diumenge, 5 de febrer del 2006

Ymgyrch ebost yn erbyn cylchgrawn yn Saesneg

Ebost neithiwr gan Gymdeithas yr Iaith Gatalaneg (Plataforma per la Llengua) yn gofyn i bobl brotestio yn erbyn erthygl gwbl hiliol yn erbyn y Catalaniaid mewn cylchgrawn a sefydlwyd gan Saeson yma yn Barcelona, sef Barcelona Connect. Dyma fi’n ysgrifennu at fforwm Catalaneg i ofyn i bobl hala neges at y cylchgrawn i gwyno.

Mae'r Prydeinwyr sydd yn dod i fyw yma (Saeson, ac ysywaeth y rhan fwyaf o’r Cymry a’r Sgotiaid hefyd) yn hollol ddirmygus eu hagwedd tuag at y Catalaniaid. Rhaid dweud hefyd fod y ‘bobl ddwad’ o'r Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a'r gwledydd Llychlynaidd yr un mor elyniaethus tuag at y Catalaniaid. A'r Gwyddelod yw'r gwaethaf am ryw reswm.

Ychydig ychydig iawn sydd yn dysgu Catalaneg; mae nhw'n martsio o gwmpas fel rhyw fath o gyrchfilwyr yn siarad math o Gastileg òd ac yn meddwl eu bod yn Gastiliaid go iawn.

Beth yw’r rheswm am hyn? Yn ôl y Catalaniaid, mae'r bobl hyn wedi meddwl taw i Sbaen yr oedden nhw'n dod, lle mae ymladd teirw ar ben pob heol, lle mae'r bobl yn dawnsio fflamenco trwy'r dydd ar bob sgwâr, a'r dynion yn cael siesta trwy'r pnawn, yn eistedd ar y palmant dan bwyso yn erbyn y wal, o dan hetiau mawr Mecsicanaidd; ac yn yfed ac yn canu yn y bar hyd oriau mân y bore.

Ond
Catalonia sydd yma, nid Andalusia, neu llai fyth Mécsico. Nid felly yw’r Catalaniaid.

Ond... y mae yma bobl o Andalwsia. Anfonodd llywodraeth yr unben Franco filiwn a hanner ohonynt i Gatalonia, i wlad o dair miliwn o Gatalanaid, fel rhan o gynllun i wanhau’r iaith Gatalaneg. Yr oedd y bobl yn dal i'w siarad er iddi gael ei gwthio allan o bob ysgol, gweinyddiaeth a swyddfa.

Gan i'r mewnfudwyr gadw at ei gilydd mewn getos, ar y cyfan dy^n nhw ddim wedi dod yn Gatalanwyr. Mae'r rhan fwyaf yn deall Catalaneg- ddim mor anodd, am fod Catalaneg a Chastileg yn ieithoedd tebyg iawn. Ond maen nhw'n gwrthod siarad yr iaith, am mai yn ‘Sbaen’ y^n nhw, a dim ond un iaith sydd yn Sbaen, sef y Gastileg. Mae’r plant wedi dysgu Catalaneg yn yr ysgolion, ond gan nad Catalaniaid y^n nhw, yn eu tyb nhw, maen nhw (ar y cyfan) yn gwrthod ei siarad.

Gan i lywodraeth Franco roi gwahardd ar yr iaith Gatalaneg am ddeugain mlynedd ymron, a gorfod i bawb dysgu Castileg, mae'r Catalaniaid yn prysur cefnu ar eu hiaith am ei bod yn 'fwy naturiol' i siarad Castileg â phawb erbyn hyn.

Yn fyr, gellir dweud fod y Prydeinwyr gwrth-Gatalanaidd (a’r lleill o’r un anian o wledydd eraill) yn hunaniaethu â'r carfanau mwyaf Ffasgaidd o'r mewnfudwyr a'u disgynyddion - y rhai sydd yn hiraethu am Franco, ac yn gweld y Catalaniaid fel gelynion.

