dyffryn Wysg, un a anwyd yn Llanddewi Fach, ond a fagwyd yn Llangybi, ac un arall a anwyd yn Llanofer.


Gellir gweld y pennod i gyd yn y fan hon: 

DIWEDD