A phan maen nhw'n sefydlu cylchlythyron a chylchgronau - ow! mae temtasiwn fawr gan y Prydeinwyr hyn i ddangos eu gelyniaeth tuag at y Catalaniaid bob gafael.

A dyma Barcelona Connect y mis hwn - erthygl yn cyhuddo'r blaid ranbarthol adain-dde CiU a'r blaid genedlaethol adain-chwith ERC o fod yn bleidiau 'yr hil bur', galw ‘Cataloonies’ arnyn nhw, a rhibidires o sarhadau eraill.

Ond dyna anwybodus yw’r ffyliaid hyn o Brydeinwyr, wrth sôn am “hil Gatalonaidd”. Mae’r Catalaniaid yn derbyn eu bod yn bobl gymysg yn hanesyddol ac yn enwedig ar ôl y mewnlifiadiau dros y can mlynedd diwethaf, a bod croeso i bawb ddod yn Gatalan - a hyn a wneir trwy ddysgu siarad Catalaneg.

Ond bu mewnlifiad Franco yn y chwedegau a saithdegau yn rhy fawr i’w gymathu. At hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf y mae mwy na miliwn o fewnfudwyr wedi dod i fyw i Iarllaeth Catalonia, sef mwy neu lai y ‘Gatalonia’ ar y mapiau, ac felly mae’r boblogaeth wedi codi ar un llam o chwech i saith o filiynau. Pobl o Dde América yw’r rhan fwyaf, yr un mor elyniaethus tuag at y Catalaniad, am eu bod nhw wedi dod i fyw i ‘Sbaen’.

Mae’r Catalaniaid yn cymathu erbyn hyn at y newydd-ddyfodiaid.

Yn fyr, cafwyd erthygl warthus gan ryw Brydeiniwr (neu o bosibl rhyw Wyddel), ag ymgyrch ebost i gwyno. Does fawr o Saesneg gan y Catalaniaid a dy^n nhw ddim yn gweld yr hyn y mae’r Prydeinwyr yn ysgrifennu amdanyn nhw. Ond y tro hwn, wrth gael gweld yr hyn a ddywedwyd amdanyn nhw, mae llawer wedi anfon ebost at y cylchgrawn. Ac y pnawn yma cefais ebost gan y cylchgrawn yn cynnig rhyw esgus taw ‘erthygl heb ei golygu’ oedd wedi ei phrintio ‘trwy gamgymeriad’, eu bod yn edifar am hyn, ac y bydd ymddiheuriad yn y rhifyn nesaf.


http://www.racocatala.com/forum/llegir.php?idf=2&fil=14994&pag=1#674797

2 comentaris:

Rhys Wynne ha dit...

S'mai Bych, dwi wedi blogio am hwn yma:
http://gwenudanfysiau.blogspot.com/2006/02/gwladychwyr-catalonia.html

Hefyd, trwy gyd ddigwyddiad, dois ar draws y wefan canlynol gan bobl dwad i'r wlad. Ar y cyfan mae sylwadau arno ychydig yn fwy goluedig:
http://www.barcelonareporter.com/index.php/news/comments/3900/

Anònim ha dit...

Helo Bachan Main!
Com estem?
Dwi'n helpu rhywun sy'n chilio am Gymro yn Catalunya

Mae David Fornès, golygydd y wefan Catalaneg “Món Divers” www.mondivers.cat wedi fy ngysylltu yn holi am fanylion cysywllt unrhyw Cymry sy'n byw yng Nghatalonia.

Mae Món Divers yn brosiect arbennig o dda, rwyf yn ceisio cynorthwyo gyda wybodaeth am Gymru – dwi'n cymryd eu bod nhw'n chwilio am rhywun yn nes atynt y gallent eu holi.

Buaswn yn hynod o ddiolchgar petai chi'n gallu ei gysylltu trwy www.mondivers.cat
Moltes gràcies!
Huw